Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Cyngor i’r Gymuned - Severn Wye

Cael hi’n anodd talu eich biliau ynni? Ydych chi'n teimlo'n gynnes yn y cartref? Elusen cynaliadwyedd yw Severn Wye sy'n gweithio'n bennaf yng Nghymru a siroedd y gororau yn Lloegr.

Wedi'i ariannu gan Gynllun Gwirfoddol Gwneud Iawn y Diwydiant Ynni, mae Severn Wye yn cynnig cefnogaeth am ddim i drigolion Ceredigion gan gynnwys:

  • Cymorth o ran dyledion tanwydd
  • Cyngor ar garbon monocsid
  • Cyngor ar y Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
  • Cyngor ar effeithlonrwydd ynni a biliau
  • Ymgysylltu gyda'ch cyflenwr

Mae talebau tanwydd ar gael i unigolion a theuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio ail-lenwi eu mesuryddion rhag-dalu. Gall Severn Wye hefyd helpu’r rhai nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy, neu’r rhai sy’n dibynnu ar danwydd eraill fel olew, LPG neu lo. Yn ogystal, gall Severn Wye gael mynediad at grantiau i ddarparu taliad untro i dalu costau brys megis bwyd, nwy, trydan neu deithio brys i’r rhai sy’n profi caledi ariannol difrifol, sydd wedi colli eu swydd, neu sy’n aros am eu taliad budd-daliadau cyntaf.

Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch llethu gan ynni cartref ac angen rhywun ar eich ochr chi, gallwch anfon e-bost at Severn Wye ‒ communityadvice@severnwye.org.uk ‒ i drefnu apwyntiad cyfrinachol neu ffonio tîm Severn Wye ar 0800 170 1600 rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am tan 5pm i weld a all cynghorydd yn y gymuned gynnig ymweliad am ddim â’ch cartref. Gallwch hefyd ymweld â thudalen we Advice and support Severn Wye i lenwi ffurflen gyswllt.