Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Rhent, Ffioedd a Chyllid

Pennu Lefelau Rhent

Nid oes unrhyw reolau ynghylch pennu’r rhent ar gyfer eich eiddo. Serch hynny, dylech gadw mewn cof y rhent sy’n cael ei godi gan eraill yn yr ardal i sicrhau nad yw’ch rhent chi tu hwnt i gyrraedd y farchnad. Gall hefyd fod yn werth ystyried cyfraddau’r lwfans tai (budd-dal tai) lleol, oherwydd gall y cyfraddau hynny bennu’r hyn sy’n fforddiadwy i denant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i dudalen Opsiynau Tai Ceredigion.

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), mae’r rheolau ynghylch cynyddu rhent yng nghyswllt contractau meddiannaeth wedi’u diweddaru.

Gall landlordiaid gynyddu’r rhent mewn contract cyfnod penodol os bydd deiliad y contract (tenant) yn cytuno’n ysgrifenedig, trwy delerau penodol yn y contract. Os nad yw deiliad y contract yn cytuno, dim ond ar ôl i’r cyfnod penodol ddod i ben y gellir cynyddu’r rhent, a rhaid i’r landlord roi hysbysiad priodol o’r newid.

O ran contractau meddiannaeth cyfnodol (y rhai sy’n parhau ar sail dreigl, o fis i fis), dylai’r cytundeb nodi pa mor aml y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Gellir cynyddu rhent ar unrhyw adeg yn ystod contract meddiannaeth cyfnodol, ond rhaid i’r landlord a deiliad y contract gytuno i’r cynnydd, a dylid cadarnhau hyn yn ysgrifenedig. Fel rheol, ni chaniateir i landlordiaid gynyddu’r rhent fwy nag unwaith y flwyddyn, oni bai bod deiliad y contract yn cytuno i gynnydd ychwanegol.

Codi Ffioedd

Yn ogystal â'r rhent, efallai y bydd gan landlordiaid ffioedd eraill y maent am eu codi ar y tenant. Mae Deddf newydd Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 yn cyfyngu'r rhain i restr a ganiateir.

Gallwch chi godi'r ffioedd canlynol a ganiateir ar denant:

  • Rhent (ond rhaid iddo beidio ag amrywio trwy gydol y cyfnod)
  • Adnau (rhaid ei ddal mewn cynllun awdurdodedig)
  • Blaendal cadw (rhent 1 wythnos ar y mwyaf a rhaid ei ad-dalu i'r tenant yn ddiweddarach)
  • Treth y Cyngor (ond dim ond i werth y bil)
  • Biliau cyfleustodau a chyfathrebu (ond dim ond i werth y bil)
  • Rhai taliadau os na chyflawnir y contract, a fydd yn cael eu nodi gan reoliadau statudol eraill. (Newid cloeon, allweddi newydd a llog ar daliadau rhent hwyr ar hyn o bryd)

Mae pob tâl arall megis ffioedd symud i mewn, neu ffi am adnewyddu neu newid tenantiaeth yn cael eu hystyried yn daliadau gwaharddedig ac nid ydynt bellach yn gyfreithiol.  Gallech gael dirwy os codwch daliad gwaharddedig. Ni fyddwch chwaith yn gallu rhoi hysbysiad 'dim bai' adran 173 am feddiant o'r eiddo os ydych wedi cymryd taliad gwaharddedig, a heb ei ad-dalu.

Treth Incwm

Os ydych yn gosod eiddo, bydd fel arfer rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y rhent rydych chi’n ei gael. Bydd swm y dreth i’w dalu’n dibynnu ar faint yr elw rydych chi’n ei wneud a maint eich incwm arall, wedi tynnu’ch lwfans treth personol.

Os byddwch yn gosod ystafell yn eich cartref, fe all y cynllun ‘Rhentu Ystafell’ fod yn berthnasol i chi. Os felly, cewch ennill hyd at £4250 heb dalu treth.

I gael gwybodaeth fanylach, mynnwch air â chyfrifydd neu ewch i tudalen Treth Incwm: rhagarweiniad y Llywodraeth.

Cymorth i Adnewyddu Eiddo

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion amryw o gynlluniau grant a chynlluniau benthyca i’ch helpu i osod mesurau arbed ynni, i atgyweirio ac i adnewyddu eiddo, i ddefnyddio eiddo gwag eto neu i addasu eiddo ar gyfer pobl anabl. Am ragor o wybodaeth gallwch ymweld â'r tudalennau Cymorth Ariannol.