Prentisiaethau
Rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd prentisiaeth sy’n cyfuno gweithio mewn swydd wych, ennill cymhwyster ac ennill cyflog cystadleuol.
Mae croeso i unrhyw un o unrhyw oed ymgeisio am brentisiaeth (16 oed a throsodd). P’un a ydych yn dechrau ym myd gwaith, eisiau newid eich gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn diweithdra neu seibiant yn eich gyrfa, byddwn yn eich cefnogi ar hyd y daith.
Buddion
- Cyflog prentis cystadleuol
- Mentor i gynnig cymorth i chi wrth i chi weithio
- Hanner diwrnod yr wythnos o amser astudio personol
- Bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Cyngor
- Gwyliau da
- Cyfleoedd dysgu a datblygu
- Gallu ymaelodi â’r gampfa am bris gostyngedig
- Mynediad at gynlluniau llesiant megis cwnsela
Cwestiynau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â phrentisiaethau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at apprentice@ceredigion.gov.uk.