Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Tai Cymdeithasol

Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn berchen ar unrhyw dai cymdeithasol mwyach. Mae tri landlord tai cymdeithasol ar gael yng Ngheredigion:

Dyma’r mathau o dai sydd ar gael:

  • Tai 2, 3, 4 a 4+ ystafell wely
  • Byngalos 1, 2 a 3 ystafell wely
  • Fflatiau 1, 2 a 3 ystafell wely
  • Tai Gwarchod
  • Tai Gofal Ychwanegol

Cael Tŷ Cymdeithasol

Cyngor Sir Ceredigion sy’n dal i gadw’r rhestrau aros er mwyn dyrannu tai sy’n eiddo i’r cymdeithasau tai a cewch hyd i fwy o wybodaeth ar y tudalen Opsiynau Tai.

I gael mwy o wybodaeth am dai cymdeithasol ewch i wefan Opsiynau Tai Ceredigion. Bydd y Gofrestr Tai newydd yn ailagor ar gyfer ceisiadau ar 1af Gorffennaf 2025. Os ydych yn dal i fod eisiau gwneud cais am dai cymdeithasol yng Ngheredigion, mae'n rhaid i chi ailymgeisio.

Os ydych yn ddigartref, neu mewn risg o fod yn ddigartref, cysylltwch â ni ar 01970 633396 neu e-bostiwch housingoptions@ceredigion.gov.uk. Peidiwch ag aros tan 1af Gorffennaf 2025 os gwelwch yn dda.