Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyddwysedd a Llwydni

Mae’r aer bob amser yn cynnwys rhywfaint o leithder, hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu ei weld. Os yw aer yn oeri, ni all ddal yr holl leithder a gynhyrchir gan weithgareddau bob dydd ac mae rhywfaint o'r lleithder hwn yn ymddangos fel diferion bach o ddŵr, sy’n fwyaf amlwg ar ffenestri ar fore oer. Gelwir hyn yn anwedd.

Mae lleithder a llwydni ar y waliau a'r nenfydau yn broblem gyffredin, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Cadwch lygad am fannau sgleiniog ar baent neu afliwiad papur wal yn y lle cyntaf. Bydd hyn gyffredin mewn corneli gan fwyaf, o amgylch ymylon y nenfwd, i waliau allanol ac o amgylch fframiau ffenestri. Mae anwedd yn ffurfio ar arwynebau oer, yn enwedig lle nad oes llawer o aer yn symud.

Os na chaiff ei drin gall llwydni ddechrau tyfu yn y mannau hyn. Nodweddir hyn gan smotiau du ar y waliau a'r nenfwd, sy’n cynyddu yn eu maint. Hefyd yn nodweddiadol o broblemau anwedd ceir llwydni gwlithog (mwy blewog a llwyd-wyrdd) ar ddodrefn, dillad, ac addurnwaith.

Mae amodau llaith ac anwedd hefyd yn le bridio ar gyfer gwiddon llwch sydd, ynghyd â sborau llwydni, yn gallu gwaethygu'r cyflyrau presennol fel asthma.

Mynd i'r afael ag anwedd a llwydni:

  • Lleihau faint o leithder a gynhyrchir yn eich cartref. Ceisiwch osgoi sychu dillad o dan do. Os oes rhaid, gwnewch mewn ystafell sydd wedi'i hawyru'n dda (ffenestr agored) gyda'r drws ar gau
  • Os ydych chi'n defnyddio peiriant sychu dillad, gwnewch yn siŵr ei fod yn rhyddhau aer poeth tu allan i’r tŷ
  • Cadwch ddrysau ar gau wrth ymolchi/cael cawod neu goginio gan awyru'r ystafelloedd (yn fecanyddol neu'n naturiol)
  • Ceisiwch osgoi defnyddio gwresogyddion nwy potel
  • Lleihewch anwedd sydd wedi cronni dros nos drwy groes-awyru'ch cartref yn ystod y dydd. Agorwch ffenestr fach i lawr y grisiau a ffenestr fach ar ochr arall y tŷ i fyny'r grisiau ac agorwch y drysau i ganiatáu i awyr iach gylchredeg trwy'r tŷ
  • Cadwch holltau awyru aer cyson ar agor mewn ystafelloedd gwely yn ystod y nos
  • Gadewch fwlch bychan rhwng eitemau mawr o ddodrefn a'r waliau neu'r lloriau er mwyn i aer fedru cylchredeg (cypyrddau dillad, cypyrddau, soffas)
  • Gwnewch yn siŵr bod arwynebau eich cartref wedi'u hinswleiddio gymaint â phosibl. Gosodwch inswleiddio atig, gwydr dwbl, wal ac inswleiddio llawr. Mae anwedd yn ffurfio’n haws ar arwynebau oer. Am help gyda chostau gosod insiwleiddio, ewch i'n tudalennau effeithlonrwydd ynni a chymorth ariannol
  • Cynyddu'r tymheredd yn eich cartref. Mae aer cynnes yn dal mwy o leithder nag aer oer ac mae'n llai tebygol o adael lleithder fel anwedd. Mae tymheredd cyson (yn hytrach nac amrywiol) hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn anwedd
  • I ladd a chael gwared ar lwydni, sychwch y waliau neu chwistrellwch fframiau ffenestri gyda glanhawr ffwngladdol sydd a 'rhif cymeradwyo' Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGIaD), gan sicrhau eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio'n ddiogel. Mae'r hylifau ffwngladdol hyn ar gael yn aml mewn archfarchnadoedd lleol. Dylid sychlanhau dillad ysgafn, a glanhau carpedi gyda siampŵ. Peidiwch â cheisio cael gwared ar lwydni trwy ddefnyddio brwsh neu hwfro. Bydd yr llwydni yn ailymddangos oni bai bod y problemau anwedd sylfaenol yn cael eu taclo

Cofiwch, os oes gan y mannau llaith 'farc ymylol' neu ddyddodion halen neu os ydynt yn cyfateb â nam allanol neu os ydynt mewn mannau sydd ddim yn gysylltiedig â llefydd oer (fel waliau mewnol) yna mae'r lleithder yn debygol o fod yn treiddio neu'n leithder sy’n codi, a achosir gan bibell sy'n gollwng, cwter rhydd neu ryw ddiffyg arall. Cyfrifoldeb y landlord fyddai hyn fel arfer a dylech roi gwybod am y diffyg cyn gynted ag y sylwir arno.