Drychau Traffig
Dim ond ceisiadau am ddrychau traffig ar gyffyrdd y mae Cyngor Sir Ceredigion yn eu hystyried, ac ni ellir awdurdodi na gosod drychau ar fynedfeydd preifat. Mae’n rhaid i’r cyffyrdd fodloni meini prawf llym sy’n cynnwys anhawster difrifol o ran gweld y ffordd a hanes o wrthdrawiadau a achosodd anafiadau personol oherwydd diffyg gwelededd. Mae hyn yn rhannol oherwydd credir bod drychau traffig yn peri eu risgiau diogelwch eu hunain, gan gynnwys:
- gallant dynnu sylw gyrwyr oddi ar gerddwyr a beicwyr sy’n mynd heibio;
- oherwydd siâp y drych, mae’n anodd barnu cyflymder a phellter traffig sy’n agosáu;
- gall y drych adlewyrchu golau’r haul a goleuadau cerbydau, gan ddallu gyrwyr;
- gall amodau tywydd (e.e. glaw, eira neu niwl) gael effaith ar effeithiolrwydd drych y mae gyrwyr yn dibynnu arno.
Gellir gosod drychau ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir; fodd bynnag, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio hefyd, a gellir cael gwared ohonynt os credir eu bod yn peri perygl i ddefnyddwyr y briffordd. Bydd drychau sydd wedi’u gosod o fewn terfynau priffyrdd heb ganiatâd Llywodraeth Cymru yn debygol o gael eu gwaredu, a’r rheini sy’n gyfrifol am eu gosod fydd yn gyfrifol am dalu’r gost. Mae’n bosib hefyd y bydd y rheini sy’n gyfrifol am osod drych heb ganiatâd yn atebol am unrhyw ddifrod a/neu anaf y mae’r drych wedi cyfrannu tuag ato.