Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Apeliadau

Beth i'w Wneud Os Ydych Chi'n Anghytuno â Phenderfyniad

Os nad ydych chi'n deall neu'n anghytuno â'r penderfyniad ynghylch â’ch Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor, gallwch gymryd 3 cham:

  1. Gofyn am esboniad – gelwir hyn yn Ddatganiad o Resymau
  2. Gofyn am adolygiad – gelwir hyn yn Ailystyried (neu Herio'r Penderfyniad ynghylch Budd-dal Tai a Hysbysiad Ysgrifenedig ynghylch Gostyngiad Treth y Cyngor)
  3. Gwneud apêl ffurfiol – mae hyn yn golygu mynd i dribiwnlys annibynnol

Terfynau Amser

  • Fel arfer mae gennych 1 mis o'r dyddiad ar eich llythyr sy’n eich hysbysu o’r penderfyniad i gymryd camau gweithredu
  • Ar gyfer Gostyngiad Treth y Cyngor, mae dyddiadau cau apeliadau yn amrywio ychydig – eglurir isod

Sut i Gysylltu â'r Cyngor

Anfonwch lythyr neu e-bost gan gynnwys:

  • Nodi os ydych chi'n gofyn am esboniad, adolygiad, neu apêl
  • Rhesymau manwl dros eich cais
  • Rhif cyfeirnod eich hawliad, enw llawn, a manylion cyswllt
  • Manylion unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan

Nodyn Pwysig

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad ar Daliad Disgresiwn at gostau Tai (DHP) i'r Tribiwnlys – edrychwch ar y dudalen DHP am ganllawiau.

Pwy All Apelio?

  • Y person sy'n hawlio'r budd-dal
  • Rhywun sy'n gweithredu'n gyfreithiol ar eu rhan
  • Landlord/asiant (ond dim ond ar rai materion fel taliad neu ordaliadau)

1. Datganiad o Resymau (Eglurhad)

Budd-dal Tai:

  • Cais o fewn 1 mis
  • Os gofynnwch am adolygiad neu apêl yn ddiweddarach, nid yw'r amser a dreulir yn aros am ateb yn cyfrif tuag at eich dyddiad cau o 1 mis

Gostyngiad Treth y Cyngor:

  • Cais o fewn 1 mis
  • Os gofynnwch am adolygiad neu apêl yn ddiweddarach, mae eich dyddiad cau o 1 mis yn dechrau eto

2. Ailystyried (Adolygiad)

Cyfeirir at Fudd-dal Tai fel ‘Herio Penderfyniad’:

  • Rhaid gofyn o fewn 1 mis
  • Os gofynnwyd am esboniad yn gyntaf, nid yw’r amser hwnnw’n cyfrif
  • Os ydych chi’n dal yn anfodlon ar ôl yr adolygiad, gallwch apelio o fewn 1 mis i’r llythyr sy’n eich hysbysu o’r canlyniad

Cyfeirir at Gostyngiad Treth y Cyngor fel ‘Hysbysiad Ysgrifenedig’:

  • Rhaid cyflwyno Hysbysiad Ysgrifenedig o fewn 1 mis
  • Os gofynnwyd am esboniad yn gyntaf, mae’r 1 mis yn dechrau eto o ddyddiad yr ateb
  • Os ydych chi’n anfodlon, gallwch apelio o fewn 2 fis i’r llythyr sy’n eich hysbysu o’r canlyniad
  • Os nad oes ymateb o fewn 2 fis, gallwch apelio’n uniongyrchol o fewn 4 mis i’ch Hysbysiad Ysgrifenedig

3. Apêl Ffurfiol

Budd-dal Tai:

  • Anfonwch eich apêl at yr Awdurdod Lleol
  • Rhaid ei gwneud o fewn 1 mis i:
    • Eich llythyr sy’n eich hysbysu o’r penderfyniad os nad oes adolygiad
    • Canlyniad eich adolygiad os gofynnoch am un
  • Rhaid i chi esbonio pam eich bod chi'n credu bod y penderfyniad yn anghywir
  • Gellir derbyn apeliadau hwyr (ar ôl 1 mis) gyda rheswm da, ond nid ar ôl 13 mis

Gostyngiad Treth y Cyngor:

  • Mae apeliadau'n mynd i Dribiwnlys Prisio Cymru (TPC)
  • Rhaid i chi fod wedi cyflwyno Hysbysiad Ysgrifenedig yn gyntaf
  • Apêl o fewn:
    • 2 fis i'r llythyr sy’n eich hysbysu o’r canlyniad
    • Neu os nad oes ateb, rhwng 2–4 mis ar ôl eich Hysbysiad Ysgrifenedig
  • Rhaid gwneud apeliadau ar wefan Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC)

Awgrymiadau

  • Gweithredwch yn gyflym – mae'r terfynau amser yn llym
  • Byddwch yn glir ac yn fanwl ynglŷn â pham rydych chi'n meddwl bod y penderfyniad yn anghywir
  • Os ydych chi'n ansicr, gofynnwch am Ddatganiad o Resymau yn gyntaf – ond peidiwch ag aros yn rhy hir!