Cwestiynau Cyffredin - Gwasanaeth Dros y Gaeaf Ceredigion
Isod, ceir atebion ar ffurf pwyntiau bwled i rai o’r cwestiynau a ofynnir yn aml am wasanaeth gaeaf y Cyngor.
Gwasanaeth Gaeaf eleni drwy ddilyn y ddolen hon: Cynllun Gwasanaeth Dros y Gaeaf 2025-2026
- Pwy sy’n gyfrifol am y biniau graean?
- Pam mae gwahanol liwiau o finiau graean?
- Sut alla i wneud cais am fin graean?
- Ble mae'r cyngor yn graeanu?
- Beth mae graeanu yn ei olygu?
- Pryd mae'r cyngor yn graeanu?
- Pam nad yw tymheredd yr aer yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau?
- Beth sy'n digwydd pan fydd y cyngor yn graeanu?
- Pwy sy’n cymryd rhan yn y gwaith graeanu?
- Pam mae rhai cerbydau graeanu ar y ffordd heb fod yn gwasgaru halen?
- Beth na all y Cyngor ei wneud?
- Sut allwn ni baratoi ar gyfer y gaeaf?
Pwy sy’n gyfrifol am y biniau graean?
- Fel arfer, y Cyngor sy’n darparu’r biniau graean ac yn eu cynnal gyda chyflenwad o gymysgedd halen/graean lle bo hynny’n gwella diogelwch ar y ffyrdd ac o fudd i’r gymuned.
- Nid yw’n bosibl i’r Cyngor ddarparu biniau graean ym mhobman. Mae biniau graean wedi’u lleoli mewn mannau strategol ar draws y sir ac fe’u darperir i’w defnyddio ar y Briffordd Gyhoeddus yn unig (y ffordd gerbydau ac ar y droedffordd). Maent yno i helpu defnyddwyr y ffyrdd, gan gynnwys cerddwyr. Nid yw’r graean i’w ddefnyddio ar eiddo preifat.
- Rydym yn llenwi’r holl finiau graean cyn dechrau tymor y gaeaf. Os bydd cyflenwadau halen ac adnoddau’n caniatáu, byddwn yn ail-lenwi’r biniau ar ôl derbyn cais i wneud hynny.
Pam mae gwahanol liwiau o finiau graean?
- Mae lliw’r bin graean yn dangos pwy sy'n gyfrifol am ei lenwi a'i gynnal. Mae biniau graean y cyngor yn felyn. Mae biniau graean y Cynghorau Tref/Cymuned yn wyrdd.
Sut alla i wneud cais am fin graean?
- Gallwch wneud cais am fin graean drwy gysylltu â’r Cyngor yn y ffordd arferol: Cysylltwch â ni - gan roi disgrifiad manwl o’r lleoliad dymunol ar gyfer y bin.
- Ar ôl derbyn y cais, bydd swyddog yn ymweld â’r safle ac yn cynnal asesiad o’r lleoliad i benderfynu ar ei fudd a’i addasrwydd gan ddefnyddio matrics a bennwyd ymlaen llaw.
- Os caiff y lleoliad ei asesu fel man buddiol ac addas, trefnir y gwaith o osod y bin.
- Oherwydd cyllidebau cyfyngedig, efallai na fydd y bin yn cael ei osod yn syth ar ôl asesiad cadarnhaol.
- Er mwyn cyflymu’r broses, gall Cynghorau Tref a Chymuned brynu biniau melyn eu hunain ar gyfer lleoliadau sydd, ar ôl asesiad, wedi cyrraedd y sgôr darged ofynnol. Bydd y rhain wedyn yn cael eu cynnal, eu llenwi a’u hail-lenwi gan y Cyngor.
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned hefyd brynu biniau graean gwyrdd i’w gosod mewn lleoliadau nad ydynt wedi cyrraedd y sgôr darged ofynnol ar y matrics sgorio ond sydd wedi'u hasesu fel lleoliadau addas. Bydd y Cynghorau wedyn yn gyfrifol am lenwi ac ail-lenwi’r biniau gwyrdd hyn.
Ble mae'r cyngor yn graeanu?
- Nid yw’n bosibl trin pob ffordd yn y sir, ond ein nod yw cadw’r prif lwybrau’n glir er mwyn lleihau tarfu ar bobl sy’n teithio i’r gwaith ac yn dychwelyd adref.
- Mae 9 prif lwybr o fewn Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw Ceredigion. Ar hyn o bryd, rydym yn trin tua 21.5% o’r rhwydwaith ffyrdd, sy’n cyfateb i’r hyn y mae ein hawdurdodau cyfagos yn ei wneud.
- Cafodd y llwybrau graeanu rhagofalus ymlaen llaw eu nodi gan ddefnyddio matrics cymeradwy sy’n ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys maint traffig, canolfannau preswyl a chyflogaeth, ystadegau gwrthdrawiadau traffig ffyrdd ac uchder.
- Adolygwyd y Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw ddiwethaf yn 2024, fel rhan o adolygiad llawn o’r Gwasanaeth Gaeaf.
- Byddai graeanu pob modfedd o'n rhwydwaith ffyrdd yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd, ond nid cost yw'r unig ffactor sy'n atal awdurdodau priffyrdd a chynghorau lleol rhag graeanu ym mhobman.
- Nid yw'r rhan fwyaf o ffyrdd bach a phalmentydd yn cael eu trin â halen yn rheolaidd. Mae llawer o ffyrdd na ellir cael mynediad atynt gan lori graeanu draddodiadol.
- Caiff hyd y rhwydwaith y gallwn ei graeanu ymlaen llaw ei bennu gan yr adnoddau sydd ar gael — adnoddau dynol ac ariannol.
Beth mae graeanu yn ei olygu?
- Mae graeanu yn cynnwys gwasgaru halen craig ar y ffyrdd i atal iâ rhag ffurfio.
- Yn ystod eira trwm, gall aradr eira gael ei gysylltu â’r cerbydau graeanu i glirio eira oddi ar y ffyrdd.
- Efallai eich bod yn meddwl, gan ein bod yn defnyddio’r term “graeanu”, fod ein cerbydau’n gwasgaru graean. Mewn gwirionedd, gelwir y gweithgaredd yn graeanu oherwydd, yn hanesyddol, defnyddiwyd graean. Heddiw, rydym yn defnyddio halen craig – sef yr halen brown a welwch yn aml mewn biniau graean.
- Nid toddi iâ yn unig y mae halen yn ei wneud; mae hefyd yn gwella gafael ac yn lleihau’r perygl o lithro mewn amodau rhewllyd.
Pryd mae'r cyngor yn graeanu?
- Mae’r Gwasanaeth Gaeaf ar waith, ac mae ein criwiau graeanu ar alwad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o ddechrau mis Hydref tan ddiwedd Ebrill, gan gynnwys Dydd Nadolig a Dydd Calan.
- Rydym yn barod i raeanu’r Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw pryd bynnag y rhagwelir rhew, iâ neu eira.
- Mae gan Geredigion rota o swyddogion hyfforddedig ac ymroddedig sy'n penderfynu pryd mae angen cynnal graeanu rhagofalus a faint o halen craig i’w ddefnyddio.
- Wrth wneud penderfyniadau ynghylch graeanu, mae swyddogion yn defnyddio rhagolygon tywydd arbenigol, systemau cyfrifiadurol rhagfynegi iâ, a gwybodaeth o orsafoedd tywydd ymyl y ffordd er mwyn cael y darlun mwyaf cywir o ble a phryd y mae iâ yn debygol o ffurfio.
- Mae’r rhagolygon a dderbynnir gan ganolfannau tywydd arbenigol yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis lefelau disgwyliedig o law, gwynt, eira, rhew, iâ ac, yn bwysicaf oll, tymheredd y ffordd.
- Mae tymheredd y ffordd, yn hytrach na thymheredd yr aer, yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu pryd i raeanu.
- Lle bo’n bosibl, cynhelir graeanu pan nad yw’n bwrw glaw, er mwyn osgoi'r graean yn cael ei olchi i ffwrdd.
Pam nad yw tymheredd yr aer yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau?
- Efallai y byddwch yn deffro yn y bore ac yn sylwi bod eich car wedi'i orchuddio â rhew ond dyw’r ffordd heb gael ei thrin ymlaen llaw. Mae hyn oherwydd nad yw tymheredd yr aer yn ddangosydd da o dymheredd y ffordd.
- Mae tymheredd yr aer a'r ffordd yn aml yn wahanol oherwydd ffactorau megis ynni’r haul, sy'n cynhesu wyneb y ffordd yn uniongyrchol, a gallu'r ffordd i gadw gwres.
- Gall y gwahaniaeth rhwng tymheredd yr aer a’r ffordd fod yn sylweddol — gall arwyneb y ffordd fod hyd at 10°C yn gynhesach neu’n oerach na’r aer, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn, amser y dydd, ac amodau eraill megis cysgod neu wynt.
- Yn yr hydref, mae’r ffordd fel arfer yn gynhesach na’r aer gan fod y ddaear o dan y ffordd yn cadw'r gwres ers yr haf. Yn y gwanwyn, gall y gwrthwyneb fod yn wir, gyda’r ffordd yn oerach na’r aer gan fod y ddaear oddi tano’n dal yn oer ar ôl y gaeaf.
- Mae pontydd yn tueddu i oeri'n gyflymach gan eu bod yn agored ac yn cael eu hamddifadu o wres y ddaear.
Beth sy'n digwydd pan fydd y cyngor yn graeanu?
- Mae timau gwasanaeth y gaeaf wedi'u lleoli yn Nepo Glan yr Afon yng Ngogledd y sir a Depo Penrhos yn y De.
- Yn gyffredinol, rhennir rhediadau graeanu yn sifftiau bore a sifftiau gyda'r nos.
- Pan wneir penderfyniad i raeanu, bydd goruchwylwyr a gyrwyr y cerbydau graeanu yn ymgynnull yn y depo ar yr amser penodedig ac yn llwytho’r cerbydau cyn mynd allan ar eu llwybrau.
- Os bydd yr amodau tywydd yn gwaethygu ac yn parhau am gyfnod hir, bydd ein gweithredwyr a’n goruchwylwyr yn cymhwyso patrwm sifft ac yn cynnal gweithrediadau graeanu ‘trwm’ 24/7.
- Gan ystyried cyfnodau gorffwys, newid gyrwyr, ail-lenwi tanwydd, ail-lenwi’r cerbyd ag halen craig ac archwilio diogelwch y cerbyd, mae graeanu trwm yn cynnwys cynnal o leiaf 6 rhediad fesul llwybr ym mhob cyfnod o 24 awr, ddydd a nos, gan ddefnyddio’r swm mwyaf posibl o halen craig y gellir ei ddefnyddio.
- Ar gyfartaledd, mae rhediad graeanu rhagofalus ymlaen llaw yn cymryd tua 3 awr i’w gwblhau, o’r eiliad y mae’r cerbyd yn gadael y depo hyd nes iddo ddychwelyd i’r depo.
- Nid yw graeanu yn golygu y bydd wyneb y ffordd yn rhydd o iâ ar unwaith. Dim ond dechrau’r broses ddadrewi yw gwasgaru halen craig ar y ffordd. Mae traffig yn symud halen ar draws y ffordd yn hanfodol i gwblhau'r broses. Dros nos, pan fo llai o draffig, gall ffyrdd aros yn rhewllyd am beth amser.
- Mae halen ond yn toddi eira’n effeithiol pan fo’r eira’n llai na 40mm o ddyfnder ac y gall traffig ei symud o gwmpas. Mae'n hanfodol ein bod yn aredig eira ffres i ddyfnder lle mae'n 40mm o drwch neu lai cyn gwasgaru halen graig.
- Mae dŵr yn rhewi ar 0°C, ond mae presenoldeb halen yn atal y dŵr rhag rhewi tan i’r tymheredd ostwng i -6°C neu -8°C. Fodd bynnag, mae halen yn dechrau colli ei effeithiolrwydd ar -5°C ac mae bron yn aneffeithiol ar dymheredd is.
Pwy sy’n cymryd rhan yn y gwaith graeanu?
- Daw ein staff hyfforddedig, sy’n gyrru ac yn gweithredu’r cerbydau graeanu, yn bennaf o’r Gwasanaeth Cynnal a Chadw Priffyrdd, ond hefyd o’r timau Gwastraff, Glanhau Strydoedd, Cynnal a Chadw Tiroedd a Chynnal a Chadw Cerbydau.
- Weithiau, efallai na fydd gyrwyr y cerbydau graeanu ar gael i wneud eu gwaith arferol. Mae hyn oherwydd yr angen i gael cyfnodau gorffwys ac i gydymffurfio â rheoliadau oriau gyrru a’r cyfarwyddebau amser gwaith. Gall hyn gael effaith ar ddarparu gwasanaethau eraill - er enghraifft, efallai na fydd casgliadau gwastraff arferol yn bosibl.
- Mae graeanu yn gofyn am sgiliau gyrru da a’r gallu i weithredu peiriannau mewn amodau heriol, fel arfer yng nghanol y nos pan mae’n rhewi ac mae gwelededd yn isel iawn.
Pam mae rhai cerbydau graeanu ar y ffordd heb fod yn gwasgaru halen?
- Efallai eu bod nhw mewn gwirionedd yn gwasgaru halen, ond nad ydych yn gallu ei weld. Mae cerbydau graeanu bellach yn fwy soffistigedig, ac mae’r lorïau’n gwasgaru’r union faint o halen sydd ei angen yn uniongyrchol ar wyneb y ffordd mewn taenlen fân nad yw bob amser yn weladwy.
- Weithiau, efallai na fydd cerbyd yn gwasgaru halen oherwydd:
- Nid yw wedi cyrraedd man cychwyn ei lwybr graeanu eto.
- Ei fod yn dychwelyd i’r depo i ail-lenwi.
- Ei fod yn teithio ar ffordd nad yw’n rhan o’r llwybr graeanu.
- Ei fod yn gyrru dros ran o’r ffordd sydd eisoes wedi’i thrin gan yrrwr arall.
- Mae system feddalwedd rheoli halen bwrpasol wedi’i gosod ym mhob un o’r cerbydau graeanu, sy’n cynnwys System Leoli Fyd-eang (GPS):
- Gall y system addasu cyfradd a lled gwasgaru yn awtomatig yn ôl y gweithrediad a bennwyd a lled y ffordd mewn gwahanol bwyntiau ar draws y rhwydwaith.
- Mae hyn yn galluogi’r gyrrwr i ganolbwyntio ar yrru mewn amodau peryglus.
- Mae’r GPS yn olrhain cynnydd y cerbyd graeanu ar ei lwybr, ac mae’n cael ei fonitro gan oruchwylwyr y Gwasanaeth Gaeaf gan ddarparu rhybudd cynnar os bydd y gyrrwr neu’r cerbyd yn dangos arwydd o broblemau.
- Mae’r system hefyd yn cofnodi pryd a ble mae’r cerbyd yn trin, ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei hadolygu ar ôl pob rhediad i sicrhau bod y llwybrau’n cael eu trin yn gywir.
- I’r gwrthwyneb, efallai y byddwch yn gweld cerbydau graeanu yn gwasgaru halen ym mis Awst neu Fedi. Peidiwch â phoeni! Mae hyn yn rhan o hyfforddiant adnewyddu blynyddol City and Guilds gyrwyr y cerbydau graeanu.
Beth na all y Cyngor ei wneud?
- Ni fyddwn yn trin troedffyrdd yn rheolaidd. Pan fydd risg sylweddol o amodau rhewllyd am gyfnodau hir trwy gydol y dydd, efallai y byddwn yn gwasgaru halen ar droedffyrdd prysur mewn trefi mawr. Dim ond os nad yw'n effeithio ar drin y Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw y gallwn wneud hyn.
- Ni allwn sicrhau nad oes iâ nac eira ar y ffyrdd bob amser.
- Ni fyddwn yn graeanu ar gais. Dim ond ar ôl i’r Rhwydwaith Graeanu Rhagofalus Ymlaen Llaw fod yn glir y byddwn yn ystyried graeanu neu glirio llwybrau oddi ar y rhwydwaith hwnnw.
- Nid ydym yn graeanu meysydd parcio.
- Ni all y Cyngor ddarparu halen i unigolion preifat.
- Caiff halen y Cyngor ei storio’n rhydd (ac nid mewn bagiau) mewn depos prysur lle ceir nifer fawr o beiriannau a thraffig yn symud yn gyson. Nid yw’n briodol nac yn ddiogel caniatáu preswylwyr i ymweld â’r ardaloedd gwaith yma. Hefyd yn ystod y gaeaf os bydd achos yn codi defnyddir yr holl staff fydd ar gael ac o’r herwydd ni fyddant ar gael i gynorthwyo aelodau unigol o’r cyhoedd.
- Cynlluniwyd yn ofalus lefel yr halen a gedwir gan y Cyngor er mwyn sicrhau y caiff ein gwasanaeth yn ystod y gaeaf ei redeg yn effeithiol. Byddai darparu halen i unigolion yn achosi straen annerbyniol ar ein hadnoddau prin yn enwedig os bydd tywydd gwael yn parhau am gyfnod hir.
- Bydd storfeydd DIY neu fasnachwyr adeiladu fel arfer yn medru darparu halen at ddefnydd priodol.
Sut allwn ni baratoi ar gyfer y gaeaf?
- Gall teithio yn ystod y gaeaf fod yn anodd, ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud er mwyn paratoi. Dylech bob amser gynllunio ymlaen llaw cyn teithio, gwirio rhagolygon tywydd a rhybuddion lleol, a sicrhau bod eich cerbyd mewn cyflwr da.
- Wrth wirio’ch cerbyd, dylech wirio’r canlynol: gwadn a gwasgedd y teiars, lefel yr olew a hylif golchi’r sgrin, a bod yr holl oleuadau yn gweithio'n iawn. Cofiwch hefyd sicrhau bod gennych ddigon o danwydd ar gyfer eich taith.
- Dylech gario pecyn gaeaf, yn cynnwys dadrewydd, crafwr iâ, fflachlamp, ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn, esgidiau, rhaw, blancedi a dillad cynnes, sbectol haul ar gyfer haul isel y gaeaf, bwyd a diod, ac esgidiau gaeaf addas.
- Os ydych chi'n teithio mewn tywydd rhewllyd, cofiwch yrru'n ofalus. Cadwch at y prif ffyrdd lle bo'n bosibl ac arafwch. Dylech ddefnyddio gerau uchel i helpu i osgoi troelli’r olwynion, cyflymwch yn ysgafn a gadewch fwy o bellter rhyngoch chi a cherbydau eraill. Peidiwch â brecio'n sydyn ac edrychwch am farciau ffordd ac arwyddion a all fod wedi’u gorchuddio gan eira.
- Mae cyngor gan Lywodraeth y DU hefyd ar Sut i gadw’n gynnes ac yn iach yn ystod tywydd oer sy’n cynnwys awgrymiadau ar sut i baratoi gartref.