Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Swyddogaeth y Cyngor Sir

Yn y gaeaf, mae'r Cyngor yn cadw golwg ar y tywydd a'r rhagolygon ac yn rhoi lorïau ar waith i daenu graean ar y ffyrdd er mwyn atal rhew rhag ffurfio ac eira rhag pentyrru a chaledu. Mae swch eira ar bobl lori sy'n galluogi'r gyrwyr i wthio'r eira at ymyl y ffordd, yn ogystal â chyfarpar cyfathrebu electronig sy'n galluogi'r Cyngor i fonitro lleoliad a chynnydd pob lori. Eir ati ymlaen llaw i gynllunio pa ffyrdd a gaiff eu graeanu, fel y gellir trin y ffyrdd mwyaf hanfodol, yn gyntaf.

Cawn ragolygon y tywydd yn ddyddiol gan MetDesk gan arbenigwyr profiadol sy'n monitro'r tywydd drwy gydol y dydd a'r nos saith niwrnod yr wythnos.

Os tybir y bydd rhew neu eira bydd y Cyngor Sir yn rhoi graean ar ffyrdd sydd wedi eu pennu ymlaen llaw y penderfynwyd mai nhw yw'r rhai mwyaf allweddol i fwyafrif o ddefnyddwyr ffyrdd Ceredigion. Mae'r ffyrdd hyn yn ymestyn am oddeutu 458 cilometr, sy'n cynrychioli tua 20% o rwydwaith ffyrdd Ceredigion ac yn cynnwys system yr holl gefnffyrdd, y prif ffyrdd a'r ffyrdd B, C a di-ddosbarth pwysig.

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw, ac ar ôl gorffen trin system y Cefnffyrdd, y Prif Ffyrdd a ffyrdd eraill a nodwyd fel y prif rwydwaith, gellir trin ffyrdd eraill, llwybrau troed, llwybrau beiciau a meysydd parcio yn nhrefn eu blaenoriaeth.

Os bydd eira wedi cronni, bydd sychau eira confensiynol yn clirio'r ffyrdd ac os bydd tywydd eithriadol o wael, defnyddir chwythwyr eira, cloddwyr a rhawiau llwytho.

Mae gan yr adran hefyd nifer o finiau graean at ddefnydd gyrwyr a cherddwyr, ac mae'r rheiny i'w cael yn bennaf ar rannau o'r rhwydwaith nad ydynt ar y ffyrdd sydd wedi eu pennu ymlaen llaw, mewn mannau trafferthus hysbys ar hyd a lled y sir.