Skip to main content

Ceredigion County Council website

Polisi Dyrannu Cyffredinol

Mae Cyngor Sir Ceredigion, mewn cytundeb â'n phartneriaid - Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Barcud, Caredig a Thai Wales and West, yn gweithredu Polisi Dyrannu Cyffredinol. 

Mae hyn yn golygu bod ceisiadau ar gyfer pob tŷ cymdeithasol, gwaeth pwy yw'r landlord, yn cael eu gwneud i'r Cyngor drwy ein gwefan Opsiynau Tai Ceredigion. Mae pob uned tai cymdeithasol yng Ngheredigion yn cael eu dyrannu gan Landlord yr eiddo yn unol â'r polisi hwn. 

Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'i bartneriaid i adolygu'r Polisi Dyrannu Cyffredinol ar y cyd. Mae'r galw cynyddol am Dai Cymdeithasol ynghyd â'r awydd i gynnal a chryfhau cymunedau lleol wedi ein harwain i gynnal adolygiad trylwyr o'r ffordd y mae tai yn cael eu dyrannu yn y Sir.  Mae amgylchiadau wedi newid ac mae angen adlewyrchu hyn mewn polisi dyraniadau diwygiedig.

 

Darllenwch ein Polisi Dyraniadau Cyffredin drafft a rhowch eich adborth i ni erbyn 15 Tachwedd 2024.

Polisi Dyrannu Cyffredinol

Mae cwestiwn 9 o'n harolwg yn cyfeirio at aelwydydd sy'n byw ar ein ffin. Mae'r map hwn yn dangos y pentrefi perthnasol.

Map o'r pentrefi ffiniol.

 

Sut i gymryd rhan

Llanwch ein harolwg ar-lein trwy Microsoft forms

Lawr lwythwch gopi papur o'r arolwg

Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Tai, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol. Hefyd, mae modd gwneud cais am gopi papur drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes angen copi o'r Polisi Dyrannu Cyffredin Drafft a'r arolwg ymgynghori mewn fformat arall fel Hawdd ei Ddarllen, ffoniwch 01545 570881 neu e-bostiwch localhousingstrategy@ceredigion.gov.uk

 

I ddarllen sut mae'r Cyngor yn casglu, defnyddio a chadw unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, ewch i'r Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ar ein gwefan.

 

Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. Mae’r manylion cyswllt i’w gweld uchod.