Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai/yr Eiddo Delfrydol

Defnyddir y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i asesu pob annedd breswyl, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, bydd asesiadau eraill yn cael eu cyflawni mewn rhannau o Dai Amlfeddiannaeth penodol, yn enwedig os oes yno fflatiau neu fflatiau un ystafell traddodiadol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i'r tudalen Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).

Gallwch lawrlwytho dogfennau drwy glicio ar y pennawd lawrlwytho uchod. Lluniwyd y dogfennau i helpu perchnogion Tai Amlfeddiannaeth i gadw trefn ar eu heiddo. Pan fydd un o swyddogion yr Awdurdod Lleol yn archwilio eiddo, bydd yn cael cipolwg ar y meysydd a nodir yn y dogfennau hyn (ymhlith meysydd eraill).

Os bydd y swyddog yn cael hyd i ddiffygion, bydd yn trafod y diffygion hyd gyda’r landlord cyn iddo ystyried cymryd camau gorfodi. I gael mwy o wybodaeth ewch i'r tudalen Ddyletswyddau a Phwerau’r Awdurdod Lleol.