Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig - Adolygiad o Ymgynghoriad Polisi
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 05/06/2024.
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar y 17/07/2024.
Adborth Craffu- Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig
PENDERFYNIAD:
1. Cymeradwyo Polisi Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (Atodiad 1).
2. Cymeradwyo Polisi Ariannol y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig (Atodiad 2).
3. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol Statudol i weithredu'r polisi a'r adolygiad newydd yn flynyddol.
4. Nodi adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Iachach.
Y rheswm dros y penderfyniad:
Alinio â Rheoliadau Gwarcheidwaeth Arbennig (Cymru) (Diwygio) 2018 a Chod Ymarfer Gwarcheidiaeth Arbennig ar arfer swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig 2018.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn dilyn adolygiad o'n Polisi Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (Ariannol a’r polisi cyffredinol) yn unol â chod ymarfer Gwarcheidiaeth Arbennig Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2018).
Sut i gymryd rhan
A wnewch chi lenwi’r arolwg erbyn hanner dydd ar ddydd Mercher, 5 Mehefin 2024.
Os hoffech gysylltu â ni, neu fod gennych bryder neu am drafod rhyw elfen ymhellach, cysylltwch â ProjectOffice@ceredigion.gov.uk.
Gellir dod o hyd i'r polisi ariannol a chyffredinol o dan yr adran I'w lawrlwytho.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau ar ddydd Mercher 5 Fehefin 2024.