Pwerau'r Awdurdod Lleol
Yr hyn y gall yr Awdurdod Lleol ei wneud os bydd Eiddo’n Wag
Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto ac mae ganddo bwerau i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw’n ymarferol nac yn ddymunol iddo fod yn rhan o bob achos.
Yn ymarferol, nid yw’r Awdurdod Lleol yn dibynnu ar bwerau gorfodi cyfreithiol. Yn hytrach, mae’n cynghori ac yn cynorthwyo perchnogion eiddo a darparwyr gwasanaethau, ac mae’n brocera ac yn negodi â nhw. Fodd bynnag, pan fydd angen eu defnyddio, mae gan yr Awdurdod Lleol nifer o bwerau i’w helpu i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto.
Mae gan bob Awdurdod Lleol nifer o bwerau i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig ag eiddo gwag. Yn eu plith mae:
- Pŵer i gael gafael ar dir, tai neu fathau eraill o eiddo i’w hailddatblygu neu i greu mwy o dai
- Pŵer i fynnu eich bod yn gwneud eiddo neu’r ardal o’i amgylch yn ddiogel neu bŵer i weithredu i wneud eiddo neu’r ardal o’i amgylch yn ddiogel
- Pŵer i fynnu eich bod yn bordio eiddo mewn argyfwng neu bŵer i fynd ati ar frys i’w fordio ar eich rhan
- Pŵer i fynnu eich bod yn gwneud eiddo’n ddiogel ac yn addas i rywun fyw ynddo
- Pŵer i gael mynediad i archwilio eiddo os ydych wedi gwrthod caniatáu iddo wneud hynny
- Pŵer i gaffael gwybodaeth amdanoch e.e. gwybodaeth am berchennog yr eiddo
- Pŵer i fynnu bod eiddo’n cael ei ddymchwel
Gallai’r Awdurdod Lleol weithredu mewn sefyllfaoedd fel a ganlyn:
- pan fydd eiddo’n wag ac yn agored, efallai oherwydd bod rhywun wedi torri i mewn iddo
- pan fydd sbwriel fel sbwriel tŷ, gwastraff bwyd, hen welyau, dillad neu gelfi wedi’u gadael a’u bod yn drewi neu’n denu clêr neu lygod
- pan fydd eiddo neu rannau o eiddo’n beryglus e.e. llechi wedi llithro, simneiau neu waliau’n gogwyddo’n wael
- pan fydd eiddo’n dadfeilio ac yn achosi niwsans neu ddifrod i eiddo cyfagos e.e. llechi ar goll ar y to neu systemau dŵr glaw diffygiol sy’n caniatáu i ddŵr dreiddio i’r eiddo cyfagos
- pan fydd systemau draenio wedi torri neu’n annigonol ac yn achosi rhwystr, yn drewi neu’n denu llygod
- pan fydd eiddo’n mynd â’i ben iddo neu’n dadfeilio
- pan fydd eiddo mewn cyflwr mor wael fel nad yw’n addas i bobl fyw ynddo
- pan fydd gerddi’n tyfu’n wyllt ac yn lloches i blâu
- pan fydd eiddo’n effeithio’n andwyol ar olwg yr ardal
Isod, nodir rhai o’r camau ffurfiol y gall yr Awdurdod Lleol ystyried eu cymryd.
Hysbysiadau Gorfodi
Mae gan yr Awdurdod Lleol nifer o wahanol hysbysiadau y gall eu rhoi i berchnogion eiddo i fynnu eu bod yn atgyweirio neu’n dymchwel eiddo (adeiladau gwag ac adeiladau lle mae rhywun yn byw). Os na fydd perchnogion yn cydymffurfio â’r hysbysiadau hyn, gall yr Awdurdod Lleol ymyrryd a chyflawni’r gwaith ei hun, gan roi arwystl yn erbyn yr eiddo ac adennill y ddyled yn ddiweddarach.
Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag
Pŵer cyfreithiol sy’n galluogi cynghorau i droi tai preifat lle nad oes neb yn byw yn gartrefi eto yw Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag. Os ydych wedi gwrthod cymryd camau rhesymol i ddatrys problemau o’ch gwirfodd, gall yr awdurdod lleol ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoli’r eiddo. I gychwyn, bydd yn gwneud hyn am hyd at flwyddyn, ond os na fydd modd i chi gytuno â’r cyngor er mwyn datrys y mater yn wirfoddol, bydd modd estyn y trefniant am hyd at saith mlynedd. I bob pwrpas, mae’r pwerau hyn yn caniatáu i gynghorau ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoli cartref am hyd at saith mlynedd.
Gall yr Awdurdod Lleol adnewyddu’r eiddo, ei osod a chasglu’r rhent. Telir y rhent i’r Awdurdod Lleol a gall adennill unrhyw gostau y mae wedi mynd iddyn nhw yn sgil cymryd meddiant o’r eiddo a sicrhau bod modd i bobl fyw ynddo eto, yn ogystal â chostau cynnal a chadw a gosod yr eiddo. Fodd bynnag, rhaid iddo dalu unrhyw arian sy’n weddill ar ôl talu’r costau hyn i berchennog yr eiddo.
Ni fydd modd i’r Awdurdod Lleol werthu’r eiddo na gwarantu dyledion yn ei erbyn o dan Orchymyn Rheoli Anheddau Gwag. Serch hynny, gall fod modd iddo wneud hyn drwy ddefnyddio pwerau eraill.
Y Broses Prynu Gwirfoddol
Gellir prynu’r eiddo, drwy ddod i gytundeb â’r perchennog, ac yna gwerthu’r eiddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig neu i bartner arall i’w ddatblygu a’i droi’n gartref eto.
Gorchmynion Prynu Gorfodol
Mae gan yr Awdurdod Lleol bŵer i brynu’ch eiddo gwag gyda’ch caniatâd neu hebddo. Fodd bynnag, dim ond os nad oes gennych gynlluniau realistig ar ei gyfer ac os nad ydych yn barod i ystyried unrhyw opsiynau gwirfoddol i’w ddefnyddio eto y bydd modd iddo wneud hynny. Weithiau, defnyddir Gorchmynion Prynu Gorfodol i brynu’r tir sydd ei angen i adeiladu ffyrdd newydd, er enghraifft. Mewn rhai sefyllfaoedd, gall cynghorau hefyd brynu cartrefi gwag o dan orchymyn gorfodol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio eto, i’w dymchwel neu i godi cartrefi eraill yn eu lle.
Yn ymarferol, ni fydd yr Awdurdod Lleol ond yn ystyried defnyddio gorchymyn gorfodol i brynu tai gwag os nad oes dewis arall ar gael iddo – ac eithrio mewn achosion lle mae angen clirio ardaloedd ar gyfer cynlluniau mawr ac ati. Fel arfer, bydd yn gofyn i’r perchnogion ei helpu i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio eto. Dim ond os bydd y cymorth a’r anogaeth wedi methu ac os na fydd wedi llwyddo i ddod i gytundeb â’r perchennog y bydd yn ystyried prynu eiddo o dan orchymyn gorfodol.
Gwerthu Tai Gwag yn Orfodol
Gall Awdurdodau Lleol fynnu bod cartrefi gwag yn cael eu gwerthu er mwyn iddo adennill dyledion. Fel arfer, bydd y perchennog wedi mynd i ddyled oherwydd nad yw wedi talu am waith a wnaed gan y cyngor i atgyweirio’r eiddo, gwaith a wnaed oherwydd na wnaeth y perchennog gydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol i gyflawni’r gwaith.
Gall y perchennog ad-dalu’r ddyled neu gellir gwerthu’r eiddo i ad-dalu’r ddyled. Gall yr Awdurdod Lleol adennill yr holl gostau o’r arian sy’n dod i law ar ôl gwerthu’r eiddo. Caiff unrhyw arian sy’n weddill ei drosglwyddo i’r ail arwystl, os oes ail arwystl ar gael. Os nad oes, telir yr arian sy’n weddill i’r llys neu fe’i cedwir mewn cyfrif sy’n ennill llog yn y cyngor. Gall y perchennog wneud cais i’r llys i gael yr arian sy’n weddill.
Gall yr Awdurdod Lleol ddefnyddio gweithdrefn debyg i adennill dyledion os nad yw’r Dreth Gyngor wedi’i thalu.