Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwefru Cerbydau Trydan Ar Y Stryd

Mae’r Cyngor wedi partneru, trwy gyfrwng fframwaith Llywodraeth Cymru, â Trojan Energy, a Dragon Charging er mwyn darparu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan (EV) ar draws Ceredigion, sy’n helpu i’w gwneud yn haws i’n preswylwyr newid i gerbydau trydan.

O fis Medi 2025, gyda chymorth cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, y gobaith yw y byddwn yn cyflwyno tua 40 o safleoedd mewn ardaloedd preswyl, gan fanteisio ar arbenigedd Connected Kerb a Trojan Energy. Mae’r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd nad ydynt yn gallu manteisio ar y peiriannau gwefru cyrchfan yn hawdd, neu breswylwyr nad ydynt yn gallu gwefru eu cerbydau gartref.

Yn ddiweddar, arwyddodd Cyngor Sir Ceredigion gontract â Connected Kerb a Trojan Energy, dau ddarparwr blaenllaw datrysiadau gwefru EV ar gyfer ardaloedd preswyl.

Pwyntiau gwefru yn eich ardal

Mae’n debygol iawn mai dyfodol trydanol sydd o’n blaenau. Yn 2035, bydd gwaharddiad ar werthu cerbydau petrol a diesel newydd yn dod i rym.

Yn ôl ymchwil zap-map, yn 2024, gwerthwyd 381,970 o geir trydanol llawn, gan gynrychioli 19.6% o’r holl geir newydd a gofrestrwyd y flwyddyn honno. Yn ogystal, gwerthwyd mwy o geir trydan llawn yn ystod 2024 nag yn ystod unrhyw flwyddyn arall, gan ddangos cynnydd o 21% o’i gymharu â 2023.

Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cael digon o seilwaith gwefru fforddiadwy, dibynadwy a hwylus ar gyfer y niferoedd, nid yr ychydig.

Mae Dragon Charging eisoes wedi gosod 90 o gysylltwyr mannau gwefru o gwmpas meysydd parcio y mae’r Cyngor yn berchen arnynt, canolfannau hamdden, neuaddau cymunedol ac ar hyd llwybrau prifwythiennol ar draws y Sir. Cyn bo hir, bydd Connected Kerb yn cychwyn ar y pum gosodiad safle cyntaf, a bydd nifer yn fwy o osodiadau dros y misoedd nesaf.

Cyflwyno cyfleusterau gwefru EV

Ar hyn o bryd, rydym yn gwerthuso safleoedd, ac ar ôl cwblhau hyn, bydd cyfnod o ymgysylltu â phreswylwyr sy’n byw yng nghyffiniau’r safleoedd, trwy ddosbarthu llythyrau iddynt.

Nid yw’r Cyngor yn bwriadu newid unrhyw rai o’r trefniadau parcio sydd mewn grym ar hyn o bryd, felly bydd modd i’r holl geir barcio fel o’r blaen, er y gobeithiwn y bydd pobl yn ystyriol ac yn caniatáu i yrwyr EV wefru eu cerbydau. Byddai unrhyw newidiadau i drefniadau parcio yn y dyfodol yn mynd trwy’r broses ymgynghori arferol.

Ffurfiau amgen a hygyrchedd

Os oes gofyn i chi gael unrhyw wybodaeth ar gyfer y prosiect hwn mewn ffurf amgen, ffoniwch ni ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost at evcharging@ceredigion.gov.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch cynorthwyo.

Os bydd angen i chi gael y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn gwahanol ffurf, megis PDF hygyrch, print mawr, fersiwn hawdd i’w darllen, recordiad sain neu braille:

Am ragor o wybodaeth am hygyrchedd y wefan hon, gweler ein Datganiad hygyrchedd ar gyfer www.ceredigion.gov.uk ar waelod y dudalen.

Gwasanaeth cwsmeriaid

Bydd Trojan Energy, Connected Kerb a Dragon Charging yn gweithredu’r pwyntiau gwefru gyda desg gymorth 24 awr, 7 niwrnod yr wythnos. Nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw faterion technegol, ymholiadau bilio ac offer diffygiol.

I gysylltu â Connected Kerb:

I gysylltu â Trojan Energy:

I gysylltu â Dragon Charging:

Chwilio am eich pwynt gwefru agosaf

I ddod o hyd i’ch pwynt gwefru EV agosaf, gallwch ddefnyddio ap ZapMap i weld y map trwy nodi eich cyfeiriad.

Gofyn am gyfleuster gwefru EV ger eich cartref

Os na allwch ddod o hyd i bwynt gwefru EV ger eich cartref, gallwch ‘Ofyn am Wefrwr’ ar gyfer eich lleoliad er mwyn cael asesiad i weld a yw’n lleoliad addas.

Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd pwynt gwefru EV yn cael ei osod yno.

Ymunwch â ni er mwyn gwneud gwahaniaeth

Mae’r Cyngor yn eich annog i fanteisio ar y pwyntiau gwefru EV lleol newydd hyn yn eich ardal.

Helpwch Ceredigion gyda’i ymdrechion i leddfu newid hinsawdd trwy leihau allyriadau carbon gan bod hyn yn hanfodol er mwyn cyfyngu ar y byd yn cynhesu a’i effeithiau cysylltiedig, megis digwyddiadau tywydd eithafol, lefelau’r môr yn codi, ac amhariadau ar ecosystemau. Mae’n daith er mwyn gwella ansawdd yr aer gan bod llai o lygredd yn yr aer yn arwain at aer glanach ac iechyd resbiradol gwell, gan hyrwyddo ffyrdd o fyw gweithredol: megis cerdded a beicio, gan hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ac mae hyn yn arwain at boblogaeth iachach