Ymgysylltu ynghylch y defnydd o Swyddfeydd y Cyngor yn y dyfodol
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31/01/2022
Mae nifer o staff Cyngor Sir Ceredigion bellach yn gallu gweithio o gartref. Felly, mae yna gyfleoedd sylweddol i drawsnewid y mannau oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer desgiau ac ystafelloedd cyfarfod yn flaenorol.
Gwnaethom ofyn am eich barn a'ch syniadau sut i ddefnyddio prif swyddfeydd / adeiladau'r Cyngor yn y dyfodol.
Ym mis Medi 2023 cymeradwyodd Pwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor gais cynllunio i newid rhan o lawr gwaelod a llawr cyntaf Canolfan Rheidol, Aberystwyth i gyfleuster gofal iechyd. Mae Cyngor Sir Ceredigion bellach yn defnyddio ail a thrydydd llawr yr adeilad ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio'r ddau lawr isaf.
Mae newidiadau eraill i’n swyddfeydd yn cynnwys Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa ym Mhenmorfa, Aberaeron. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa - Cyngor Sir Ceredigion