Skip to main content

Ceredigion County Council website

Tîm Gorfodi Parcio Sifil Ceredigion

Bydd y tîm Gorfodi Parcio Sifil yn cynnwys 1 Goruchwylydd a 5 Swyddog Gorfodi Sifil llawn amser a fydd yn gyfrifol am y gwaith gorfodi ar draws y Sir gyfan.

Bydd y tîm yn hyblyg ac yn barod i symud o amgylch y sir a bydd yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys gyda'r hwyr a thros wyliau banc.

Mae pob Swyddog Gorfodi Sifil wedi'u hyfforddi yn unol â safonau canllawiau Llywodraeth Cymru. Golyga hyn eu bod wedi cwblhau cymhwyster Sefydliad y Ddinas a'r Urddau mewn Gorfodi Parcio Sifil ac wedi cael hyfforddiant cyffredinol mewn sawl maes megis Diogelwch Personol a Chymorth Cyntaf.

Bydd pob Swyddog Gorfodi Sifil yn cario cardiau adnabod ac yn gwisgo lifrai fel bod modd eu hadnabod. Hefyd, byddant yn cario offer priodol i gyflawni eu dyletswyddau, yn unol â'r canllawiau statudol.

Prif fwriad y Swyddogion Gorfodi Sifil yw sicrhau bod y traffig yn llifo'n ddidrafferth ac annog pobl i gydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio. Mae cydymffurfio â'r cyfyngiadau parcio yn holl bwysig er mwyn sicrhau diogelwch gyrwyr a cherddwyr ar y ffyrdd.

Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn rhoi Hysbysiadau Talu Cosb i gerbydau sy'n parcio'n groes i'r rheoliadau parcio ar y stryd neu oddi ar y stryd ym meysydd parcio'r Cyngor. Gall y cyfyngiadau hyn gynnwys; parcio ar linellau melyn, aros yn rhy hir mewn cilfachau parcio, parcio ar farciau igam-ogam ar groesfannau i gerddwyr, parcio ar draws cyrbau isel a pharcio mwy na 50cm o ymyl y cwrb. Unwaith y bydd Hysbysiad Talu Cosb wedi'i roi, ni all y Swyddog Gorfodi Sifil ganslo'r tocyn.

Nid yw'r Cyngor yn bwriadu clampio cerbydau na'u symud (er bod y pwerau cyfreithiol ar gael) oherwydd ystyrir ar hyn o bryd nad oes angen gwneud hynny i reoli modurwyr sy'n mynd yn groes i'r cyfyngiadau. Ceidw'r Cyngor yr hawl i gyflwyno'r mesurau hyn yn y dyfodol pe byddai troseddu parhaus yn datblygu'n broblem.

Rhoddir Hysbysiad Talu Cosb i'r modurwr trwy ei osod ar sgrîn wynt y cerbyd, neu drwy ei roi i yrrwr y cerbyd, am beidio â chydymffurfio â'r rheoliadau parcio naill ai ar y stryd neu ym meysydd parcio'r cyngor. Bydd yr Hysbysiad Talu Cosb yn cynnwys manylion y cerbyd, natur y drosedd a'r broses ar gyfer talu a herio/apelio.

Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn dilyn y weithdrefn ar gyfer rhoi Hysbysiadau Talu Cosb fel y nodir yng nghanllawiau statudol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Bydd y Swyddogion Gorfodi Sifil yn dilyn y weithdrefn ar gyfer rhoi Hysbysiadau Talu Cosb fel y'i nodir yng nghanllawiau statudol Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Gallwch weld Gweithdrefnau Gorfodi Parcio Sifil Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru yma.