Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Bremiymau Treth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 29/11/2023.
Cyflwynwyd canlyniadau'r ymgynghoriad i Gynghorwyr. Gellir darllen yr adroddiad yma: Atodiad A - Adroddiad Adborth Ymgynghoriad Premiymau Treth y Cyngor
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cyngor ar y 14/12/2023.
Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Ngheredigion
PENDERFYNWYD:
1. fod y premiwm Treth y Cyngor presennol o 25% yn achos Eiddo Gwag Hirdymor yn cynyddu o 01/04/24 ymlaen, i:
a) 100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd neu lai.
b) 150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd).
c) 200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg mlynedd.
Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn.
2a) y bydd y Premiwm Treth y Cyngor o 25% sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i Ail Gartrefi yn cynyddu i 100% i ddod i rym o 01/04/24.
2b) y bydd y Premiwm Treth y Cyngor o 25% sy’n bodoli eisoes sy’n berthnasol i Ail Gartrefi yn cynyddu i 150% i ddod i rym o 01/04/25.
3. Nodi yr ymdrinnir ag unrhyw ystyriaethau ariannol posibl sy’n deillio o’u penderfyniadau cyn gynted â phosibl fel mater ar wahân mewn cyfarfod ar wahân yn y dyfodol.