Cynlluniau Cynefin
Mae Cynlluniau Cynefin yn fecanwaith a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gymunedau ymgysylltu’n greadigol â’r broses gynllunio ac i gynllunwyr gefnogi mentrau creu cynlluniau gyda phobl leol.
Gall Cynlluniau Cynefin ddarparu cyfle i gynnig coethi manylion polisi cynllunio (canllaw thematig neu’n safle benodol) ar gyfer ardaloedd lleol a ddylai adlewyrchu arwahanrwydd lleol a delio â materion lleol a’r rhai sy’n benodol i’r gymuned.
Mae Cynlluniau Cynefin yn delio ag ardal gymunedol neu glwstwr o araloedd cymunedol a disgwylir bod eu paratoi, yn ddelfrydol ond nid yn gyfangwbl,yn cael ei arwain gan Gynghorau Tref a Chymuned, neu trwyddyn nhw os byddant yn dewis sefydlu Grŵp Llywio’r Cynllun, yn ddelfrydol gyda phobl leol yn hytrach na Chynghorwyr yn unig. Gall grŵp lleol annibynnol hefyd gymryd yr awenau o ddechrau Cynllun Cynefin ond byddai’n ddefnyddiol cael o leiaf un Cynghorydd yn rhan ohono.
Mae’r Cynlluniau Cynefin drafft ar gyfer ardaeloedd gyda Chyngorau Tref bellach ar gael i’w gweld, sef Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Cei Newydd a Thregaron, ac yn yr achos hwn maent wedi eu paratoi gan y Cynghorau Tref – gweler y dolenni dogfen ar ochr dde’r dudalen. Os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â'r Cyngor Tref perthnasol.