Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ffosffadau yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi

Mae’r Cyngor yn ymrwymo i ganiatáu i ddatblygiad ddigwydd dim ond os yw’n ddatblygiad cynaliadwy sy’n cynnwys mesurau perthnasol i ddiogelu'r amgylchedd.

Mae amgylchedd naturiol ein hardal yn un o safon ac mae lleoliadau amrywiol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol o ran bywyd gwyllt. Felly mae Afon Teifi wedi'i dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig Afonol (SAC) o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, fel y'i diwygiwyd ("y Rheoliadau Cynefinoedd").

Ym mis Ionawr 2021 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dargedau newydd i leihau lefelau ffosffad mewn afonydd mewn SAC ledled Cymru.

Roedd yr adolygiad yn dilyn tystiolaeth newydd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad. Mae hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynghylch effeithiau niweidiol ffosffadau ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr.

Ar hyn o bryd, mae dros 60% o'r cyrff dŵr yng Nghymru yn methu'r targedau llymach, a gofynnir i awdurdodau cynllunio lleol Cymru gymryd mwy o gamau i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. Mae'n golygu bod yn rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer datblygu o fewn dalgylchoedd afonydd ACA - yn enwedig y rhai a fydd yn cynyddu cyfaint neu grynodiad y dŵr gwastraff - brofi bellach na fydd y dyluniad yn cyfrannu at gynyddu lefelau ffosffad.

Mae Afon Teifi, yn Ardal o Gadwraeth Arbennig (ACA) sy’n methu targedau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o ran cydymffurfiaeth ffosffadau. Gellir gweld adroddiad Asesiad Cydymffurfiaeth Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosffwrws yma. Ers diwedd Hydref 2023, mae CNC wedi cynnal adolygiadau trwyddedau gweithfeydd trin dŵr gwastraff (GTDG) ar lif dŵr dros 20 m3 yn ystod tywydd sych wedi'u lleoli yn nhalgylch ACA Afon Teifi, er mwyn asesu a gosod targedau newydd ar gyfer terfynau Ffosfforws a ganiateir er sicrhau cydymffurfiaeth o elifiant wedi'i drin sy'n llifo i mewn i'r afon. Bellach mae nifer o GTDG yng Ngheredigion wedi’u hadolygu ac wedi derbyn trwyddedau wedi'u diweddaru o safbwynt terfynau lefelau ffosfforws. Rydym yn falch o allu dweud, o’r trwyddedau diwygiedig a gyflwynwyd yn ddiweddar, y bydd nifer o’r rhai o gyflwynwyd yn caniatâi i rywfaint o ddatblygiad ddod yn ei flaen mewn ardaloedd sydd yn nhalgylch gweithfeydd trin dŵr gwastraff penodol, sef:

  • Llandysul
  • Tregaron
  • Llanbedr Pont Steffan
  • LlanddewBrefi
  • Llangybi, Cellan
  • Llanybydder
  • Henllan
  • Llechryd
  • Beulah
  • Pontrhydfendigaid

Fodd bynnag, mae'r broses yn dal i fynd rhagddi, ac ar hyn o bryd byddem yn cynghori unrhyw ddatblygiadau a allai gael ei gyflwyno sydd wedi’i leoli yn nhalgylch gwaith trin dŵr gwastraff sydd heb ei adolygu, fod capasiti cyfyngedig yn parhau o safbwynt cysylltu â'r system garthffosiaeth gyhoeddus yn unol â chanllawiau cynllunio CNC yma. Felly, mae'n rhaid dod o hyd i atebion eraill er mwyn cyrraedd y targedau newydd, naill ai trwy fod yn ffosffad niwtral neu trwy wella lefelau’r ffosffadau. Gallwch weld map talgylchoedd yr afon yma.

Yng ngoleuni dyfarniad llys (y “Dutch Case” fel y’i gelwir) ac o ystyried cyflwr anffafriol SAC Afon Teifi, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybod i Gyngor Sir Ceredigion y dylai awdurdodau cymwys gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) cyn penderfynu ar gais cynllunio a allai arwain at ragor o ffosffadau yn y dalgylch.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn 'awdurdod cymwys' o dan y Rheoliadau Cynefinoedd ac mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor asesu effaith bosib prosiectau a chynlluniau ar safleoedd o bwys rhyngwladol, gan gynnwys Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Teifi. Yn ei rôl fel awdurdod cymwys, rhaid i'r Cyngor gynnal 'Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd' ar unrhyw gais cynllunio perthnasol sy'n dod o fewn y ffin a'r dalgylch, fel y dangosir yn y cynllun (mae dolen ato uchod). Os oes 'Effaith Sylweddol yn Debygol', rhaid i'r Cyngor gynnal 'Asesiad Priodol' er mwyn penderfynu, yn wyddonol sicr, na fyddai 'Effaith Niweidiol ar Integriti’ y safle dynodedig yn sgil y cynllun neu'r prosiect, boed hynny ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill.

Mae'r Cyngor yn rhoi sylw i hyn wrth ystyried a ellir rhoi caniatâd cynllunio. Os na ellir profi na fyddai’n cael effaith andwyol ar integriti, ni ellir rhoi caniatâd cynllunio heb ystyried yn ddwys eto o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai statudol ar asesiadau priodol ac mae’n rhoi cyngor i awdurdodau cymwys ynghylch safleoedd a ddynodwyd yn ardaloedd cadwraeth arbennig, ymhlith pethau eraill. Rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol roi sylw i'r cyngor a roddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru wrth wneud penderfyniadau cynllunio (ar ddatblygiadau unigol a chynlluniau datblygu lleol). Dylid rhoi cryn bwys ar gyngor Cyfoeth Naturiol Cymru ond mae gan awdurdodau cymwys hawl i wyro oddi wrth y cyngor os oes modd iddynt roi rhesymau cryf dros wneud hynny.

Dyma’r mathau o ddatblygiadau y mae'r gofyniad hwn yn effeithio arnynt (nid yw’r rhestr yn cynnwys popeth):

  • Unedau preswyl newydd - gan gynnwys llety gwyliau, safleoedd/lleiniau sipsiwn & teithwyr, llety myfyrwyr, cartrefi gofal ac ati.
  • Datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos
  • Atblygiadau masnachol neu ddiwydiannol mawr newydd lle bydd cwsmeriaid yn cael eu denu o'r tu allan i'r dalgylch megis safleoedd manwerthu mawr, cyfleusterau cynadledda, neu atyniadau twristaidd mawr.
  • Rhai mathau o ddatblygiadau Amaethyddol - ysguboriau ychwanegol, storfeydd slyri ac ati.
  • Hysbysiadau blaenorol o ddatblygiad amaethyddol lle, o ganlyniad i'r datblygiad, bydd maint neu ddwyster y dŵr gwastraff a ryddheir yn cynyddu.
  • Peiriant Treulio Anaerobig.
  • Atyniadau twristaidd.
  • Rhai mathau o ddatblygiad a ganiateir wrth eiddo sy'n bodoli eisoes (e.e. estyniadau) sy'n cynyddu faint o ddŵr brwnt sy’n draenio (e.e. am fod mwy o bobl yn byw yno).

Mae dogfennau canllawiau cynllunio dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru (mae dolenni iddynt isod) yn nodi rhagor o wybodaeth am y mathau o ddatblygiadau y mae'r cyfarwyddyd hwn yn effeithio arnynt a'r mathau nad ydynt yn cael eu heffeithio.

Cyfoeth Naturiol Cymru / Targedau ffosffad llymach yn newid ein barn am gyflwr afonydd Cymru (naturalresources.wales)

Pa gamau ydym wedi eu cymryd?

Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu ac wedi egluro ein bod am ddod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl. Rydym hefyd wedi cymryd nifer o gamau rhagweithiol:

  • Rydym wedi creu cyfrifiannell ffosffad i ddatblygwyr gyfrif faint o ffosffad fydd eu datblygiad yn ei gynhyrchu. Mae wedi'i modelu'n benodol â data ar gyfer Sir Ceredigion.
  • Rydym wedi llunio Canllaw Technegol – sy'n nodi'r holl gyfrifiadau a mewnbwn data a ddefnyddiwyd yn y gyfrifiannell.
  • Rydym wedi llunio Canllawiau Lliniaru cynhwysfawr sy'n esbonio'r mathau mwyaf effeithiol o liniaru y gellid eu defnyddio yn Sir Ceredigion.
  • Rydym wedi sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer afon Teifi. Bydd y bwrdd hwn yn gyfrifol am gynhyrchu Cynllun i wella cyflwr yr afon ac i hwyluso datblygiad niwtral o ran maetholion. Bydd manylion pellach am y Bwrdd hwn, gan gynnwys tudalen we sy'n arddangos diweddariadau byw, yn cael eu postio ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.

Y Camau Nesaf

  • Rydym wedi sefydlu Grŵp Cyngor Technegol i adolygu tystiolaeth ac i fodelu senarios a chynigion a gaiff eu cyflwyno i'r Byrddau Rheoli Maetholion i'w cymeradwyo.
  • Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Afonydd, yn gweithredu fel un grŵp traws-ranbarth. Mae aelodaeth y grŵp hwn yn agored, ac rydym yn croesawu pob cyfraniad i helpu i hwyluso newid adeiladol a pharhaol i iechyd afonydd. I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau a chyfarfodydd sydd i ddod, ac i gael manylion am ymuno hefyd, cysylltwch â Swyddog Cymorth y Bwrdd Rheoli Maetholion
  • Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth fynd i'r afael â llygredd ffosffad yn gymhleth, a does dim ateb hawdd. I gael atebion fydd yn para, bydd angen cydweithio ag Awdurdodau Lleol cyfagos, Dŵr Cymru, y sector ffermio, CNC, Llywodraeth Cymru a chyrff amgylcheddol. Mae CSC wrthi'n cydweithio a rhannu gwybodaeth â phob ochr yn rheolaidd drwy gyfarfodydd rhanbarthol a chyfarfodydd Cymru gyfan.
  • Ymchwilir i raglen Liniaru Strategol sy'n sicrhau bod cymaint o liniaru ag sy'n bosibl yn digwydd ac sy'n darparu budd hynny drwy gyfnewidfa gredyd. Bydd hyn yn cael gwared ar lawer o'r rhwystrau lliniaru y mae datblygwyr yn gorfod mynd i'r afael â nhw.

Rydym yn cydnabod y bydd y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.

Cyfrifiannell

Mae ein Cyfrifiannell Cyfrifo Maetholion bellach ar waith.

Mae'n eich galluogi i gyfrifo lefel y ffosffadau y gallai datblygiad masnachol a preswyl arfaethedig yn Sir Ceredigion ei chynhyrchu.

Mae hwn yn adnodd am ddim, wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer Sir Ceredigion. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall yr effaith y mae eich datblygiad yn ei chael a bydd yn eich galluogi i gadarnhau cyfrifiad ffosffad y datblygiad arfaethedig ac i ystyried mesurau lliniaru.

Rydym wedi llunio Dogfen Ganllaw ar gyfer y Gyfrifiannell i'ch helpu i ddefnyddio'r gyfrifiannell. Rydym hefyd wedi creu Dogfen Dechnegol sy'n esbonio o ble y casglwyd y data a sut mae’r cyfrifiadau wedi'u gwneud. Lluniwyd canllawiau lliniaru ar wahân ar gyfer pob dalgylch. Mae’r rhain i’w gweld yma:

Canllawiau Lliniaru Gorllewin Cymru

Bydd angen defnyddio cyfrifiannell cyfrifo maetholion i asesu a fydd y datblygiad yn cynyddu'r llwyth maetholion mewn safle Ewropeaidd ac a yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.

Os yw'r ateb yn gadarnhaol i'r cwestiyn/au canlynol:

1 neu

2 a 3 neu

2 a 4

  1. A yw'r datblygiad o fewn dalgylch sy'n draenio i safle Ewropeaidd yr effeithir arno?

  2. A yw'r gwaith trin dŵr gwastraff sy'n derbyn y dŵr yn rhyddhau i safle Ewropeaidd yr effeithir arno.

  3. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd mewn aros dros nos?

  4. A fydd y datblygiad yn arwain at gynnydd yn nifer y cwsmeriaid/defnyddwyr neu weithwyr sy'n dod i ddalgylch yr afon ACA o'r tu allan i'r dalgylch i weithio (yn y cyd-destun hwn, y diffiniad o ddefnyddiwr yw person a all ddefnyddio gwasanaeth neu gyfleusterau a ddarperir gan y datblygiad heb gael ei ystyried yn uniongyrchol yn gwsmer)?

Dogfen Ganllaw’r ar gyfer y Gyfrifiannell - Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio fel canllaw cyfarwyddiadol i'ch helpu chi i ddefnyddio’r gyfrifiannell.

Sut mae'n gweithio

Yn syml, ewch ati i fewnbynnu'r wybodaeth sy'n benodol i'ch datblygiad ac i'r safle i'r gyfrifiannell ac ewch drwy'r camau. Darparwyd cyfarwyddiadau i'ch helpu.

Bydd y gyfrifiannell yn cynhyrchu gwerth ffosfforws mewn cilogramau fesul blwyddyn. Gellid defnyddio'r gwerth terfynol i'ch helpu i ystyried eich opsiynau lliniaru o ran ffosffad. Ni fydd y gyfrifiannell yn amcangyfrif faint o dir sydd ei angen ar gyfer unrhyw fath o liniaru oherwydd y newidynnau niferus mewn datrysiadau seiliedig ar natur a all amrywio yn dibynnu ar waith cynnal a chadw, aeddfedrwydd ac amodau safle-benodol arfaethedig.

Bydd y canllawiau lliniaru yn eich cynorthwyo ymhellach wrth ddethol a gweithredu opsiynau lliniaru.

Er nad yw'n ofynnol i chi ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn destun craffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i'r amodau yn y sir.

Ymwadiad

Nid yw'r Cyngor yn derbyn atebolrwydd am unrhyw niwed, colled neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir drwy lawrlwytho a defnyddio'r gyfrifiannell ffosffad hon o wefan y Cyngor.

Cyfeiriwch at y Canllaw Technegol i gael esboniad o'r setiau data a'r cyfrifiadau a ddefnyddir yn y gyfrifiannell. Os oes gennych unrhyw sylwadau, rhowch wybod inni drwy anfon neges e-bost at ldp@ceredigion.gov.uk. Bydd y gyfrifiannell yn cael ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn cael ei seilio ar y dystiolaeth orau posibl ac yn adlewyrchu'r amodau lleol yn gywir.

Mae hwn yn adnodd am ddim, wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer Sir Ceredigion. Bydd yn eich cynorthwyo i ddeall yr effaith y mae eich datblygiad yn ei chael a bydd yn eich galluogi i gadarnhau cyfrifiad ffosffad y datblygiad arfaethedig ac i ystyried mesurau lliniaru.

Er nad yw'n ofynnol ichi ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, rydym yn eich annog yn gryf i wneud hynny. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir gan ddefnyddio cyfrifianellau amgen yn destun craffu ychwanegol i benderfynu pa mor berthnasol ydynt i'r amodau yn Sir Ceredigion.

Dogfen Ganllaw’r ar gyfer y Gyfrifiannell - Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio fel canllaw cyfarwyddiadol i'ch helpu chi i ddefnyddio’r gyfrifiannell

Mesurau Lliniaru

Mae angen i fesurau lliniaru adlewyrchu amgylchiadau safle-benodol, a chael dealltwriaeth o ffynhonnell y llygredd ffosffad (Ff) hwnnw.

Mae Dŵr Cymru wrthi'n cynnal adolygiad o ffynonellau Ffosffad. Gwybodaeth. Bydd y wybodaeth hon yn helpu i gael y lliniaru cywir yn y man cywir. Gallwch weld y data dosrannu ffynonellau yma.

Mae angen mwy o ymchwil i effeithiolrwydd gwahanol fathau o opsiynau lliniaru.

Mae'n rhaid i unrhyw fesurau lliniaru a fwriedir i osgoi neu liniaru effeithiau ffosfforws posibl ddangos eu bod yn seiliedig ar y 'dystiolaeth orau sydd ar gael', yn effeithiol 'y tu hwnt i amheuaeth resymol', wedi'u seilio ar amcangyfrifon 'rhagofalus', ac yn rhai y gellir eu sicrhau 'am byth' (80-125 mlynedd).

Rhaid i'r mesurau arfaethedig gael eu gorfodi'n gyfreithiol hefyd.

Ar gyfer pob mesur, mae angen i ni dderbyn gwybodaeth:

  • sy'n nodi sut byddai'r mesur(au) yn osgoi neu'n lleihau effeithiau andwyol ar yr ACA (gan ystyried am ba hyd y rhagwelir bydd yr effeithiau'n para).
  • sy'n dangos sut byddai'r mesur(au) yn cyflawni niwtraliaeth o ran maetholion.
  • sy'n cadarnhau sut bydd y mesur(au) yn cael eu gweithredu, a chan bwy.
  • sy'n nodi sut bydd y mesur yn cael ei gynnal a phwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw.
  • sy'n dangos sut y bydd y mesur yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol.

Mae rhagor o wybodaeth am fesurau lliniaru ar gael yng Nghyngor Cynllunio Ffosffad diweddaraf CNC.

Rydym yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr - rydym am weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy'n gwella cyflwr ein hafonydd, sy'n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. Rydym am ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl sy'n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n rhagweithiol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ac i ganfod ateb i'r broblem hon. Rydym yn flaenllaw wrth gynllunio'n strategol a chydnabod yr angen am weithredu'n gyflym ac effeithiol, gan osod esiampl i weddill Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau cyhoeddi eu hadolygiad o drwyddedau gwaith trin dŵr gwastraff (GTDG). Mae cyfyngiad Ff yn cael ei gymhwyso i safleoedd nad oedd ganddynt unrhyw yn y gorffennol. Gellir gosod cyfyngiadau Ff tynnach ar drwyddedau GTDG lle mae cyfyngiad eisoes yn bresennol. Efallai na fydd unrhyw newid i cyfyngiadau Ff presennol mewn rhai safleoedd. Mae'r cyfyngiad newydd o 5mg/l yn berthnasol i safleoedd sydd â llif tywydd sych o <20m3/dydd.