Pwerau a Dyletswyddau'r Awdurdod Lleol - Deddf Tai 2004
Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)
Mae Deddf Tai 2004 (Deddf 2004) wedi rhoi pwerau i’r Awdurdodau Lleol gymryd gwahanol fathau o gamau pan fyddant yn ymdrin ag amodau annerbyniol mewn tai. Ar ôl archwilio annedd, pan fydd yr Awdurdod Lleol yn cwblhau asesiad o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS), caiff unrhyw beryglon eu nodi a’u sgorio yn ôl pa mor ddifrifol ydynt. Caiff y peryglon sy’n peri’r risg mwyaf ac sydd fwyaf difrifol eu dynodi’n beryglon Categori 1.
Os caiff perygl categori 1 ei nodi, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol gymryd camau gorfodi o dan Ddeddf 2004. Os caiff perygl categori 2 ei nodi, mae gan yr Awdurdod Tai Lleol bŵer dewisol i gymryd camau gorfodi.
Defnyddir y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) i asesu peryglon ar gyfer y grwpiau hynny o breswylwyr a allai gael y niwed mwyaf yn sgil y perygl sy’n cael ei asesu. Er enghraifft, wrth asesu peryglon sy’n gysylltiedig â thamprwydd a llwydni, dylid ystyried y grŵp o bobl sydd fwyaf agored i niwed wrth gyflawni asesiad o dan y system HHSRS, sef plant pedair ar ddeg oed ac iau. Rhaid gwneud hyn p’un a oes rhywun o’r grŵp oedran hwn yn byw yn y tŷ ar adeg yr asesiad, neu’n debygol o wneud hynny o fewn y deuddeg mis nesaf, ai peidio.
Wrth benderfynu ar y dull gorfodi gorau, rhaid i’r swyddog ystyried y materion a ganlyn:
- Difrifoldeb y perygl(on) o dan sylw
- Gallu’r perchennog neu’r landlord i gyflawni’r gwaith unioni gofynnol
- Parodrwydd y perchennog neu’r landlord i gyflawni’r gwaith unioni gofynnol yn ystod y cyfnod y cytunwyd arno
- Wrth ymdrin â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, eu rhaglen waith
- O ran Tai Amlfeddiannaeth, p’un a oes preswylwyr sy’n agored i niwed yn byw yno ai peidio
- Dymuniadau’r preswylydd neu’r preswylwyr presennol
- Polisi gorfodi’r Awdurdod Lleol a chanllawiau gorfodi’r system HHSRS
- O ran gorchmynion gwahardd (gan gynnwys gorchmynion gwahardd brys) a gorchmynion dymchwel, y gall taliadau digolledu fod yn berthnasol yn unol ag Adran 584A ac Adran 584VB o Ddeddf Tai 1985
Pa un bynnag o’r opsiynau a ganlyn a ddewisir, rhaid i’r swyddog baratoi datganiad sy’n nodi’r rhesymau dros wneud hynny yn unol ag Adran 8 o Ddeddf Tai 2004. Rhaid i’r datganiad hwn nodi’r rheswm pam fod y swyddog wedi dewis yr opsiwn gorfodi penodol hwnnw a rhaid darparu’r datganiad gyda phob hysbysiad, gorchymyn a datganiad a gyda phob copi o’r dogfennau hynny.
Opsiynau Gorfodi
Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Berygl
Gall Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Berygl fod yn ffordd briodol o ymateb i berygl llai difrifol pan fydd yr awdurdod am dynnu sylw at y ffaith ei fod yn dymuno i’r unigolyn cyfrifol wneud gwaith unioni. Gellir defnyddio Hysbysiad o’r fath pan geir hyd i berygl categori 1 oni bai fod gorchymyn rheoli ar waith. Nid yw Hysbysiad o’r fath yn bridiant tir lleol. Ei unig ddiben yw tynnu sylw’r unigolyn cyfrifol at y perygl. Nid oes modd apelio yn erbyn Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Berygl a gellir ei ddefnyddio pan fydd yr unigolyn cyfrifol wedi cytuno i weithredu a phan fydd y cyngor yn hyderus y bydd y gwaith yn cael ei gyflawni o fewn cyfnod rhesymol. Yn aml y cam a gymerir gyda pherchen-feddianwyr yw cyflwyno Hysbysiad Ymwybyddiaeth o Berygl.
Hysbysiad gwella
Defnyddir hysbysiadau gwella pan fo angen sicrhau y caiff gwelliannau eu cwblhau gan yr unigolyn cyfrifol. Gellir eu rhoi ar gyfer perygl categori 1 neu berygl categori 2. Os caiff hysbysiad gwella ei roi mewn perthynas â pherygl categori 1, rhaid i’r camau unioni o leiaf fod yn ddigonol i leihau’r perygl fel ei fod yn berygl categori 2. Bydd yr hysbysiad gwella’n cynnwys cyfnod penodol ar gyfer cyflawni’r gwelliannau.
Gorchymyn gwahardd
Gellir defnyddio gorchymyn gwahardd i wahardd rhan o adeilad, neu’r adeilad cyfan, rhag cael ei ddefnyddio, a hynny oherwydd bod yno berygl categori 1 neu berygl categori 2. Gellir defnyddio gorchmynion gwahardd pan fo amodau’r eiddo’n peryglu iechyd neu ddiogelwch, ond lle tybir nad yw’r camau unioni’n rhesymol nac yn ymarferol.
Gellir defnyddio gorchmynion gwahardd hefyd i bennu nifer y preswylwyr neu i atal grŵp penodedig o bobl rhag byw yn yr eiddo. Os bydd unigolyn yn torri’r gorchymyn gwahardd, bydd yn cyflawni trosedd a gall gael ei erlyn. Gellir gohirio gorchmynion gwahardd yn ôl y gofyn.
Camau unioni brys
Mewn achosion lle mae perygl categori 1 yn bodoli a lle mae’r Awdurdod Lleol yn credu bod risg uniongyrchol o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch y meddiannydd, gall yr Awdurdod Lleol fynd i’r eiddo ar unrhyw adeg i gyflawni pa bynnag gamau unioni sy’n ofynnol i gael gwared ar y risg honno. Rhaid cyflwyno hysbysiad o Gamau Unioni Brys i’r perchennog o fewn 7 niwrnod ar ôl cyflawni’r gwaith brys.
Gorchymyn gwahardd brys
Mewn achosion lle mae perygl categori 1 yn bodoli sy’n peri risg uniongyrchol i iechyd neu ddiogelwch y meddiannydd caiff yr Awdurdod Lleol fynd i’r eiddo ar unrhyw adeg er mwyn gwneud Gorchymyn Gwahardd Brys sy’n gwahardd defnyddio’r eiddo cyfan, neu ran ohono, ar unwaith. Daw Gorchymyn Gwahardd Brys i rym ar y diwrnod y caiff ei roi.
Gorchymyn dymchwel
Mae’r opsiwn hwn ar gael o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985 fel y’i diwygiwyd. Dim ond i ymdrin â pheryglon categori 1 y gellir defnyddio’r gorchymyn hwn. Ni ellir gwneud gorchmynion dymchwel ar gyfer adeiladau rhestredig.
Cyn cychwyn ar y trywydd hwn, rhaid i’r swyddog ystyried:
- Y llety sydd ar gael yn lleol er mwyn ailgartrefu’r preswylwyr
- Y galw am y llety a chynaliadwyedd y llety pe bai’r perygl yn cael ei unioni
- Yr hyn y byddai’r safle’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer pe bai’n cael ei glirio
- Yr effaith bosibl ar yr amgylchedd lleol
- Y cynigion a allai ei gwneud yn bosibl gwneud gorchymyn gwahardd yn hytrach na gorchymyn dymchwel