Skip to main content

Ceredigion County Council website

Arwyddion Gwybodaeth A Chynghori

Mae’r math hwn o arwydd yn rhoi gwybodaeth neu gyngor i ddefnyddwyr y ffordd ynghylch nodweddion ac amgylchiadau ffyrdd, a gall hyn eu helpu i gynllunio eu siwrnai. Fel arfer, maent yn arwyddion glas siâp petryal gydag ysgrifen wen ac ymyl gwyn.

Mae’r math mwyaf cyffredin o arwyddion cynghori yng Ngheredigion yn darparu cyngor pwysig am y math o gerbyd y gallai’r ffordd fod yn anaddas ar ei gyfer. Oherwydd natur wledig Ceredigion, mae’r arwyddion hyn i’w gweld mewn sawl lleoliad ledled y sir, yn aml ar ffyrdd na chawsant eu cynllunio’n wreiddiol ar gyfer traffig modur.

Diben yr arwyddion hyn yw annog gyrwyr i beidio â defnyddio ffyrdd sy’n anaddas ar gyfer eu math o gerbyd, er enghraifft efallai oherwydd na fydd cerbydau hir neu HGVau yn gallu ymdopi â throadau sydyn, llethrau serth neu rannau cul.

Maent felly’n ddefnyddiol ar ffyrdd lle mae cerbydau mwy o faint wedi achosi problemau yn y gorffennol, er enghraifft wrth fynd yn sownd a methu symud neu achosi unrhyw bryderon eraill o ran diogelwch ar y ffordd. Nid ydynt yn cael eu gosod mewn lleoliadau lle ystyrir bod HGVau yn amhariad gweledol neu amgylcheddol.

Rhaid bod tystiolaeth eglur er mwyn cyfiawnhau gosod yr arwyddion hyn oherwydd gallant gael effaith negyddol ar fynediad diwydiannau lleol megis amaethyddiaeth, coedwigaeth a chwarelyddiaeth, yn ogystal â gwasanaethau pwysig megis darparu parseli a thanwydd a chasglu gwastraff.

Mae mathau eraill o arwyddion yn cynghori defnyddwyr y ffordd ynghylch camerâu cyflymder ac yn eu hatgoffa o’r terfyn cyflymder lleol.