Pont Rhiwarthen, Capel Bangor
Bydd yr ymgyrch hwn yn cau ar 22 o Fawrth 2026.
Mae Pont Rhiwarthen yn bont ar draws Afon Rheidol ar y ffordd C1082, wedi’i lleoli yn union i’r de o Benllwyn Capel Bangor (SN 64935 79820).
Mae angen pont newydd oherwydd cyflwr strwythurol gwael y bont bresennol.
Er bod amryw o waith atgyweirio a chynnal a chadw wedi’u cynnal dros y blynyddoedd, mae’r strwythur bellach wedi dirywio i’r graddau y byddai angen gwaith adfer sylweddol i’w gadw’n ddiogel ac yn addas at y diben.
Mae cyfyngiad pwysau o 3 tunnell wedi’i weithredu i reoli cyflwr y bont ac i leihau dirywiad pellach. Mae cyflwr y bont yn golygu nad yw unrhyw waith trwsio pellach yn ymarferol, ac mae angen pont newydd i’w disodli.
Map

Mae opsiynau’r cynllun yn cael eu datblygu gan ddefnyddio WelTAG, sef canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio a gwerthuso trafnidiaeth. Mae WelTAG yn nodi dull strwythuredig o gynllunio prosiectau, gan ddechrau gyda’r achos dros newid ac yna symud drwy gamau rhesymegol o ddatblygu, cyflawni a gwerthuso.

Cafodd WelTAG Cam 0 (Yr Achos dros Newid) ei gwblhau yn 2023, ac yna WelTAG Cam 1 (Achos Strategol Bras) yn 2024. Rydym bellach yn cynnal WelTAG Cam 2 (Achos Busnes Bras) i leihau’r opsiynau a datblygu’r opsiwn a ffefrir i symud ymlaen gydag ef.
Amcanion y Cynllun
- Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i bob defnyddiwr ar y ddwy ochr i’r afon.
- Cynnal llwybr beicio presennol Rheidiol ar gyfer pob defnyddiwr di-fodur.
- Cynnal mynediad at brif atyniadau teithio gan gynnwys ardaloedd preswyl, a safleoedd busnes a chyflogaeth.
- Gwella cydnerthedd y rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Annog dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i gefnogi’r agenda lleihau carbon.
- Lleihau effaith ar dreftadaeth ac amgylchedd, gan anelu at ennill bioamrywiaeth net.
Datblygu Opsiynau
Drwy ein dealltwriaeth o'r materion cyfredol a'r heriau yn y dyfodol, mae opsiynau posibl wedi’u hadnabod sy'n anelu at gyflawni amcanion y Cynllun. Mae'r opsiynau hyn wedi'u datblygu drwy broses WelTAG, ac unwaith y byddant wedi’u lleihau, bydd achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffefrir yn cael ei baratoi.
Roedd cam 1 WelTAG yn asesu rhestr hir o opsiynau, sydd wedi’i chyfyngu i’r 4 lleoliad canlynol. Caiff y pedwar lleoliad eu hystyried yn WelTAG Cam 2.
Lawrlwythwch copïau o'r cynlluniau arfaethedig yma:
Neu, cliciwch ar y pedwar lleoliad isod i weld cynlluniau arfaethedig ar gyfer bont un rhychwant a phont dwy golofn:
Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Delwedd Pont Rhiwarthen

Pont Fodiwlaidd yn y Lleoliad Presennol (Lleoliad 1)

Cynigion Teithio Llesol
Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth i bob defnyddiwr, cynnal llwybr beicio Rheidol ac annog teithio cynaliadwy yn brif amcanion y cynllun.
Mae'r holl opsiynau yn cynnwys dod â’r bont i fyny i Safonau Teithio Llesol cyfredol, gan ddarparu gofodau ar gyfer cerdded a beicio ar wahân. Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi Cyngor Ceredigion i ehangu llwybrau teithio llesol yn y dyfodol. Bydd croesfan fwy diogel dros Afon Rheidol yn helpu trigolion a busnesau ar y ddwy ochr i gysylltu’n fwy cynaliadwy.

Effeithiau Amgylcheddol
Mae deall effaith y Cynllun ar yr amgylchedd a'r gymuned leol yn rhan bwysig o'n gwaith, fel ein bod yn lleihau effeithiau negyddol ac yn nodi cyfleoedd i wella'r amgylchoedd lle gallwn.
Mae'r ardal o amgylch y bont wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei nodweddion geomorffolegol a biolegol.
Mae asesiadau amgylcheddol yn parhau ac yn mynd rhagddynt, er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ba effeithiau tebygol y gall y cynllun ei gael ar Afon Rheidol a’r amgylchedd lleol. Bydd mesurau lliniaru yn cael eu hystyried a’u cyflwyno yn ôl yr angen ar gyfer unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol.

Effeithiau Adeiladu
Mae deall yr angen i leihau effaith adeiladu ar y rhwydwaith priffyrdd lleol yn ystyriaeth allweddol yn asesiad opsiynau’r Cynllun.
Mae'n debygol y bydd gan bob un o’r opsiynau rywfaint o effaith yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd angen tynnu’r bont bresennol ar gyfer Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 cyn y gellir adeiladu’r bont newydd. Bydd Opsiwn 3 ac Opsiwn 4 yn galluogi’r bont bresennol i aros ar agor; fodd bynnag, bydd aflonyddwch wrth gysylltu’r aliniad newydd â’r rhwydwaith presennol.
Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd y gwaith adeiladu yn cymryd 6 mis i'w gwblhau. Yn dibynnu ar leoliad a math o bont.
Sut i roi Sylwadau
Hoffem glywed eich barn am y cynllun arfaethedig. Bydd eich adborth yn ein helpu i lunio’r dyluniad terfynol.
Dolen ar gyfer holiadur ar-lein: Pont Rhiwarthen - WelTAG Stage 2.
Gallwch lawrlwytho copi o'r cwestiynau yma: Arolwg Pont Rhiwarthen.
Gallwch lawrlwytho copi o'r pecyn wybodaeth yma: Pecyn Wybodaeth Ymgynghoriad - Pont Rhiwarthen.
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'r arolwg o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfonwch e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk.
Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch ag Ymgynghoriaeth Gwynedd: ygc@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679426.
Gellir hefyd anfon sylwadau drwy e-bost i: ygc@gwynedd.llyw.cymru.
Diogelu Data
Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Camau Nesaf
- Datrysiad Dewisol a Nodwyd
- Dyluniad Manwl
- Negodiadau Tir
- Asesiad Amgylcheddol
- Cydsyniadau
- Cynllunio (os oes ei angen)
- Ymgysylltu â Phrif Rhanddeiliaid
- Caffael
- Adeiladu