Gwefru Cerbydau Trydan yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn sy’n ceisio cefnogi’r targedau Carbon Sero Net sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth a theithio. Rhagwelir twf sylweddol yn y galw am fannau gwefru cyhoeddus a phreifat ar gyfer Cerbydau Trydan yn ystod y deng mlynedd nesaf wrth i nifer y cerbydau trydan a werthir gynyddu. Mae’n rhaid i ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymunedol i gyd chwarae rhan wrth ddiwallu’r cynnydd hwn yn y galw.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ffurfio partneriaeth gyda Silverstone Green Energy Limited fel ei Weithredwr Mannau Gwefru ac wedi dechrau gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn nifer o’i feysydd parcio talu ac arddangos cyhoeddus oddi ar y stryd i’w defnyddio gan breswylwyr ac ymwelwyr Ceredigion. Bydd y mannau gwefru newydd yn rhan o Rwydwaith Gwefru Dragon.
Lleoliadau’r mannau gwefru cerbydau trydan
Mae’r Cyngor Sir wrthi’n cwblhau camau cyntaf y gwaith o osod mannau gwefru, a bydd rhagor o leoliadau yn dilyn pan fydd cyllid ar gael. Mae’r mannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli mewn meysydd parcio canolog er mwyn caniatáu i ddefnyddwyr ymweld â busnesau ac atyniadau lleol wrth wefru eu ceir. Mae hefyd nifer cynyddol o fannau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd a ariennir gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol/trydydd sector eraill. Ewch i wefan Zap Map (Saesneg yn unig) i weld y mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yng Ngheredigion.
Mathau’r mannau gwefru sydd ar gael
Mae angen cysylltu cebl gwefru Math 2 gyda phob man gwefru ‘cyflym’ cyhoeddus a osodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer cerbydau trydan. Cyfrifoldeb y gyrrwr yw darparu hyn. Mae mannau gwefru ‘cyflym’ yn gallu gwefru cerbyd trydan o fewn 3 i 4 awr yn dibynnu ar fath a nifer y cerbydau sydd wedi’u plygio i mewn.
Mae mannau gwefru ‘chwim’ hefyd yn cael eu gosod mewn rhai meysydd parcio gan gynnwys meysydd parcio cyhoeddus Cwmins, Llanbedr Pont Steffan, a Sgwâr Cae Glas, Aberteifi.
Defnyddio Mannau Gwefru Cerbydau Trydan
Mae gwybodaeth ynglŷn â sut i ddefnyddio’r mannau gwefru ar gael ar wefan Rhwydwaith Gwefru Dragon, drwy ap Gwefru Dragon, neu wrth y mannau gwefru eu hunain.
Cofiwch, os hoffech wefru eich cerbyd trydan yn un o feysydd parcio oddi ar y stryd y Cyngor Sir, mae’n rhaid i chi hefyd dalu’r ffi briodol ar gyfer parcio yn y maes parcio hwnnw yn ystod yr oriau y mae’r ffioedd hynny yn berthnasol. Ewch i'n tudalen Parcio a Gorfodi Parcio Sifil am wybodaeth ynglŷn â meysydd parcio.
Gofynnwn i chi barcio’n ddiogel ac yn gyfrifol bob amser, o fewn y cilfachau dynodedig, a chofiwch symud eich car unwaith i chi orffen gwefru er mwyn i eraill allu defnyddio’r man gwefru ar eich ôl.