Os ydych yn atgyweirio neu’n adnewyddu un o’ch tai neu’n troi annedd yn Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO) neu’n fflatiau, gall fod angen i chi wneud cais rheoli adeiladu neu gais cynllunio.

Rheoli Adeiladu

Os ydych chi’n gwneud unrhyw beth heblaw am fân atgyweiriadau, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud cais am Reoliadau Adeiladu. Gofynion cyfreithiol a bennwyd gan Senedd y DU yw Rheoliadau Adeiladu. Eu nod yw sicrhau bod gwaith adeiladu mewn adeiladau domestig ac adeiladau masnachol yn cael ei gyflawni at safon ddigonol. Dylech ofyn am gyngor gan yr Adran Rheoli Adeiladu cyn dechrau ar unrhyw waith.

Cynllunio

I droi annedd yn fflatiau neu’n Dŷ Amlfeddiannaeth, mae’n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch. I estyn tŷ neu i godi adeilad newydd, mae’n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch hefyd. Gall fod angen caniatâd arnoch hefyd i wneud gwaith llai mewn ardaloedd lle mae rheolaethau ychwanegol ar waith, er enghraifft mewn ardal gadwraeth. Dylech ofyn am gyngor gan yr Adran Gynllunio cyn dechrau ar unrhyw waith.