Skip to main content

Ceredigion County Council website

Clwb Clud - Clybiau Olew Ceredigion

Mae dros 1100 o drigolion Ceredigion yn prynu tanwydd gyda’i gilydd mewn clybiau ar draws y sir.

Mae’r clybiau wedi llwyddo i ddarparu buddion enfawr i’w haelodau, gyda llawer yn gwasanaethu eu cymunedau ers sawl blwyddyn. Maent wedi’u sefydlu a’u trefnu gan bobl cryf eu cymhelliad sy’n gweithio’n wirfoddol.

Beth yw syndicet prynu olew?

Mae syndicet prynu olew (sydd hefyd yn cael ei nabod fel clwb olew neu fenter olew gydweithredol) yn galluogi pobl i ymuno â’i gilydd i brynu olew gwresogi mewn swmp am bris gostyngol. Gall meintiau syndicetiau amrywio, o ychydig gymdogion yn unig i grwpiau cymunedol mawr gyda chant neu ragor o aelodau. Yn y rhan fwyaf o grwpiau, mae archebion yn cael eu rheoli gan un neu ragor o gydlynwyr gwirfoddol sy’n trafod pris cystadleuol â chyflenwyr tanwydd.

Pa mor aml maent yn archebu?

Amrywia amledd yr archebu o bob pythefnos ar adegau galw brig i lawr i 3 gwaith y flwyddyn. Mae rhai’n archebu ar ddiwrnod cyntaf pob mis a rhai’n archebu yn ôl y galw. Yn aml, byddant yn osgoi archebu ym mis Rhagfyr a mis Ionawr pan fydd y galw yn uchel ac efallai y bydd cyflenwyr yn rhoi blaenoriaeth i archebion unigol ac yn codi’r prisiau.

Beth yw’r manteision?

Arbedion - Gall aelodau syndicetiau fanteisio ar arbedion ariannol. Gellir arbed arian wrth brynu mewn swmp ond hefyd oherwydd, wrth ddod yn rhan o syndicet, bydd rhai pobl sydd â chytundebau hirdymor weithiau’n canfod eu bod yn talu prisiau sy’n uwch na’r cyfartaledd. Mewn rhai achosion yng Ngheredigion, mae pobl wedi arbed hyd at draean ar eu biliau tanwydd. Roedd hyn drwy gyfuniad o swmp-brynu a pheidio â thalu cyfradd uwch. Mae un syndicet yng Ngheredigion wedi cofnodi arbedion rhwng £26 a £76 ar bob archeb 1000 litr – arbedion o 10% yn fras ar gyfartaledd dros 18 mis. Fodd bynnag, amrywiai lefelau’r arbedion yn ddramatig o 1-2g y litr (£10-£20 yr archeb 1000 litr) gyda rhai syndicetiau’n sôn am arbedion o 20 ceiniog y litr.

Carbon - Mae archebu drwy syndicet hefyd yn cwtogi ar garbon ac felly yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gall syndicet o bum aelwyd yn yr un pentre leihau nifer y teithiau tancer o bump i un.1 Mae cyflenwyr tanwydd sy’n cydweithio â syndicetiau yng Ngheredigion yn sôn am fanteision cyflenwi grwpiau mewn ardaloedd llai, gan gynnwys yr amser a arbedir drwy archebion swmp i gymunedau.

Cymuned - Mae pobl yn mwynhau bod yn rhan o syndicet oherwydd ei fod yn ffordd arall o gysylltu â’u cymunedau. Mae rhai clybiau’n cael eu trefnu o gwmpas siopau, tafarnau neu ganolfannau cymunedol lleol. Er nad yw’r mwyafrif llethol o gydlynwyr gwirfoddol yn codi tâl am brosesu archebion, mae rhai’n codi ychydig bach i helpu i gefnogi cyfleusterau cymunedol.

Sut dw i’n dod yn aelod o fy nghlwb lleol?

Chwiliwch am eich clwb a chysylltu â’ch cydlynydd lleol a fydd yn rhoi gwybod i chi sut mae’r clwb yn rhedeg a pha fanylion sydd eu hangen. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg drwy e-bost neu ganolfan gymunedol ganolog.

Mae’r pecyn cymorth yma’n rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ynglŷn â sut i ddatblygu rhwydwaith effeithiol o glybiau tanwydd yn eich ardal.

Fe’i hysgrifennwyd gan y Ymlaen Ceredigion, yn seiliedig ar brosiect Clwb Clyd Ceredigion, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Ymlaen Ceredigion, www.ymlaenceredigion.org.uk mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion.

Mae’n amlygu’r prif faterion i’w hystyried wrth greu rhwydwaith, fel ymdrin â thlodi tanwydd a sut mae cyflenwyr olew’n gweithredu.

Mae’n cael ei anelu at:

  • Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau Cymunedol
  • Chymdeithasau Tai

Mae’n arbennig o ddefnyddiol i’r sefydliadau hynny sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig sydd heb nwy. Mae’n wahanol i becynnau cymorth eraill gan nad arweiniad ‘sut i’ i gydlynwyr newydd yn unig yw’i fwriad, er ein bod wedi cynnwys yr wybodaeth honno. Mae llawer o enghreifftiau da o becynnau cymorth i gydlynwyr eisoes ar gael, ond dyma arweiniad strategol wedi’i anelu at sefydliadau sydd am gael y gorau o waith y syndicetiau tanwydd.

Clwb Clyd Toolkit

Pecyn Cymorth - Clwb Clyd

Am fwy o wybodaeth berthnasol, megis cynlluniau cynhesrwydd y gaeaf i gynorthwyo'r rhai sydd fwyaf mewn angen yn ogystal a chyfleoedd ariannu sydd ar gael i ddeiliaid tai - y ddau o safbwynt cenedlaethol a lleol i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl fyw mewn amodau oer cyfeiriwch at pecyn Cymdogion Cynnes Ceredigion:

Cymdogion CynnesCymdogion Cynnes

Gall Clybiau Olew Ceredigion eich helpu i arbed arian, cysylltu â’r gymuned a lleihau allyriadau carbon.

Clwb Clud Logo

Maent yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr cymunedol sydd i gyd yn rhedeg eu clybiau ychydig yn wahanol. Os ydych yn gadael neges ffôn neu e-bost fe ddôn nhw yn ôl atoch o fewn ychydig ddiwrnodau neu cyn gynted ag y bo modd. I gael hyd i fanylion clwb olew ar gyfer eich ardal chi, gwelwch y rhestr isod.

Clwb Tanwydd Capel Iwan
Sally Sendall - 01559 370398
capeliwanfueloil@yahoo.com

 

Syndicet Gwresogi Cenarth
Joy Jones - 01239 711476
cenarthheatingoilclub@gmail.com

 

Clwb Clud @ – Taliesin, Y Borth, Talybont
The Co-ordinator - 01970 832113
cosy@cletwr.com
Wefan Cletwr

 

Cymuned Cwmcou
Peta Millard - 01239 710025
r.j.millard@btinternet.com

 

Syndicet Olew Felinfach
Arnold Phipps-Jones - 07894831609
felinfachheatingoil@gmail.com

 

Clwb Tanwydd Llandewi Brefi - c/o New Inn, Llanddewi Brefi
Yvonne Edwards - 01974 298452

 

Clwb Tanwydd Llangeitho a'r Cylch
Phyllis Eldridge - 01974 821554

 

Clwb Tanwydd Emlyn ac Atpar
Lloyd Thomas – 01239 711297 / 07375621450
emlynadparfuelclub@btinternet.com
Grŵp Facebook Clwb Tanwydd Emlyn Adpar

 

Syndicet Olew Derwen-Gam
Bob Turner - 01545 580674
oakfordoil@gmail.com

 

Clwb Olew Whilen y Porthmyn
David J Edwards - 07833564941
edwardsdj62@btinternet.com
Grŵp Facebook Clwb Olew Whilen y Porthmyn

Ymlaen Ceredigion