Hyfforddiant Hanfodol i Breswylydd Ceredigion Gychwyn ei Yrfa
Roedd Owen Harrison wedi bod allan o waith am dros flwyddyn pan gyfarfu â Catrin, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr Cymunedau am Waith + (CFW+), mewn ffair Swyddi yn Llambed.
Gadawodd Owen addysg ym Mlwyddyn 8 ac nid oedd wedi ennill cymwysterau, gan ei gwneud ychydig yn anoddach i Owen ddod o hyd i waith. Cyfeiriodd Cymunedau am Waith + sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru Owen am gymorth mentoriaid a daeth ei fentor, Rachel Tuck, i'w adnabod ymhellach a beth oedd ei hobïau, ei ddiddordebau, ei nodau a'i ddyheadau.
Dywedodd Rachel Tuck, Mentor CFW+: "Dysgais yn eithaf cyflym fod Owen eisiau bod yn feddyg coed gan fod rhai o'i deulu yn y diwydiant hwnnw ac felly roedd ganddo rywfaint o brofiad. Roedd yn hapus i fod yn yr awyr agored ac yn gweithio ym mhob tywydd ac nid oedd eisiau gyrfa mewn swyddfa."
Gan oedd Owen wedi gadael addysg yn ifanc a heb weithio am dros flwyddyn, nid oedd ganddo’r cyllid i ariannu'r cwrs Cynnal a Chadw Llif Cadwyn a Thrawslifio ac roedd angen rhywfaint o PPE arno hefyd. Cynigiwyd swydd iddo yn R.T.S Tree Specialist LTD, ar y sail iddo gwblhau'r cymwysterau perthnasol.
Yn dilyn sawl galwad ffôn, negeseuon ac e-byst gyda'i fentor a'r gefnogaeth gan CFW +, cafodd Owen gyfle i fynychu cwrs hyfforddi ac asesiad 3 diwrnod ym mis Mawrth 2023 ar Cynnal a Chadw Llif Cadwyn a Thrawslifio. Llwyddodd Owen i gwblhau ei gymhwyster a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy CFW+ a derbyniodd adroddiadau disglair gan yr asesydd a'r darparwr hyfforddiant am ei agwedd gadarnhaol tuag at y gwaith.
Trwy gwblhau'r hyfforddiant a chael rhywfaint o PPE a ariennir gan CFW +, roedd Owen bellach yn gallu dechrau ei yrfa gyda R.T.S Tree Specialist Ltd ym mis Mai 2023.
Y Cynghorydd Wyn Thomas yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: "Mae Owen wedi dangos i ni sut y gall y gefnogaeth gywir fel gwasanaeth CFW+ effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc. Mae'r gefnogaeth gan y tîm wedi ei helpu i sicrhau swydd llawn amser, fodd bynnag, mae ei agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu wedi cyfrannu'n aruthrol at ble mae e nawr. Da iawn Owen, gobeithio y cewch yrfa hir a llwyddiannus. Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa o wasanaeth CFW+ Llywodraeth Cymru, cysylltwch am sgwrs."
Ychwanegodd Rachel Tuck: “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i Owen ac yn glod i'w benderfyniad i lwyddo. Rydyn ni'n falch iawn ohono!"
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau a ddarparwn yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.