Skip to main content

Ceredigion County Council website

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bartner ym Mhartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, partneriaeth rheilffyrdd cymunedol sy'n cynnwys cynrychiolaeth o awdurdodau lleol Ceredigion, Powys, Gwynedd a Swydd Amwythig, y sector gwirfoddol, Network Rail, Avanti West Coast a Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r Bartneriaeth yma'n ymwneud â Llinell y Cambria: y llinell o'r Amwythig i Aberystwyth ac yna’r llinell o Fachynlleth i Bwllheli, gyda thair gorsaf wedi’u lleoli yng Ngheredigion, yn Aberystwyth, Y Borth a Bow Street.

Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i reilffordd stêm lein fach Cwm Rheidol.  Hon oedd y rheilffordd stem olaf dan berchnogaeth Rheilffordd Brydeinig ac mae'n parhau i redeg fel rheilffordd i dwristiaid. Mae’r llinell yn rhedeg o Aberystwyth i Bontarfynach, taith sy'n para tua awr i bob cyfeiriad. Am fwy o wybodaeth gweler wefan Rheilffordd Cwm Rheidol.

Gorsafoedd

Mae tair prif orsaf reilffordd yn gwasanaethu teithwyr yng Ngheredigion:

Mae gorsafoedd Aberystwyth a Bow Street hefyd yn galluogi teithwyr i newid trafnidiaeth a gwneud teithiau eraill drwy ddefnyddio rhwydwaith bysiau TrawsCymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan TrawsCymru

Am fwy o wybodaeth am Geredigion a gorsafoedd cyfagos gweler tudalen Gorsafoedd ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Dolenni defnyddiol: