Skip to main content

Ceredigion County Council website

Map o'r Rhwydwiath Teithio Llesol - Llwybrau Presennol Ceredigion a Llwybrau'r Dyfodol (2022)

Cynllun o lwybrau yw’r Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol a bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ei ddefnyddio i benderfynu ymhle y dylid gwneud gwelliannau i’r ddarpariaeth cerdded a beicio yn y sir. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic ledled Ceredigion yn haws ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rheini sydd ddim yn cerdded neu'n beicio'n aml ar hyn o bryd a phobl sy'n defnyddio cymhorthion i symud.

Yn ystod yr adolygiad o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, gwnaethom ymgynghori â’r cyhoedd yn 2020 a 2021 gan eich gwahodd i ddweud wrthym a oedd y llwybrau a gynigiwyd yn fwy tebygol o’ch helpu i fynd o amgylch eich ardal leol fel cerddwr neu feiciwr. Gwnaethom ystyried y sylwadau hyn a drafftio cynlluniau o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau’r Dyfodol ar gyfer siwrneiau cerdded a beicio bob dydd yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. At ddibenion yr adolygiad hwn, rhaid oedd canolbwyntio ar lwybrau yn y tair ardal yng Ngheredigion a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru - Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan - yn ogystal â chysylltiadau â'u cymunedau cyfagos.

Cafodd y Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022. Bu i’r Gweinidog Newid Hinsawdd gymeradwyo’r Map ar gyfer Ceredigion ar 3 Awst 2022 a gellir gweld y mapiau ar MapDataCymru (a gynhelir gan Lywodraeth Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllaw i ddefnyddwyr ar wefan MapDataCymru i’w helpu i fwrw golwg ar y mapiau ar y platfform.

Os cewch anhawster, cysylltwch â: Data@llyw.cymru

Noder: dyhead yn unig yw Llwybrau’r Dyfodol ar hyn o bryd ac nid oes sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn medru cael y cyllid na’r grantiau ar gyfer eu hadeiladu. Serch hynny, byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud cais am gyllid lle bynnag y bo modd. Syniad bras yw rhai o Lwybrau’r Dyfodol ac mae’n bosib y byddant yn newid wrth i’r llwybrau gael eu datblygu ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai’r Mapiau o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau'r Dyfodol gael eu hailgyflwyno ar 1 Rhagfyr 2026.

Isod gellir gweld, er gwybodaeth, y Mapiau blaenorol o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau’r Dyfodol (yr enw blaenorol ar Fapiau Llwybrau’r Dyfodol oedd Mapiau Rhwydwaith Integredig) a gafodd eu cymeradwyo gan y Gweinidog ym mis Chwefror 2018.