Cwestiynau Cyffredin
- Beth yw Rheoliadau Adeiladu?
- A yw Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu yr un fath â Chaniatâd Cynllunio?
- Ble allaf ddod o hyd i wybodaeth am Ganiatâd Cynllunio?
- Beth ddylwn ei wneud ar ôl cwblhau'r gwaith?
- Pwy sy'n gweinyddu'r Rheoliadau Adeiladu?
- A fedraf gael Caniatâd Ôl-weithredol ar gyfer adeilad sydd eisoes yn bod?
- Pryd fydd arnaf angen Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu?
- Beth yw ystyr 'Newid Defnydd'?
- Rwyf o'r farn bod arnaf angen Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu beth ddyliwn ei wneud nesaf?
- Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy Weithdrefn?
- A fydd yn rhaid i mi dalu am Gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu?
- Pryd alla i ddechrau'r gwaith?
- Beth os na fyddaf yn hysbysu'r Cyngor?
Mae Rheoliadau Adeiladuyn gyfres o safonau ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau, sydd â'r nod o sicrhau iechyd a diogelwch pobl sy'n defnyddio'r adeiladau ac yn mynd o'u hamgylch. Maent hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau yr arbedir ynni a thanwydd, ac y darperir cyfleusterau i bobl ag anableddau.
A yw Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu yr un fath â Chaniatad Cynllunio?
Nac ydyw. Mae'r rhain yn ddau beth hollol wahanol. Gallai fod gofyn cael caniatâd cynllunio hyd yn oed os nad yw'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol, ac i'r gwrthwyneb. Gallwch gael cyngor ar gynllunio gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai.
Ble allaf ddod o hyd i wybodaeth am Ganiatâd Cynllunio?
Ceir mwy o wybodaeth am Ganiatâd Cynllunio ar y wefan hon, dan Cynllunio.
Beth ddyliwn ei wneud ar ôl cwblhau'r gwaith?
Ar ôl cwblhau'r gwaith dylech gysylltu â'ch Syrfëwr Rheoli Adeiladu i drefnu archwiliad terfynol. Ni fuasem yn argymell rhoi'r tâl olaf i unrhyw adeiladwyr hyd nes bod yr archwiliad cwblhau wedi'i wneud a thystysgrif cwblhau wedi'i chyflwyno.
Pwy sy'n gweinyddu'r Rheoliadau Adeiladu?
Syrfewyr yr Adain Rheoli Adeiladu sy'n gwneud hyn. Bydd timau o syrfewyr cymwys a phrofiadol yn archwilio cynlluniau ac yn dod i'r safle i archwilio'r gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen. Byddwch yn medru elwa ar eu gwybodaeth drylwyr am ddefnyddiau a dulliau adeiladu a'r amodau lleol ar bob cam o'r broses adeiladu.
A fedraf gael Caniatâd Ôl-weithredol ar gyfer adeilad sydd eisoes yn bod?
Os ydych chi wedi gwneud gwaith heb gael cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu, gallech gael trafferth yn gwerthu'r eiddo neu'n codi ail forgais arno.
Os gwnaethpwyd y gwaith ar ôl 11 Tachwedd 1985, mae yno weithdrefn y gallwch ei defnyddio i gael caniatâd ôl-weithredol.
Dylech gyflwyno dau gopi o'r cynlluniau yn dangos yr adeilad cyn ac ar ôl y gwaith, gyda manylion llawn am yr adeiladwaith, ynghyd â ffurflen gais rheoleiddio a'r tâl priodol. Nid oes yn rhaid talu TAW ar y tâl hwn, ond fe fydd yn 150% gwaith y tâl arferol (cysylltwch â'r Adain Rheoli Adeiladu).
Ar ôl i ni dderbyn eich cais, bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â'r adeilad ac arfarnu pa waith sydd wedi'i wneud. Bydd y syrfëwr yn nodi unrhyw waith cywiro sy'n angenrheidiol, ac ar ôl i chi wneud hynny bydd yn cyflwyno tystysgrif rheoleiddio.
Pryd fydd arnaf angen Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu?
- Pan fyddwch yn adeiladu neu ymestyn adeilad.
- Pan fyddwch yn addasu adeilad yn sylweddol, er enghraifft wrth addasu'r strwythur.
- Pan fyddwch yn ymestyn neu'n addasu gwasanaeth wedi'i reoli o fewn adeilad, er enghraifft, gosod toiled.
- Pan fyddwch am newid y defnydd sylfaenol a wneir o'r adeilad.
- Pan fyddwch yn gosod ffenestri newydd gan ddefnyddio Adeiladwr neu gwmni ffenestri nad ydynt wedi cofrestru â FENSA.
- Rhai mathau o waith trydanol domestig.
- Pan fyddwch yn newid statws ynni'r adeilad, er enghraifft, ail-rendro.
Beth yw ystyr 'Newid Defnydd'?
Lle ddefnyddir adeilad fel annedd pan nad dyna ydoedd o'r blaen. Lle mae adeilad yn cynnwys fflat pan nad ydoedd o'r blaen. Lle defnyddir adeilad fel gwesty neu sefydliad pan nad dyna ydoedd o'r blaen. Lle daw adeilad yn adeilad cyhoeddus (er enghraifft, ysgol, theatr, neuadd, eglwys), pan nad dyna ydoedd o'r blaen.
Rwyf o'r farn bod arnaf angen Cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu beth ddyliwn ei wneud nesaf?
Gallwch wneud cais am ein caniatâd i adeilad mewn dwy ffordd,naill ai drwy gyflwyno 'Cynlluniau Llawn' neu drwy'r weithdrefn 'Hysbysiad Adeiladu'.
Noder: os ydych chi'n bwriadu codi adeilad annomestig neu fflatiau, bydd yn rhaid i chi gyflwyno 'Cynlluniau Llawn'.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy Weithdrefn?
Manteision cyflwyno 'Cynlluniau Llawn' yw:
- Byddwn yn rhoi cyngor i chi ar y Rheoliadau Adeiladu wrth i chi ddylunio'r prosiect, sy'n golygu y bydd yr Awdurdod Lleol yn fwy tebygol o gymeradwyo'ch cynlluniau.
- Byddwn yn sicrhau y cewch benderfyniad ymhen tair wythnos fel arfer – drwy roi cymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol.
- Gallwch osgoi'r oedi drud sy'n gallu digwydd pan nad yw'r gwaith yn bodloni'r safon. Gweler yr wybodaeth am y 'Cynlluniau Llawn'.
Manteision y weithdrefn 'Hysbysiad Adeiladu' yw:
- Pan fwriedir gwneud gwaith adeiladu bach, mae defnyddio'r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu yn symlach na chyflwyno Cynlluniau Llawn.
- Os nad yw'r gwaith yr ydych yn bwriadu'i wneud yn rhy fawr neu gymhleth, mae'n syniad da defnyddio hysbysiad adeiladu, ond mae'n bwysig fod eich adeiladwr (neu chi) yn gwybod beth mae'n ei wneud, gan y gallai cywiro gwaith diffygiol fod yn ddrud.
A fydd yn rhaid i mi dalu am Gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu?
Bydd, mae'n ofynnol i ni godi tâl am y gwaith o weinyddu'r Rheoliadau. Bydd y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu ar y cychwyn yn dibynnu ar eich dewis o ran cyflwyno Cynlluniau Llawn neu ddefnyddio'r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu.
Pryd alla i ddechrau'r gwaith?
Nid oesynrhaid i chi aros i gael cymeradwyaeth o'r cynlluniau cyn dechrau'r gwaith; ond o'u pasio buasai gennych rywfaint o amddiffyniad rhag costau diangen. Ar ôl i chi gyflwyno Hysbysiad Adeiladu neu anfon cynlluniau atom gallwch fynd ati gyda'r gwaith, ceisiwch roi dau ddiwrnod o rybudd i ni. Gallwch wneud hynny dros y ffôn. Pe baech yn dechrau'r gwaith heb ein hysbysu, efallai y bydd gofyn i chi ei ddadwneud er mwyn i'r Swyddog Rheoli Adeiladu fedru ei wirio i weld a yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau.
Beth os na fyddaf yn hysbysu'r Cyngor?
Pe baech yngwneud gwaith heb roi gwybod i'r Cyngor, gallech fod yn cyflawni trosedd, a gallech gael dirwy o hyd at £5,000. Gallai problemau godi hefyd yn y dyfodol wrth werthu'r tŷ, pe bai chwiliadau'r awdurdod lleol perthnasol yn datgelu na chafwyd caniatad.