Y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i adnewyddu cartrefi gwag er mwyn adfywio cymunedau a darparu tai y mae mawr eu hangen ledled Cymru.
Mae grantiau gwerth hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai i adnewyddu tai gwag i’w gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt a gwella eu heffeithlonrwydd ynni.
Er mwyn bod yn gymwys am y grant:
- Rhaid bod y cartref gwag wedi’i leoli yn ardal awdurdod lleol Ceredigion
- Rhaid bod y cartref wedi’i gofrestru gydag Adran Treth y Cyngor fel eiddo gwag (heb ei feddiannau a heb ei ddodrefnu) am o leiaf 12 mis
- Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn berchnogion neu’n ddarpar berchnogion sy'n bwriadu defnyddio'r cartref gwag fel eu prif gartref a’u hunig gartref am o leiaf 5 mlynedd
- Rhaid i’r perchennog fodloni meini prawf Cysylltiadau Lleol Ceredigion
- o wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor tref / cymuned gyfagos (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod parhaus o 5 mlynedd
neu - o angen byw yng Ngheredigion i ofalu’n sylweddol am berthynas agos neu i gael gofal gan berthynas agos sydd wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor tref / cymuned gyfagos (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod parhaus o 5 mlynedd ac ni all eiddo’r berthynas (naill ai fel y mae neu o’i ymestyn) gyflawni anghenion yr aelwyd gyfunedig
neu - o yn gyflogedig yng Ngheredigion fel gweithiwr allweddol ar sail barhaol llawn amser (35 awr)
At y dibenion hyn, diffinnir gweithiwr allweddol fel a ganlyn:
- Athro/athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu goleg chweched dosbarth
- Nyrs neu weithiwr proffesiynol medrus arall yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- Swyddog heddlu
- Gweithiwr yn y gwasanaeth prawf
- Gweithiwr cymdeithasol
- Seicolegydd addysg
- Therapydd galwedigaethol a gyflogir gan yr awdurdod lleol
- Swyddog tân
- Unrhyw berson arall y mae ei gyflogaeth yn cyflawni rôl bwysig wrth ddarparu gwasanaethau allweddol yng Ngheredigion lle bu’n anodd recriwtio o fewn y Sir. Bydd angen i’r Awdurdod Lleol gytuno â hyn a bydd angen darparu tystiolaeth ynghylch recriwtio
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, gwirio cymhwysedd a/neu wneud cais ar-lein, ewch i wefan Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol.
Gallwch hefyd gysylltu â nhw dros y ffôn ar 01443 494712 neu drwy e-bost ar GrantiauCartrefiGwag@rctcbc.gov.uk.
Noder mai Cyngor Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu’r grant ar ran Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.