Skip to main content

Ceredigion County Council website

Tocynnau Tymor Meysydd Parcio

Mae Tocynnau Tymor ar gael ar gyfer Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Arhosiad Hir a Reolir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Os ydych chi’n defnyddio ein meysydd parcio’n rheolaidd, gallech arbed arian ar gost parcio ddyddiol drwy brynu Tocyn Tymor Maes Parcio gyda chostau sy’n cyfateb i gyn lleied ag 81c y dydd.

Mathau o Docynnau Tymor ar Gael

Mae dau fath o Docynnau Tymor ar gael ar gyfer Ceir, Beiciau Modur a Faniau hyd at 3.5ft (ac eithrio cartrefi modur a charafanau). Y rhain yw: 

A) Arhosiad Hir Ceredigion (ac eithrio Maes Parcio Heol y Gogledd, Aberystwyth)

Tref Maes Parcio Cod post
Aberaeron Ffordd Y Gaer Isaf SA46 0HZ
Traeth y Gogledd SA46 0HZ
Traeth y De SA46 0BE
Aberystwyth Coedlan y Parc SY23 1PG
Coedlan y Parc Isaf SY23 1PH
Maesyrafon SY23 1PL
Rhodfa Newydd SY23 1JU
Aberteifi Y Baddondy SA43 1JD
Rhes Gloster / Red Lion SA43 1DL
Cae’r Ffair SA43 1EJ
Mwldan SA43 1JY
Stryd y Cei SA43 1LH
Llanbedr Pont Steffan Cwmins SA48 7AS
Rookery SA48 7BX
Llandysul Maes Parcio Rhes Y Porth SA44 4QS
Cei Newydd Ffordd yr Eglwys SA45 9QQ
Stryd y Cware SA45 9PH
Tregaron Iard y Talbot SY25 6JL

B) Arhosiad Hir Ceredigion (gan gynnwys Maes Parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth SY23 2HE)

Mae’r Tocyn Tymor hwn yn ddilys ym mhob maes parcio a nodir o dan Docyn Tymor Arhosiad Hir Ceredigion (ac eithrio Maes Parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth) yn ogystal â Maes Parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth. Mae’r Tocyn hwn ar gael i breswylwyr a phobl a gyflogir yn yr ardal benodol a ddangosir yma yn unig: Ardal Cymhwyso Tocyn Tymor Maes Parcio Ffordd y Gogledd

Bydd angen darparu tystiolaeth yn ystod y broses ymgeisio ar gyfer y Tocyn Tymor hwn fel rhan o’r cais e.e. bil treth y cyngor, dogfen V5 neu lythyr gan gyflogwr sy’n cadarnhau eu man gwaith. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei hadolygu cyn i’r cais gael ei brosesu a’r Tocyn Tymor gael ei gyhoeddi. Dyma’r mathau o ffeiliau a dderbynnir: png, gif, jpg, pdf, doc, docx, xls a xlsx.

Sylwch mai uchafswm nifer y Tocynnau Tymor a fydd ar gael ar gyfer y maes parcio hwn yw 40. Byddwn yn cyhoeddi'r Tocynnau hyn ar sail y cyntaf i'r felin ac unwaith y bydd yr uchafswm nifer o Docynnau wedi'u cyhoeddi ni fydd unrhyw Docynnau pellach yn cael eu cyhoeddi.

Mae un math o Docyn Tymor ar gael ar gyfer Cerbydau Trwm

C) Tocynnau Tymor Cerbydau Trwm (Bysiau, Cerbydau Nwyddau Trwm)

Mae Tocynnau Tymor ar gyfer Cerbydau Trwm yn benodol i faes parcio ar gael ar gyfer y meysydd parcio canlynol:

Tref Maes Parcio Cod Post
Aberystwyth Coedlan y Parc Isaf SY23 1PH
Aberteifi Cae’r Ffair SA43 1EJ
Mwldan SA43 1JY
Stryd y Cei SA43 1LH
Llanbedr Pont Steffan Rookery SA48 7BX
Cei Newydd Ffordd yr Eglwys SA45 9QQ

Bydd angen dewis un maes parcio penodol yn ystod y broses ymgeisio.

Ffioedd a Thaliadau Tocynnau Tymor Cyfredol

Math o Docyn Tymor 3 mis 6 mis 9 mis 12 mis
A) Arhosiad Hir Ceredigion (ac eithrio Maes Parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth) £90 £165 £240 £295

B) Arhosiad Hir Ceredigion (gan gynnwys Maes Parcio Ffordd y Gogledd, Aberystwyth) Sylwch fod y Tocyn hwn wedi’i gyfyngu i breswylwyr a’r rhai sy’n cael eu cyflogi yn yr ardal ddiffiniedig a ddangosir yma: Ardal Cymhwyso Tocyn Tymor Maes Parcio Ffordd y Gogledd

Bydd angen darparu tystiolaeth o gymhwysedd cyn prosesu'r cais (manylion pellach isod).

£90 £165 £240 £295
C) Heavy Vehicles (Bysiau / Cerbydau Nwyddau Trwm) – Nid yw’r Tocynnau hyn yn drosglwyddadwy rhwng meysydd parcio.  £180 £330 £480 £600

Gwneud Cais am Docyn Tymor

Mae Tocynnau Tymor ar gael i ddechrau trwy gydol y flwyddyn ar y 1af neu’r 15fed o’r mis. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau sy’n gysylltiedig â Thocynnau Tymor cyn gwneud cais.

Gwnewch gais am eich Tocyn Tymor o leiaf 14 diwrnod cyn i chi fwriadu dechrau i ganiatáu amser i'r cais gael ei brosesu ac i'ch Tocyn newydd gyrraedd chi.

Gellir gwneud cais am docynnau tymor maes parcio ar-lein yma.

Tocynnau Tymor Meysydd Parcio

Opsiwn talu Debyd Uniongyrchol

Ar gyfer Tocynnau Tymor 9 mis a 12 mis gallwch ddewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol i ledaenu'r gost. Sylwch y bydd taliad trwy Ddebyd Uniongyrchol yn codi ffi weinyddol o £10. 

Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n dewis talu trwy Ddebyd Uniongyrchol argraffu a dychwelyd Mandad Debyd Uniongyrchol wedi'i gwblhau i'r Cyngor o fewn 14 diwrnod i'r cais. Wrth gwblhau'r cais, bydd ffenestr ar wahân yn cael ei chyflwyno yn ystod y broses a fydd yn arddangos y Mandad Debyd Uniongyrchol sydd angen ei gwblhau. Fel arall, gallwch argraffu a chwblhau'r ffurflen debyd uniongyrchol yma a’i dychwelyd i:

Cyngor Sir Ceredigion 
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

e-bost: df.debtors@ceredigion.gov.uk

Bydd methu â chwblhau'r Mandad Debyd Uniongyrchol a'i ddychwelyd i'r Cyngor o fewn 14 diwrnod i'r cais am Docyn Tymor, yn gwneud y Tocyn Tymor yn annilys.

Unwaith y bydd y Mandad Debyd Uniongyrchol yn cael ei ddychwelyd, bydd amserlen sy'n cadarnhau'r dyddiadau talu ar gyfer y balans sy'n weddill yn cael ei hanfon at ddeiliad y Tocyn Tymor.

Ar gyfer Tocynnau 12 mis bydd taliad cychwynnol sy'n cyfateb i 1/10 o gyfanswm y gost ynghyd â'r ffi weinyddu yn cael ei gymryd ar adeg y cais a bydd y balans sy'n weddill yn daladwy dros 9 taliad misol.

Enghraifft o amserlen dalu 12 mis ar gyfer Tocyn Tymor Car, Beiciau Modur a Fan:

Taliad ar gais = £29.50 + £10 = £39.50
Wedi’i ddilyn gan 9 taliad misol o = £29.50
Cyfanswm y taliad = £305

Ar gyfer Tocynnau 9 mis bydd taliad cychwynnol o 1/7 o gyfanswm y gost ynghyd â’r ffi weinyddol yn cael ei gymryd adeg y cais a bydd y balans sy’n weddill yn daladwy dros 9 taliad misol.

Enghraifft o amserlen dalu 9 mis ar gyfer Tocyn Tymor Car, Beiciau Modur a Fan:

Taliad ar gais = £34.29 + £10 = £44.29
Wedi’i ddilyn gan 6 taliad misol o = £29.39 ac 1 taliad o £29.37.
Cyfanswm y taliad = £250

Telerau ac Amodau Tocyn Tymor

  1. Nid yw’r tocynnau’n ddilys ar gyfer meysydd parcio arhosiad byr neu unrhyw feysydd parcio Deiliaid Trwydded yn unig.
  2. Nid yw tocynnau tymor ond yn ddilys tan y dyddiad gorffen a nodir ar y tocyn
  3. Rhaid dangos y tocyn tymor mewn lle amlwg y tu ôl i’r ffenestr flaen fel y gellir ei weld yn blaen o’r tu allan i’r cerbyd, neu (os nad oes ffenestr flaen ar y cerbyd) yn y tu blaen neu ochr y teithiwr i’r cerbyd, neu rywle arall sy’n amlwg lle bydd Swyddog o’r Awdurdod hwn yn medru’i weld yn glir.
  4. Nid yw’r Cyngor yn gwarantu y bydd lle ar gael i barcio.
  5. Nid oes modd trosglwyddo’r tocyn i neb arall na chael yr arian yn ôl.
  6. Bydd Tocyn Tymor yn berthnasol i'r rhif cofrestru cerbyd sydd wedi'i argraffu ar y Tocyn yn unig. Bydd hefyd ond yn bosibl defnyddio'r Tocyn yn y maes parcio penodedig y mae'r math o docyn yn ddilys ar ei gyfer.
  7. Bydd methu ag arddangos y Tocyn Tymor neu gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth arall o'r Gorchymyn Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd gyfredol yn golygu bod y cerbyd yn agored i gael Hysbysiad Tâl Cosb (PCN).
  8. Deiliad y tocyn a fydd yn gyfrifol am ei adnewyddu.
  9. Bydd y tocyn yn dal yn eiddo i’r Cyngor ac os bydd unrhyw gamddefnydd ohono fe annilysir y tocyn.
  10. Ni chaniateir defnyddio llungopi o’r tocyn nac addasu’r tocyn mewn unrhyw ffordd, ac os gwneir hynny fe ddiddymir y tocyn a bydd hynny’n effeithio ar eich gallu i gael tocyn newydd.
  11. Os caiff Tocyn Tymor ei golli neu’n malu, gall deiliad y Tocyn wneud cais yn ôl disgresiwn y Cyngor am Docyn newydd.
  12. Gallu unrhyw berson a awdurdodwyd yn briodol gan y Cyngor gau maes parcio yn llwyr neu’n rhannol pa bryd bynnag y credir bod hynny’n rhesymol angenrheidiol. Rhaid i ddeiliaid tocynnau beidio â mynd i unrhyw faes parcio’r Cyngor pan fydd ar gau.
  13. Gwaherddir ailwerthu tocyn am elw, ac os gwneir hynny fe ddiddymir y tocyn.
  14. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod o ran unrhyw gerbyd nac unrhyw beth sydd ynddo.

Ceisiadau i Newid Rhif Cofrestru’r Cerbyd neu am Docyn Newydd yn Lle un a Gollwyd, a  Ddifrodwyd neu a Ddinistriwyd

Newidiadau i rif cofrestru cerbyd

Pan fydd deiliad Tocyn Tymor yn gwerthu neu’n gwaredu ei gerbyd, bydd y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn yn caniatáu newid cofrestru, yn amodol ar gais ffurfiol. Gall newidiadau cofrestru cerbydau gymryd hyd at 10 diwrnod i'w prosesu ac mae tâl gweinyddol o £10 yn codi. 

Cynghorir deiliaid tocynnau i wneud ceisiadau am newid manylion y cerbyd cyn gynted â phosibl o fanylion y cerbyd newydd, gan nad yw'r Cyngor yn caniatáu i gerbydau barcio gyda Thocyn Tymor annilys. Os hoffai deiliad Tocyn Tymor ddefnyddio cerbyd newydd cyn iddo dderbyn ei Docyn Tymor newydd gan y Cyngor, bydd angen iddynt wneud trefniadau amgen ar gyfer eu parcio e.e. talu am eu parcio ym meysydd parcio'r Cyngor neu barcio mewn lleoliad arall. Bydd angen i ddeiliaid Tocyn Tymor hefyd ddychwelyd y Tocyn Tymor gwreiddiol i'r Cyngor a bydd methu â gwneud hynny yn gwneud y Tocyn Tymor newydd yn annilys.

Dylid anfon ceisiadau at clic@ceredigion.gov.uk  gyda’r manylion canlynol: 

Enw:
Rheswm dros newid cofrestriad:
Rhif cofrestru cyfredol y cerbyd:
Rhif cofrestru'r cerbyd newydd:
Gwneuthuriad a model y cerbyd newydd:

Amnewid oherwydd colli, difrodi neu Docyn yn cael ei ddinistrio:

Ar gyfer y golled gyntaf o fewn cyfnod dilysrwydd y Tocyn, bydd ffi weinyddol o £10. Ar gyfer unrhyw geisiadau pellach am amnewid, bydd cost lawn Tocyn Tymor yn berthnasol. Ym mhob achos bydd y Tocyn gwreiddiol, neu'r Tocyn cyntaf lle bo'n berthnasol, yn dod yn annilys ac mae'n gwbl yn ôl disgresiwn y Cyngor os bydd Tocyn newydd yn cael ei roi neu beidio.

Pan fydd ceisiadau'n cael eu cymeradwyo, gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod i'w brosesu ac, os hoffai deiliad Tocyn Tymor ddefnyddio ei gerbyd cyn iddynt dderbyn ei Docyn Tymor newydd gan y Cyngor, bydd angen iddynt wneud trefniadau amgen ar gyfer eu parcio e.e. talu am eu parcio ym meysydd parcio'r Cyngor neu barcio mewn lleoliad arall. Os bydd yr amnewid o ganlyniad i'r Tocyn Tymor wedi'i ddifrodi, bydd angen i ddeiliad y Tocyn hefyd ddychwelyd y Tocyn Tymor gwreiddiol i'r Cyngor a bydd methu â gwneud hynny yn gwneud y Tocyn Tymor newydd yn annilys.

Dylid anfon ceisiadau at clic@ceredigion.gov.uk gyda’r manylion canlynol: 

Enw:
Rheswm dros amnewid:
Rhif cofrestru’r cerbyd:

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Gwasanaethau Parcio yn casglu ac yn prosesu data personol amdanoch chi er mwyn prosesu ceisiadau am Docynnau Tymor. Gellir dod o hyd i gopi o'n Hysbysiad Preifatrwydd yma.