A yw fy Nhŷ i yn Dŷ Amlfeddiannaeth?
Aelwyd - Mae aelwyd yn cynnwys unigolion sy’n aelodau o’r un teulu (h.y. maen nhw wedi priodi neu maen nhw’n cyd-fyw – ni waeth beth yw eu rhywedd – neu mae’r naill yn rhiant, yn fam-gu, yn dad-cu, yn blentyn, yn llys blentyn, yn blentyn maeth (o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu 2002), yn ŵyr, yn wyres, yn frawd, yn chwaer, yn ewythr, yn fodryb, yn nai, yn nith, yn gefnder neu’n gyfnither i’r llall). Ystyrir bod cyflogai domestig sy’n byw ar yr un aelwyd â’r cyflogwr yn rhan o’r aelwyd.
Prif breswylfa - Mae hyn yn cynnwys preswylfa lle mae gweithwyr mudol, gweithwyr tymhorol neu geiswyr lloches, a mathau penodol o ffoaduriaid, yn byw.
Uned lety - Mae’n cyfeirio at lety sy’n fflat neu’n fflat fach a mathau penodol o fflatiau un ystafell mawr.
Fflatiau annibynnol - Fflat lle mae holl amwynderau’r llety tu ôl i ddrws.
Eiddo perchen-feddiannydd - Mae’n cynnwys eiddo ar brydles hir 21 mlynedd neu ragor.
Gall y siart lif isod eich helpu i benderfynu a ydy’r eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth ai peidio.
* Mae'n bwysig eich bod chi’n fodlon â statws yr eiddo. Os nad ydych chi'n siŵr a ydy’r eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth ai peidio, gofynnwch am gyngor proffesiynol priodol ynghylch y mater. Cyfrifoldeb y landlordiaid yw gweithredu yn ôl y gyfraith.
A yw fy Nhŷ i yn Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO)?
Os ydych chi’n berchen ar eiddo rhent neu’n rheoli eiddo rhent, mae’n bwysig eich bod yn gwybod a yw’n Dŷ Amlfeddiannaeth ai peidio, a hynny oherwydd bod rheoliadau a threfniadau arbennig yn berthnasol i Dai Amlfeddiannaeth
Fel rhywun sy’n ymwneud â’r gwaith o reoli Tŷ Amlfeddiannaeth, gallech gael eich erlyn pe na baech yn cyflawni’ch rhwymedigaethau cyfreithiol.
Yn eu plith mae:
- y gofyniad i gael trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth gan eich Awdurdod Lleol
- yr angen i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei reoli’n briodol
Os ydych chi’n denant mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, bydd arnoch gyfrifoldebau ychwanegol a bydd mesurau ychwanegol ar gael i’ch amddiffyn. Er enghraifft:
- ni ddylech atal y landlord neu’r rheolwr rhag cyflawni’i rwymedigaethau i reoli’r Tŷ Amlfeddiannaeth yn ddigonol
- bydd trefn drwyddedu gaeth a reolir gan yr Awdurdod Lleol yn rheoli’r eiddo rydych chi’n byw ynddo – ac mae mesurau statudol eraill o’r fath ar gael i’ch amddiffyn
Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth berthnasol ar y tudalen Rheoliadau a Deddfwriaeth.
Cyflwynwyd y drefn drwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth gan Ran 2 o Ddeddf Tai 2004. Daeth y ddeddfwriaeth i rym yng Nghymru ar 30ain Mehefin 2006. Un o’i heffeithiau oedd newid y ffordd y mae Tŷ Amlfeddiannaeth yn cael ei ddiffinio.
Mae’r Ddeddf yn diffinio Tŷ Amlfeddiannaeth fel adeilad neu ran o adeilad:
- lle mae mwy nag un aelwyd yn byw a lle mae mwy nag un aelwyd yn rhannu amwynder fel ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio, neu lle nad oes gan fwy nag un aelwyd amwynder o’r fath
- lle mae mwy nag un aelwyd yn byw a lle mae’r adeilad wedi’i addasu ond lle nad yw’n cynnwys fflatiau annibynnol yn unig (p’un a ydyn nhw’n rhannu rhai amwynderau neu p’un a oes rhai amwynderau ar goll), gydag eithriadau o ran trwyddedu, gweler isod;
- sydd wedi’i addasu’n fflatiau annibynnol, ond nad yw’n bodloni gofynion safonol Rheoliad Adeiladu 1991 a lle mae gan denantiaid o leiaf draean o’r fflatiau denantiaethau byr
Dyma rai enghreifftiau:
- eiddo sy’n cael ei osod i grŵp o fyfyrwyr neu ffrindiau, neu
- adeilad a addaswyd yn fflatiau neu’n fflatiau un ystafell, neu’n gyfuniad o’r ddau – yn enwedig pan fydd rhai amwynderau’n cael eu rhannu
Ceir nifer o eithriadau, yn enwedig:
- eiddo lle mae dim ond dau breswylydd yn byw (neu ddau lojer)
- blociau o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol neu a addaswyd yn briodol yn fflatiau – (lle mae pob un o’r fflatiau’n eiddo annibynnol)
- eiddo sy’n cael ei reoli gan sefydliadau cydnabyddedig penodol sy’n cael eu rheoleiddio drwy ddull arall (e.e. llety o dan ofal Cymdeithasau Tai neu Brifysgolion)
- adeiladau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer llety preswyl i’w rentu e.e. llety gwyliau neu adeilad perchentywr yn bennaf
Ceir rhai eithriadau eraill a cheir rhestr gynhwysfawr ohonynt yn Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 a’r Rheoliadau perthnasol sydd ar gael yma. Os oes angen trwyddedu Tŷ Amlfeddiannaeth, rhaid i’r perchennog, y rheolwr neu’r sawl sy’n gyfrifol am y Tŷ Amlfeddiannaeth wneud cais i’r Awdurdod Lleol am drwydded o’r fath. Mae’n drosedd rheoli Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded a gall arwain at ddirwy o hyd at £20,000. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adran Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Os nad ydych yn sicr a oes angen trwydded ar eich eiddo chi, dylech gysylltu â’r awdurdod neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol i weld a oes angen i chi gyflwyno cais am drwydded.
Datgan bod adeilad yn Dŷ Amlfeddiannaeth
Caiff Awdurdod Lleol ddatgan bod adeilad neu ran o adeilad yn Dŷ Amlfeddiannaeth ar yr amod ei fod yn bodloni un o’r tri phrawf statudol ar gyfer tai o’r fath. Rhestrir y profion hyn yn Adran 254 (2)-(4) o Ddeddf Tai 2004. Ni chaiff fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth os yw wedi’i eithrio o dan Atodlen 14.
Os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod rhan helaeth o’r bobl sy’n byw yn yr adeilad yn bobl y mae’r adeilad yn brif gartref neu’n unig gartref iddynt, er nad pobl o’r fath sy’n byw yno’n unig (a bod y rhai sy’n byw yno a’r adeilad ei hun fel arall yn bodloni’r profion Tŷ Amlfeddiannaeth), caiff ddatgan bod yr adeilad yn Dŷ Amlfeddiannaeth. Drwy ddatgan bod adeilad yn Dŷ Amlfeddiannaeth, nid oes unrhyw amheuaeth bod adeilad o’r fath yn Dŷ Amlfeddiannaeth. Gellir cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael datganiad o’r fath. Os cyflwynir apêl, ni fydd i’r hysbysiad unrhyw effaith hyd nes i’r Tribiwnlys benderfynu neu hyd nes i apêl bellach i Dribiwnlys Tiroedd gael ei ddatrys.