Skip to main content

Ceredigion County Council website

Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg 2024-2029

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio sylwadau mewn perthynas â Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Ceredigion 2024-2029. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chynnal am gyfnod o bump wythnos hyd at 31ain o Awst 2024. 

Mae’r Strategaeth yn gosod gweledigaeth glir ar sut bydd y Cyngor, drwy weithio mewn cydweithrediad gyda sefydliadau partner eraill, yn mynd ati i hybu’r Gymraeg ac i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.  

 “Rydym am weld y Gymraeg a Chymreictod yn perthyn i bob un yng
Ngheredigion ac yn destun balchder ymysg holl drigolion y sir.”

Nod y strategaeth hon fydd cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd posib ar fywyd, ynghyd ȃ dangos ffyrdd ar gyfer grymuso rhwydweithiau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg mewn ardal ddwyieithog.  Nid yw’r Strategaeth hon yn medru cynnwys yr holl bethau sydd angen ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yng Ngheredigion; fodd bynnag, y nod yw bod mor realistig â phosib, yn unol ȃ’r hyn sydd o fewn maes ein dylanwad fel Fforwm Iaith Dyfodol Dwyieithog Ceredigion. 

Gellir darllen y Strategaeth drafft yma: Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg 2024-2029

Sut i gymryd rhan

Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:

  • Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth SY23 2EB
  • Canolfan Lles Llambed
  • Llyfrgell Llambed
  • Llyfrgell Aberaeron
  • Llyfrgell Aberteifi
  • Llyfrgell Llandysul
  • Llyfrgell Cei Newydd

Darllenwch Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg  Ceredigion 2024-2029, ac yna rhowch eich sylwadau ar y ffurflen adborth hon: Ffurflen adborth ar-lein

Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, a bydd eich sylwadau yn cael eu hystyried cyn i ni gyhoeddi’r Strategaeth derfynol. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd adroddiad, yn cyfleu canfyddiadau'r ymgynghoriad, yn cael ei gynhyrchu a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet am gymeradwyaeth derfynol.