Hoffem glywed eich barn am ein strategaeth ddigidol arfaethedig.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar y 14eg Mai 2024.

Y dyddiad cau fydd 9fed Gorffenaf 2024.

Cefndir 

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datblygu Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer 2024 hyd at 2030 ac fe hoffai ymgynghori â rhanddeiliaid am eu barn. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o 8 wythnos.

Mae Cyngor Ceredigion yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl Ceredigion a bydd yn parhau i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dinasyddion, gwella gwasanaethau ac annog gwytnwch yn ein cymunedau.

Mae'r strategaeth yn ceisio cefnogi'r strategaeth ddigidol genedlaethol yn ogystal â strategaeth y cyngor a chyflawni gweledigaeth “Ceredigion sy’n Hyderus yn Ddigidol”.

Mae ein strategaeth yn nodi ystod o 20 canlyniad rydym yn bwriadu cyflawni dros 3 philer strategol craidd. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei rheoli drwy 3 chynllun bob dwy flynedd gydag adolygiadau ailadroddol ac adborth i flaenoriaethu a mesur ein canlyniadau.

Strategaeth Ddigidol

Am gopi Hawdd i Ddarllen neu Print Bras o’r strategaeth cysylltwch â’n Ganolfan Cyswllt CLIC ar 01545 570881 neu dros e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk

Sut i ymateb

Pan fyddwch chi wedi darllen y manylion uchod ynghylch yr ymgynghoriad, gallwch lenwi’r ffurflen ymateb electronig:

Ffurflen ymateb

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd adroddiad, yn cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad, yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno i'r pwyllgor craffu a'r cabinet am benderfyniad terfynol. Bydd yr adroddiad ar gael yma.