Llunio dyfodol ein Heconomi Leol
Cyfle i berchnogion busnesau lleol, grwpiau cymunedol a thrigolion rannu eich syniadau ar gyfer llunio dyfodol ein heconomi leol.
Rydym yn adolygu ein Strategaeth Economaidd a byddem wrth ein bodd yn clywed eich meddyliau a'ch awgrymiadau.
Dyma ddolen i'n Strategaeth Economaidd gyfredol - Strategaeth Economaidd 2020-35
Fe'ch gwahoddir i ddod i gwrdd â thîm Cynnal y Cardi y Cyngor yn un o'r lleoliadau canlynol.
Bydd yr holl sesiynau galw heibio yn rhedeg rhwng 4yp a 7yp.
• Tregaron, Y Banc - Dydd Mawrth 4ydd Tachwedd
• Llandysul, Porth Llandysul - Dydd Mercher 5ed Tachwedd
• Aberystwyth, Theatr Arad Goch - Dydd Iau 6ed Tachwedd
• Aberaeron, The Castle - Dydd Llun 10fed Tachwedd
• Borth, ‘Star of the Sea’ - Dydd Mawrth 11eg o Dachwedd
• Aberteifi, Guildhall - Dydd Mercher 12 Tachwedd
• Llanbedr Pont Steffan, Black Lion - Dydd Iau 13 Tachwedd
• Aberporth, Shibwns - Dydd Gwener 14eg Tachwedd
• Cei Newydd, Yacht Club - Dydd Llun 17eg Tachwedd
Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes unrhyw ffordd y gallwn wneud y sesiwn galw heibio’n fwy hygyrch i chi, cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi, gwasanaeth yr Economi ac Adfywio.
E-bost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 570881
Ewch i'n gwefan i ddarllen mwy am Gynnal y Cardi - Cynnal Y Cardi - Creu twf cynaliadwy ac economaidd i Geredigion