Pridiannau Tir Lleol
Diben Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol yw cynnal y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a darparu cyfreithwyr, trawsgludwyr, darparwyr pecynnau gwybodaeth am eiddo a darpar brynwyr darn o dir neu eiddo penodol yng Ngheredigion ynghyd â gwybodaeth mewn dogfen chwiliad eiddo'r awdurdod lleol.
Bydd chwiliad eiddo a gyflawnir gan yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth ynghylch a cofnodion a geir ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am faterion ac yn ymateb gwestiynau penodol ar y ffurflen CON 29, yn sy'n cael effaith ar yr eiddo, megis:
- A fu unrhyw ddatblygiad heb awdurdod a’i peidio
- Cynlluniau Gwella Ffyrdd posibl a chynlluniau newydd
- Mynd yn groes i Reoliadau Adeiladu
Er mwyn gwella gwasanaeth yr Adain Pridiannau Tir Lleol cyflwynodd yr Awdurdod gyfleuster i wneud cais am chwiliad a thalu ar lein. Hefyd, i wella effeithlonrwydd a'r amser a gymerir i ymateb byddwn yn dychwelyd holl ymatebion drwy e-bost.
Ffioedd Chwiliad Pridiannau Tir Lleol Swyddogol
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi penderfynu bod pob gwybodaeth CON29 a CON29O yn agored i TAW ar gyfradd o 20%. Mae ein systemau a phrosesau wedi cael eu diweddaru i gynnwys y ffi hon.
Mae manylion y taliadau newydd wedi’u nodi isod:-
Y Chwiliad | Ffi Newydd (yn cynnwys TAW) |
---|---|
LLC 1 | £6.00 (wedi'i eithrio rhag TAW) |
CON29 R | £165.00 |
CON29 O (Cwestiwn 4 - 22) | £19.00 |
Cwestiwn ychwanegol | £22.00 |
Darn o dir ychwanegol (LLC1) | £1.00 (wedi'i eithrio rhag TAW) |
Darn o dir ychwanegol (CON 29 yn unig) | £16.50 |
Tâl Gweinyddol ar gyfer ymholiad nad yw’n gysylltiedig â chwiliad CON29: £13.00
Felly, y tâl ar gyfer ymholiad Dewisol heb chwiliad swyddogol CON29 yw: £13.00 tâl gweinyddol + £19.00 am bob cwestiwn a holir.
Ffi Gweinyddol am gopi ychwanegol o ganlyniad chwiliad cyn 2002: £19.00
Gallwch hefyd ofyn am chwiliad drwy’r post.
Dylid anfon eich cais i:
Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol
Cyngor Sir Ceredigion
Neuadd y Sir
Aberaeron
Ceredigion SA46 0AT
Trefniadau i weld Cofrestrau Cyhoeddus
Cofrestrau Cyhoeddus:
Gellir gweld gwybodaeth ynglych eiddo drwy archwilio'r Cofrestr Cyhoeddus yn bersonol.
Math o Gofrestr | Lleoliad |
---|---|
*Cofrestr Priffyrdd: | Penmorfa, Aberaeron |
Cofrestr Cynllunio: | Neuadd y Sir, Aberaeron |
Cofrestr Tir Comin: | Penmorfa, Aberaeron |
*Cofrestr Pridiannau Tir Lleol: | Neuadd y Sir, Aberaeron |
*Mae'n rhaid gwneud apwyntiad gyda'r Gwasanaeth Prifyrdd a’r Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol
Oni nodir yn wahanol gall apwyntiad cael ei wneud am:
Dydd Llun | 10.30am hyd 12.00pm (Canol Dydd) |
---|---|
Dydd Mawrth | 10.30am hyd 12.00pm (Canol Dydd) - 2.30pm hyd 3.30pm |
Dydd Iau2.30pm hyd 3.30pm | |
Dydd Gwener | 10.30am hyd 12.00pm (Canol Dydd) - 2.30pm hyd 3.30pm |
Pan wneir cais i archwilio'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a’r Gofrestr Briffyrdd, dylid anfon cynllun a dynnwyd o fap AO yn dangos yn eglur faint a lleoliad ardal y chwiliad, gyda naill ai gyfeirnod grid chwe ffigwr neu Gôd Post i’r Gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ce.loclalc@ceredigion.gov.uk ac i’r Gwasanaethau Technegol clic@ceredigion.gov.uk.