Problemau Draenio
Y landlord sy’n gyfrifol am osod a chynnal systemau draenio dŵr budr digonol yn eich eiddo.
Fodd bynnag, mae dyletswydd ar y tenant i beidio â rhwystro na difrodi’r system, er enghraifft drwy ollwng pethau amhriodol i lawr y draen, fel clytiau gwlyb (wet wipes), cewynnau babis, olew neu saim. Os bydd y system wedi’i rhwystro, dylech gysylltu â’r landlord yn gyntaf. Os na fydd y landlord yn ymateb yn gyflym neu os na fydd yn gweithredu o gwbl, dylech gysylltu â’r Awdurdod Lleol i gael cyngor.
Os yw’r rhwystr neu’r dŵr sy’n gollwng yn achosi problem i bobl eraill, efallai y bydd yr Awdurdod Lleol yn cael cwynion ganddynt ac efallai y bydd yn ymchwilio i’r mater ac yn cymryd camau unioni yn ôl y gofyn.