Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar
Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud y Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025 ar 09/04/2025.
Effaith y Gorchymyn hwn fydd:
a. Dirymu Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012; Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 1) 2014; a Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 2) 2017.
b. Ailgyflwyno darpariaethau'r Gorchmynion uchod ac eithrio fel a ganlyn:
- Newid dyddiau ac oriau codi tâl y meysydd parcio canlynol - Ffordd yr Eglwys a Stryd y Cware, Ceinewydd; Traeth y De, Aberaeron a Promenâd Newydd, Aberystwyth - o 1 Mawrth - 31 Hydref, 8am - 10pm i Bob Dydd, 8am - 6pm.
 - Newid dynodiad Maes Parcio Pendre, Aberteifi o Faes Parcio Deiliad Trwydded yn Unig i Faes Parcio Arhosiad Byr, Pob Dydd, 8am- 6pm, uchafswm arhosiad 2 awr.
 - Wedi'i esemptio rhag talu taliadau mewn Meysydd Parcio Arhosiad Hir ac Arhosiad Byr Gerbyd sy'n arddangos Bathodyn dilys Person Anabl ar yr amod bod y Cerbyd hwnnw ar adeg ei barcio naill ai'n cael ei yrru neu'n cael ei feddiannu fel teithiwr gan ddeiliad Bathodyn y Person Anabl.
 - Cyflwyno darpariaethau sy'n ymwneud â defnyddio Cilfachau Gwefru Cerbydau Trydan a Mannau cysylltiedig Gwefru Cerbydau Trydan.
 - Newid maint Maes Parcio Maesyrafon, Aberystwyth i gynnwys yr estyniad newydd arfaethedig i'r maes parcio hwn.
 - Cyflwyno Atodlenni diwygiedig Taliadau yn unol ag Atodlen 2 a 3 i'r Hysbysiad hwn.
 - Diweddaru darpariaethau sy'n ymwneud â dulliau talu'r taliadau ar gyfer defnyddio Llefydd Parcio Arhosiad Hir a Byr.
 - Diweddaru a mewnosod diffiniadau o dan Ran 2 - Dehongli.
 - Diweddaru'r Atodlen o fapiau sy'n dynodi maint y Llefydd Parcio er mwyn:
- adlewyrchu data topograffig wedi'i ddiweddaru,
 - cael gwared ar ddarnau o dir a werthwyd gan y Cyngor,
 - cael gwared ar ddarnau o dir nad ydynt bellach yn cael eu lesio gan y Cyngor, a
 - i gywiro hepgoriadau / gwallau ym maint y Llefydd Parcio presennol.
 
 - Dileu darpariaethau nad ydynt bellach yn berthnasol.
 - Diweddaru darpariaethau lle bo angen er mwyn cyd-fynd â newidiadau mewn deddfwriaeth.
 
Rhoddwyd y gorau i’r bwriad, a oedd yn rhan o'r Gorchymyn arfaethedig gwreiddiol, i newid dynodiad Maes Parcio Rhes Gloster / Red Lion, Aberteifi o Faes Parcio Talu ac Arddangos i Faes Parcio Deiliaid Trwydded yn Unig. Felly, ni fydd dim newid i statws presennol Maes Parcio Rhes Gloster / Red Lion a bydd yn parhau i fod yn Faes Parcio Talu ac Arddangos.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 07/05/2025, a gellir gweld copi ohono isod ac yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron; Canolfan Alun R Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth; Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Morgan, Aberteifi; a Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, yn ystod oriau arferol swyddfeydd.
Os bydd rhywun yn dymuno codi amheuaeth ynghylch dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaethau a geir ynddo, ar y sail nad ydyw’n unol â’r pwerau a roddir gan y Ddeddf, neu ar y sail nas cydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaethpwyd dan y Ddeddf honno wrth wneud y Gorchymyn, gallant wneud hynny cyn pen chwe wythnos ar ôl y dyddiad y gwnaethpwyd y Gorchymyn drwy wneud cais penodol i’r Uchel Lys.
Atodlen 1
Llefydd Parcio Effeithir Arnynt
Llefydd Parcio Arhosiad Byr
- Sgwâr Maesglas, Aberteifi
 - Pendre, Aberteifi
 - Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan
 - Canolfan Alun R Edwards, Aberystwyth
 
Llefydd Parcio Arhosiad Hir
- Pen Isaf Ffordd y Gaer, Aberaeron
 - Traeth y Gogledd, Aberaeron
 - Pwll Cam, Aberaeron
 - Traeth y De, Aberaeron
 - Canolfan Rheidol, Aberystwyth
 - Pen Isaf Coedlan y Parc, Aberystwyth
 - Maesyrafon, Aberystwyth
 - Y Promenâd Newydd, Aberystwyth
 - Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
 - Coedlan y Parc, Aberystwyth
 - Baddondy, Aberteifi
 - Cae'r Ffair, Aberteifi
 - Rhes Gloster/Red Lion, Aberteifi
 - Mwldan, Aberteifi
 - Stryd y Cei, Aberteifi,
 - Cwmins, Llanbedr Pont Steffan
 - Rookery, Llanbedr Pont Steffan
 - Teras y Porth, Llandysul
 - Ffordd yr Eglwys, Ceinewydd
 - Stryd y Cware, Ceinewydd
 - Iard y Talbot, Tregaron
 
Llefydd Parcio Cilfachau Neilltuedig I Ddeiliad Trwydded Yn Unig
- Rhes y Poplys, Aberystwyth
 - Pen Isaf Mwldan, Aberteifi
 - Lôn y Farchnad, Aberteifi
 
Atodlen 2
Taliadau Parcio Arhosiad Hir a Byr
| Band | Ardal | 2 awr | 3 awr | 4 awr | 24 awr | 
|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Arfordir Ceredigion - Llefydd Parcio yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd | £4.00 | £4.50* *Sgwâr Maesglas yn unig  | 
£5.00 | £7.00 | 
| 2 | Canolbarth Ceredigion - Llefydd Parcio yn Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron | £3.00 | n/a | £4.00 | £5.00 | 
Atodlen 3
Bandiau Trwyddedau Parcio (Lle bo'n Berthnasol)
| Band | Math o Drwydded | 3 mis | 6 mis | 9 mis | 12 mis | 
|---|---|---|---|---|---|
| Ceir, Beiciau Modur a Cerbydau hyd at 3.5t (ac eithrio Carafanét) | |||||
| A | Arhosiad Hir Ceredigion (ac eithrio Ffordd y Gogledd) | £90 | £165 | £240 | £295 | 
| B | Arhosiad Hir Ceredigion (gan gynnwys Ffordd y Gogledd) - wedi'i gyfyngu i drigolion a'r rheini a gyflogir o fewn ardal ddiffiniedig | £90 | £165 | £240 | £295 | 
| Cerbydau Trwm (HGV / Bws / Coets) – Penodol i Lle Parcio - un i'w ddewis o'r 6 Llefydd Parcio canlynol: | |||||
| C | Aberystwyth – Pen Isaf Coedlan y Parc Aberteifi – Cae’r Ffair, Mwldan neu Stryd y Cei Llanbedr Pont Steffan – Rookery Ceinewydd – Ffordd yr Eglwys  | 
£180 | £330 | £480 | £600 | 
| Cilfachau Neilltuedig | |||||
| D | Cilfachau Neilltuedig (fesul lle) | N/A | N/A | N/A | £530 | 
Y Gorchymun
Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) 2025
Gwybodaeth Atodol
- Dogfen gwybodaeth ategol
 - Gorchmynion a Ddiddymwyd
- Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012
 - Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 1) 2014
 - Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd) (Cydgrynhoi) 2012 (Gorchymyn Diwygio 2) 2017
 
 - Hysbysiad Cyhoeddus - Ymgynghoriad
 - Datganiad o Resymau