Hybu Economi Ceredigion: Strategaeth i weithredu 2020-35
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i dderbyn adborth ar ddrafft y Strategaeth Economaidd. Mae’r strategaeth wedi gosod allan sut byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni tyfiant economaidd cryf, cynaliadwy a fwy hydwyth i Geredigion, sydd wedi’i chreu a’i rhannu gan bawb. Bydd yn cynrychioli ein fframwaith i weithredu, yn amlinellu ein huchelgais ar gyfer y 15 mlynedd nesaf, ac yn gosod allan y camau y byddwn yn cymryd i gyflawni’r uchelgais.
Mae’r Strategaeth wedi’i adolygu wrth ystyried effaith pandemig Covid-19 dros y chwe mis diwethaf ac mae’r cynllun gweithredu wedi’i diweddaru er mwyn ystyried gweithredai i ymateb i’r goblygiadau uniongyrchol a hir dymor i economi Ceredigion.
Hoffem glywed barn busnesau a thrigolion Ceredigion am Strategaeth Economaidd y sir. Mae eich barn yn bwysig iawn a byddwn yn ystyried eich sylwadau wrth fynd ati i gyhoeddi’r Strategaeth derfynol a llunio dyfodol yr economi leol.
Mae’r canlynol yn ddogfennau cefnogol:
Rhoi Hwb I Economi Ceredigion Strategaeth ar gyfer Gweithredu