Atgyweirio Eiddo
Mae’n ofynnol i’r landlord sicrhau bod ei eiddo mewn cyflwr da a’i fod yn ddiogel cyn i unrhyw denant symud i fyw ynddo. Mae hefyd yn ofynnol iddo sicrhau bod yr eiddo’n parhau i fod mewn cyflwr da drwy gydol y denantiaeth.
Pwy sy’n gyfrifol am atgyweirio eiddo?
Mae’r landlord a’r tenantiaid yn gyfrifol am gadw eiddo rhent mewn cyflwr da.
Fel arfer, y landlord sy’n gyfrifol am atgyweirio:
- strwythur yr eiddo
- ffitiadau glanweithdra ac unrhyw osodiadau parhaol
- systemau gwresogi a dŵr poeth
- difrod sy’n deillio o unrhyw ymgais i atgyweirio
- peryglon eraill a allai gael eu nodi, fel larymau tân, canllawiau sydd wedi torri, ac ati
Mae dyletswydd ar denantiaid i gymryd gofal rhesymol o’r eiddo ac i atgyweirio unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi ganddyn nhw neu gan eu teulu a’u ffrindiau.
Nid oes rhaid i’r landlord atgyweirio unrhyw beth sy’n eiddo i chi, oni bai iddo gael ei ddifrodi oherwydd nad oedd wedi cyflawni’i rwymedigaethau atgyweirio.
Beth ddylwn i ei wneud os oes angen atgyweirio’r eiddo?
Os ydych chi’n meddwl bod angen atgyweirio’r eiddo rydych chi’n byw ynddo, fe ddylech chi gysylltu â’ch landlord neu’r asiantaeth gosod tai. Dylai fod modd iddyn nhw ddweud wrthoch chi pryd y gallwch chi ddisgwyl i’r eiddo gael ei atgyweirio. Os na fyddan nhw’n atgyweirio’r eiddo, gall fod modd i chi ddwyn achos llys neu ofyn i’ch cyngor lleol eich helpu.
Peidio â thalu’r rhent
Os byddwch chi’n peidio â thalu’r rhent, efallai y bydd y landlord yn gallu cymryd camau yn eich erbyn, gan gynnwys ceisio gorchymyn llys i’ch troi chi allan. Gall fod lle i wrthbwyso’r rhent yn erbyn yr atgyweiriadau nad yw’r landlord wedi’u cyflawni, ond fe ddylech chi bob amser ofyn am gyngor cyfreithiol, oherwydd fe allech chi golli’ch cartref.
Beth sy’n digwydd os nad yw’r eiddo’n cael ei atgyweirio?
Os nad yw’r landlord yn cyflawni atgyweiriadau i gael gwared ar beryglon, gall y tenant ofyn i’r cyngor lleol archwilio’r eiddo o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol.
Os yw’r cyngor yn nodi bod yno beryglon difrifol, rhaid iddo gymryd camau gorfodi i sicrhau bod y perygl yn cael ei ddileu. O ran peryglon llai difrifol, gall y Cyngor gymryd camau gorfodi os yw’n credu bod hynny’n angenrheidiol.
Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r Cyngor gysylltu â’r landlord i roi gwybod iddo y bydd yn cyflawni asesiad risg. Fel rheol, ni fydd y Cyngor yn cymryd unrhyw gamau pellach nes bod y landlord wedi cael cyfle i fynd i’r afael â’r problemau.