Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cysgu Allan

Adroddiad

Os ydych yn pryderu am rywun yn cysgu allan yn ein hardal, gallwch roi gwybod i ni trwy Street Link, gwefan genedlaethol sy'n anfon rhybuddion atom yn nodi lleoliad y person. Yna gallwn ymgysylltu â nhw drwy ein gwasanaethau allgymorth.

Allgymorth

Bydd ein gwasanaeth allgymorth yn cysylltu â chysgwyr ar y stryd ac yn eu helpu i gael gafael ar wasanaethau tai a gwasanaethau cymorth. Trwy'r gwasanaeth hwn, gall person sy'n cysgu ar y stryd gael gafael ar gyfleusterau ymolchi, golchi dillad, loceri, bwyd, dillad a chymorth ymarferol. Mae'r gwasanaeth hwn yn wirfoddol, ac nid oes rhaid i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd ymgysylltu.

Digartrefedd

Bydd gwasanaeth opsiynau tai'r Cyngor yn mynd â pherson drwy'r broses ddigartrefedd statudol, gan roi llety dros dro os yw'n gymwys*, ei roi mewn cysylltiad â chymorth ychwanegol, a chymorth i gael llety sefydlog.

*Ni all pawb gael gafael ar wasanaethau digartrefedd a llety dros dro. Os nad yw person yn dod o'r ardal, gellir ei gynorthwyo yn ôl i'w Awdurdod Lleol cartref i gael gafael ar wasanaethau tai yno. Weithiau mae person eisoes wedi cael cymaint o help ag y gall drwy'r gwasanaeth hwn.

Symud pobl ymlaen

Yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae pwerau cyfyngedig i allu symud rhywun i ffwrdd o'u lleoliad.

Os nad yw’r person yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch troseddol, ychydig o bŵer sydd gan yr Heddlu i gymryd unrhyw gamau. Gall gweithgarwch troseddol gynnwys bod yn ymosodol neu ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol. Os yw rhywun yn cardota, gall yr Heddlu ymyrryd a symud y person hwnnw ymlaen ac os bydd yn parhau, gellir defnyddio gorchmynion sifil.

Os yw rhywun yn cysgu lle na ddylai, mater i'r tirfeddiannwr yw hyn yn gyffredinol. Gall y tirfeddiannwr benderfynu dwyn achos trwy'r Llys am dresmasu, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny. Gall hyn gymryd amser a dim ond i berson penodol mewn lleoliad penodol y mae'n berthnasol. Os bydd y person neu'r lleoliad yn newid, byddai angen i'r broses ddechrau o'r newydd.

Mae gan rannau o ganol trefi Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi gyfyngiadau ar yfed cyhoeddus drwy Orchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus dynodedig. Mae'r pwerau hyn yn helpu'r Heddlu i ymdrin â phroblemau niwsans, annifyrrwch neu anhrefn sy'n gysylltiedig ag yfed alcohol yn yr ardaloedd hynny. Mae gorfodi yn bŵer disgresiwn a ddefnyddir i fynd i’r afael ag yfed gwrthgymdeithasol, ac mae’n drosedd methu â chydymffurfio â chais a wneir gan yr Heddlu i roi’r gorau i yfed neu ildio alcohol. Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys mapiau o bob ardal dan sylw, ar gael yma.'

Sbwriel a gwastraff

Os caiff gwastraff ei adael ar ôl pan fydd rhywun yn symud ymlaen, gellid ystyried hyn yn dipio anghyfreithlon. Gall y Cyngor gael gwared ar bob math o wastraff sy'n cael ei adael ar dir y Cyngor megis priffyrdd / palmentydd ac o amgylch adeiladau cyhoeddus. Os yw’r tir mewn perchnogaeth breifat, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am hyn. Gellir gwneud adroddiadau trwy Clic i ymchwilio iddynt.

Os yw'r sawl sy'n cysgu allan yn dal i ddefnyddio'r lleoliad, bydd ein gwasanaethau allgymorth yn eu hannog i gadw'r ardal yn daclus.