Rhenti a Bondiau
Pennu’r Lefelau Rhent
Nid oes unrhyw reolau ynghylch pennu lefel y rhent ar gyfer eich eiddo. Serch hynny, dylech gadw mewn cof lefelau’r rhent yn yr ardal i sicrhau nad yw’ch rhent chi tu hwnt i gyrraedd y farchnad. Gall hefyd fod yn werth ystyried cyfraddau’r lwfans tai lleol (y budd-dal tai). Gallai’r cyfraddau hynny bennu’r hyn sy’n fforddiadwy i denantiaid.
Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 reolau pendant ynghylch rhenti, a hynny drwy drefn drwyddedu Rhentu Doeth Cymru. Mae’n rhaid i landlordiaid a’r tenantiaid gytuno ar swm y rhent, y trefniadau talu a’r amserlen dalu. Dylent hefyd benderfynu pa bryd y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Mae’n rhaid cynnwys y wybodaeth hon yn y cytundeb tenantiaeth.
Mae’n rhaid i denantiaid gael digon o amser i ddarllen y cytundeb tenantiaeth, a chael cyngor annibynnol os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Os bydd y denantiaeth yn para am gyfnod penodol o chwe mis neu ragor, dylai’r cytundeb naill ai ddweud:
- bod y rhent yn sefydlog drwy gydol y cyfnod hwnnw neu
- fod y rhent yn cael ei adolygu bob hyn a hyn – a chynnwys gwybodaeth am sut y caiff ei adolygu
Dim ond os bydd y tenant yn cytuno y gall landlordiaid gynyddu rhent tenantiaeth cyfnod penodol. Os na fydd y tenant yn cytuno, dim ond pan ddaw’r cyfnod penodol i ben y bydd modd cynyddu’r rhent.
Os yw’r denantiaeth yn denantiaeth gyfnodol (yn treiglo o fis i fis), dylai’r cytundeb bennu pa mor aml y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Gall y ddau barti gytuno i gynyddu’r rhent ar gyfer tenantiaeth gyfnodol ar unrhyw adeg. Dylid cadarnhau’r cynnydd yn ysgrifenedig. Dylech gynnwys cymal yn y cytundeb sy’n caniatáu i’r rhent gynyddu bob blwyddyn. Fel arfer, ni all landlordiaid gynyddu’r rhent fwy nag unwaith y flwyddyn oni bai fod y tenant yn cytuno.
Codi Ffioedd
Yn ogystal â'r rhent, efallai y bydd gan landlordiaid ffioedd eraill y maent am eu codi ar y tenant. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 yn cyfyngu'r rhain i restr a ganiateir.
Gallwch chi godi'r ffioedd canlynol a ganiateir ar denant;
- Rhent (ond rhaid iddo beidio ag amrywio trwy gydol y cyfnod)
- Adnau (rhaid ei ddal mewn cynllun awdurdodedig)
- Blaendal cadw (rhent 1 wythnos ar y mwyaf a rhaid ei ad-dalu i'r tenant yn ddiweddarach)
- Treth y Cyngor (ond dim ond i werth y bil)
- Biliau cyfleustodau a chyfathrebu (ond dim ond i werth y bil)
- Rhai taliadau os na chyflawnir y contract, a fydd yn cael eu nodi gan reoliadau statudol eraill. (Newid cloeon, allweddi newydd a llog ar daliadau rhent hwyr ar hyn o bryd)
Mae pob tâl arall megis ffioedd symud i mewn, neu ffi am adnewyddu neu newid tenantiaeth yn cael eu hystyried yn daliadau gwaharddedig ac nid ydynt bellach yn gyfreithiol. Gallech gael dirwy os codwch daliad gwaharddedig. Ni fyddwch chwaith yn gallu rhoi hysbysiad adran 21 am feddiant o'r eiddo os ydych wedi cymryd taliad gwaharddedig, a heb ei ad-dalu.
Cynlluniau Diogelu Blaendaliadau
Ers mis Ebrill 2007, rhaid i landlordiaid ddiogelu blaendaliadau’u tenantiaid gan ddefnyddio cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth, a hynny os ydynt wedi gosod yr eiddo o dan denantiaeth fyrddaliol sicr. Rhaid i unrhyw denantiaeth fyrddaliol sicr a gychwynnodd cyn 6 Ebrill 2007 ond sydd wedi’i hadnewyddu drwy gyfrwng cytundeb tenantiaeth newydd ers y dyddiad hwnnw gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hefyd a rhaid diogelu swm y blaendal gwreiddiol.
Mae cynlluniau diogelu blaendaliadau’n sicrhau bod yr arian a delir gan denantiaid (ar ffurf blaendaliadau) yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae’r cynlluniau’n gwarantu y bydd tenantiaid yn cael eu blaendaliadau’n ôl ar ddiwedd y denantiaeth, ar yr amod eu bod wedi bodloni telerau’r cytundeb tenantiaeth ac nad ydynt wedi difrodi’r eiddo.
Os nad yw’r amodau hyn yn berthnasol – er enghraifft, oherwydd eich bod yn byw yn yr eiddo gyda’ch tenant – nid oes rhaid diogelu’r blaendal. Serch hynny, mae’n dal i fod yn beth da i’w wneud.
Rhaid i landlordiaid neu asiantau ddefnyddio un o’r tri chynllun diogelu blaendaliadau cymeradwy i ddiogelu blaendaliadau’r tenantiaid os yw’r amodau hyn yn berthnasol. Os byddant yn defnyddio unrhyw gynllun arall, ni fydd y gyfraith yn diogelu’r blaendaliadau. Y tri chynllun cymeradwy yw:
- Y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau (DPS)
- My Deposits
- Y Cynllun Blaendaliadau Tenantiaeth (TDS)
Dylech roi manylion y cynllun yr ydych chi’n ei ddefnyddio i’r tenant. Dylai’r landlord roi manylion i’r tenant cyn pen 14 diwrnod ar ôl iddo dalu’r blaendal, gan gynnwys:
- Manylion cyswllt y landlord neu’r asiant gosod tai
- Manylion cyswllt y cynllun diogelu blaendal perthnasol
- Gwybodaeth am sut i wneud cais i gael y blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth
- Manylion am yr hyn y gall y tenantiaid ei wneud os bydd anghydfod yn codi ynghylch y blaendal.
Os na chaiff y blaendal ei ddiogelu gan un o’r tri chynllun cymeradwy, gall y tenant eich dwyn gerbron y llys a gall fod rhaid i chi dalu’r blaendal a swm sy’n gyfwerth â thair gwaith swm y blaendal. Ni fydd modd i chi chwaith geisio adennill meddiant o’ch eiddo drwy ddefnyddio hysbysiad safonol ‘Adran 21’.
Mae’r cynlluniau hyn:
- yn annog landlordiaid a thenantiaid i lunio cytundebau tenantiaeth clir
- yn darparu gwasanaeth am ddim i ddatrys unrhyw anghydfod
Os bydd y tenant yn ei chael hi’n anodd darparu’r bond, gallwch roi gwybod i’r tenant am y Cynllun Gwarantu Bondiau fyddai o bosib yn gallu darparu gwarant (tystysgrif bond anariannol) i’r landlord a rhoi cyngor i landlordiaid a thenantiaid. Caiff y cynllun hwn ei redeg a’i reoli gan Gymdeithas Gofal Ceredigion. Cysylltwch â’n Gwasanaeth Opsiynau Tai ar 01545 574123.