Creu Lleoedd
Mae egwyddorion creu lleoedd wrth wraidd cynllunio. Mae'r elfennau sylfaenol yn sail i'n penderfyniadau cynllunio ac yn cefnogi ein gweledigaeth a'n hamcanion strategol. Mae datblygu o safon uchel yn cefnogi'r gymuned leol, yn gwella cynaliadwyedd, iechyd a bywiogrwydd cyffredinol y sir, ac yn gwrthsefyll newidiadau a heriau sydd wedi effeithio'n andwyol ar y trefi dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Adran Economi ac Adfywio'r Cyngor yn arwain yr agenda creu lleoedd trwy hyrwyddo cyfres o ddogfennau creu lleoedd. Mae'r dogfennau blaengar hyn ar gyfer creu lleoedd yn cynnig syniadau ac yn rhoi arweiniad arbenigol ar gyfer creu lleoedd ac adfywio, yn ogystal â darparu amrywiaeth o brosiectau cynllunio eraill i hwyluso'r gwaith o gyflawni datblygu cynaliadwy o safon uchel yng Ngheredigion.
Yr uchelgais yw gwneud Ceredigion yn rhywle lle mae pobl am astudio, byw, gweithio ac ymweld ag ef; cael lleoedd sy'n rhwydwaith bywiog o gymunedau, gyda chydberthnasau cryfach sy'n dathlu treftadaeth ddiwylliannol ac sydd â mynediad i amgylchedd gwell, hardd a bioamrywiol. Dylai fod gan y lleoedd y gallu i ddylanwadu ar faterion, newidiadau a heriau cymdeithasol a'u croesawu, a chael mynediad i gyfleusterau cynaliadwy lleol gyda llai o angen i deithio i gael mynediad i wasanaethau, cyfleusterau a swyddi, yn ogystal â chael economi gryf amrywiol a blaengar.
Mae'r gyfres barhaus o ddogfennau ar hyn o bryd yn cynnwys: