Parcio i Ddeiliaid Bathodyn Glas
Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio i bobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i’w symudedd wrth geisio cael mynediad i gyfleusterau
Ble gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio?
Parcio oddi ar y Stryd
Noder gall deiliaid Bathodynnau Glas sy'n arddangos eu Bathodyn Glas dilys barcio am ddim ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Ceredigion.
Parcio ar y Stryd
- Gall deiliaid bathodynnau barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr, os bydd yn ddiogel gwneud hynny, ac nad ydynt yn rhwystro neb arall, ond nid lle ceir cyfyngiadau llwytho a dadlwytho – fel y dangosir gan linellau melyn ar ymyl y palmant a / neu arwyddion ar blatiau
- Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio lle bynnag y mae llefydd parcio penodol wedi'u neilltuo ar gyfer pobl anabl ar y briffordd gyhoeddus.
Ble i beidio â pharcio
Nid yw’r Bathodyn Glas yn drwydded i barcio unrhyw le.
Ni ddylech barcio yn yr achosion canlynol:
- Lleoedd lle mae mae llwytho a dadlwytho wedi’u gwahardd
- Lleoedd parcio sydd wedi'u cadw ar gyfer defnyddwyr penodol, e.e. pobl â deiliaid hawlenni, neu fannau llwytho, mannau tacsis ayb.
- Croesfannau i gerddwyr, gan gynnwys croesfannau Sebra, Pelican, Twcan a Phâl, a mannau sydd wedi’u marcio â llinellau igam-ogam
- Ar clirffyrdd
- Ar farciau 'Cadwch yn Glir' y tu allan i ysgolion yn ystod yr oriau a ddangosir ar arwydd melyn dim stopio
- Marciau ‘Cadwch yn Glir’ lle na ddylech barcio ar unrhyw adeg e.e. lle mae angen i gerbydau brys gael mynediad, cerbydau fel cerbydau meddygon, tacsis a cherbydau brys eraill
- Lle mae llinellau gwyn dwbl ynghanol y ffordd, hyd yn oed os yw un o’r llinellau’n doredig
- Lle mae cyfyngiadau parcio dros dro ar waith, e.e mannau lle ceir conau dim aros
- Ar draws cyrbau isel p’un a ydynt yn cael eu nodi â marciau bar ‘H’ ai peidio.
Hefyd, ni ddylech barcio lle byddai'ch car yn peri rhwystr neu berygl i eraill.
Dyma rai enghreifftiau tebygol:
- Ger mynedfeydd ysgol, safleoedd bws, ar gornel, neu ger ael bryn neu ar bont grom
- Parcio gyferbyn â chyffordd neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) iddi, ac eithrio mewn lle parcio awdurdodedig
- Lle byddai hynny’n gwneud y ffordd yn gul, fel gerllaw ynys draffig neu waith ffordd
- Lle byddai hynny’n arafu llif y traffig, fel mewn rhannau cul o’r ffordd neu greu rhwystr o flaen mynedfeydd cerbydau
- Lle mae cerbydau'r gwasanaethau brys yn stopio neu fynedfeydd y gwasanaethau brys, fel mynedfeydd ysbytai
- Lle mae'r palmant wedi'i ostwng neu'r ffordd wedi'i chodi
- Ar balmant, oni bai bod arwyddion yn caniatáu hynny.
Sut i ddefnyddio'r Bathodyn
Mae Bathodyn Glas i'w ddefnyddio mewn cerbyd y mae deiliad y bathodyn yn teithio ynddo, naill ai fel gyrrwr neu deithiwr.
Os nad yw deiliad Bathodyn Glas yn gyrru ei hun, dylai rannu’r wybodaeth Cynllun y Bathodyn Glas, Hawliau a Chyfrifoldebau yng Nghymru gyda’r person a fydd yn ei gludo fel teithiwr.
Dylai deiliaid Bathodynnau Glas sicrhau, wrth ddefnyddio eu Bathodyn Glas, eu bod yn cael eu gosod mewn man amlwg ar ddangosfwrdd y cerbyd y maent yn teithio ynddo, gyda’r wybodaeth berthnasol yn wynebu allan o’r cerbyd ac yn gwbl ddarllenadwy. Os nad oes gan y cerbyd ddangosfwrdd, yna dylid arddangos y Bathodyn Glas mewn man amlwg, fel bod y manylion perthnasol yn weladwy o'r tu allan i'r cerbyd.
Dim ond pan fydd deiliad y Bathodyn Glas yn y cerbyd ac yn defnyddio’r consesiynau o dan y Cynllun y dylid arddangos y Bathodyn Glas, ac eithrio os yw’r cerbyd yn cael ei yrru gan rywun heblaw deiliad y Bathodyn at ddiben mynd i mewn neu adael ardal (sy’n hygyrch i gerbydau sy’n arddangos Bathodyn Glas yn unig) er mwyn codi neu ollwng deiliad y Bathodyn Glas.
Bathodynnau Glas Sefydliadol
Rhoddir Bathodynnau i fudiadau sy'n gofalu am bobl anabl, ac ni ddylai pobl nad ydynt yn anabl ddefnyddio'r rheiny er eu budd eu hunain. Ni ddylid arddangos y Bathodynnau hyn ond pan ddefnyddir cerbyd i gludo pobl a fyddai fel arfer yn gymwys dan y Cynllun, pan fydd y bobl hynny yn mynd i mewn ac allan o'r cerbyd.
Adnewyddu Bathodynnau Glas
Mae’r bathodynnau’n para am 3 blynedd neu hyd at ddyddiad dod i ben unrhyw Daliadau Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Byw i’r Anabl. Gall deiliaid Bathodyn Glas wneud cais am adnewyddu i Gyngor Sir Ceredigion hyd at 12 wythnos cyn y dyddiad dod i ben.
Nodwch nad yw negeseuon atgoffa yn cael eu dosbarthu mwyach i atgoffa deiliaid Bathodynnau Glas bod eu bathodyn yn dod i ben. Felly, gwiriwch y dyddiad y daw eich bathodyn i ben a chaniatewch ddigon o amser i’w adnewyddu drwy gwblhau ffurflen gais newydd.
Bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y bathodyn i Gyngor Sir Ceredigion os na fydd ei angen arnoch mwyach.
Camddefnyddio'r Bathodyn
Mae’n anghyfreithlon i ddeiliad Bathodyn Glas neu berson arall gamddefnyddio Bathodyn Glas.
Mae camddefnydd yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Caniatáu i berson fenthyg Bathodyn Glas (hyd yn oed os ydynt yn gwneud rhywbeth ar ran deiliad Bathodyn Glas)
- Defnyddio'r Bathodyn Glas i fanteisio ar gonsesiynau parcio lle mae deiliad y Bathodyn Glas yn aros mewn cerbyd tra bod gyrrwr neu deithiwr(wyr) yn gadael y cerbyd
- Defnyddio Bathodyn Glas at ddiben mynd i mewn neu adael ardal (sy'n hygyrch i gerbydau sy'n arddangos Bathodyn Glas yn unig) oni bai ei fod er mwyn codi neu ollwng deiliad y Bathodyn Glas
- Defnyddio Bathodyn Glas sydd wedi dod i ben
- Defnyddio Bathodyn Glas sy'n perthyn i berson sydd wedi marw.
Gellir tynnu Bathodyn Glas yn ôl os yw deiliad y bathodyn yn ei gamddefnyddio neu’n caniatáu i unrhyw un arall ei gamddefnyddio.
Mae’n drosedd i berson gamddefnyddio Bathodyn Glas. Os gwnânt hynny, maent yn agored i ddirwy o hyd at £1,000.