Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Heol Pengraig/Lewis Terrace, Ceinewydd) (Gorchymyn Diwygio Rhif 16)

Daeth yr ymgynghoriad hyn i ben ar 12 Awst 2025.

Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 02/09/2025.

Mae cam cyntaf ac ail gam yr ymgynghoriad ynghylch y gilfach arfaethedig newydd wedi’u cwblhau ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.

Penderfyniad:

Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn, gan gyhoeddi Hysbysiad o Wneud yn y wasg wedi hynny.

Y rheswm dros y penderfyniad:

Er mwyn sicrhau diogelwch y ffyrdd wrth ymyl mynedfa newydd.

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Effaith y Gorchymyn hwn fydd cyflwyno Gwaharddiad newydd ar Barcio Ar Unrhyw Adeg ar ochr orllewinol Heol Pengraig/Lewis Terrace, Ceinewydd o fan 20m i'r gogledd o'r gyffordd â Heol y Dŵr i fan 55m i'r gogledd o'r un gyffordd.

Gellir archwilio'r manylion ar-lein yn Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig a rhai a gyflwynwyd yn ddiweddar - Cyngor Sir Ceredigion ac yn Costcutter, Sgwâr Ucheldir, Ceinewydd SA45 9QH.

Dylid anfon gwrthwynebiadau, gan nodi rhesymau’n ysgrifenedig, mynegiadau o gefnogaeth neu sylwadau eraill i clic@ceredigion.gov.uk neu'r Gwasanaethau Cyfreithiol, trwy law Ystafell y Post, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0AP.