Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 5 o Orffennaf 2026.

Diolch am gymryd yr amser i gyfrannu at ymgynghoriad y Strategaeth Anabledd Dysgu. Rydyn wir yn gwerthfawrogi eich adborth.

Byddwn nawr yn adolygu'r holl ymatebion ar lefel ranbarthol ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu lleol. Caiff y cynllun gweithredu ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu.

Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal.

Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol, sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Penfro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tîm Perffaith (Dream Team)
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Rydym wedi gweithio gyda'n gilydd i lunio argymhellion am y strategaeth. Nawr yr hoffem glywed eich barn chi amdanynt. Darllenwch yr argymhellion isod ac yna dywedwch wrthym beth ydych chi'n ei feddwl.

Cliciwch yma i ddarllen Argymhellion y Strategaeth.

Mae cwestiwn yn ein harolwg am yr Iaith Gymraeg.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr Iaith Gymraeg a'r Strategaeth.

 

Sut i rannu eich barn

Cwblhewch arolwg ar-lein: Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.

Argraffwch, cwblhewch a dychwelyd yr arolwg: Gopi papur Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o lyfrgell neu ganolfan hamdden yng Ngheredigion, drwy ffonio 01437 764551, neu trwy e-bost i: getinvolved@pembrokesire.gov.uk.

Dychwelwch yr arolwg i: Diwydiannau Norman, Unedau 1-2, Snowdrop Lane, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1JB.

 

Hysbysiad Preifatrwydd 

Bydd y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Benfro, yn unol â gofynion y (RCDd) Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a'r Ddeddf Diogelu Data.  

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Benfro ar eu wefan: Hysbysiad Preifatrwydd - Cyngor Sir Benfro

 

Diolch

Bydd eich ymateb yn cyfrannu at Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026 - 2031.

Bydd eich adborth yn cael ei adolygu ar gyfer cymeradwyaeth gan Gynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn yr Hydref / Gaeaf 2026.