
Datganiad o Bolisi Trwyddedu 2026-2031
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar 1af Rhagfyr 2025.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn Awdurdod Trwyddedu. Rydym yn adolygu ein Datganiad o Bolisi Trwyddedu bob 5 mlynedd.
Rhaid adolygu polisïau'r Ddeddf Trwyddedu bob pum mlynedd i sicrhau bod y polisi yn parhau i fod yn gyfreithiol ddilys ac yn adlewyrchu canllawiau cenedlaethol cyfredol, blaenoriaethau lleol, ac anghenion cymunedol sy'n esblygu. Mae hyn yn helpu i gynnal perthnasedd i'r pedwar amcan trwyddedu statudol:
- atal trosedd ac anhrefn
- sicrhau diogelwch y cyhoedd
- atal niwsans cyhoeddus, ac
- amddiffyn plant rhag niwed.
Mae'r broses adolygu hefyd yn hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd trwy gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol fel yr heddlu, y gwasanaethau tân, cyrff iechyd cyhoeddus, busnesau a thrigolion.
Dyma'r prif newidiadau i'r ddogfen:
- Mwy o gyfeiriadau at ddiogelwch personol a bregusrwydd (paragraff 8.5);
- Cyfeiriadau at ofynion ailgylchu newydd yn y gweithle (paragraffau 10.2.1 i 10.2.3);
- Cyfeiriadau at Gyfraith Martyn (paragraff 11.5);
- Cyfeiriadau newydd at werthiannau drwy ddirprwy (paragraff 12.8);
- Cyfeiriadau newydd at gyflogaeth plant (paragraff 12.10);
- Ychwanegiad mewn perthynas â digwyddiadau ar raddfa fawr (paragraff 20);
- Ychwanegiad mewn perthynas â goruchwylwyr mangre dynodedig (paragraff 21);
- Ychwanegiad mewn perthynas â gerddi cwrw (paragraff 22);
- Ychwanegu cronfa o amodau enghreifftiol (Atodiad C).
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ar y newidiadau hyn, ac ar y ddogfen yn ei chyfanrwydd.
Rhagor o Wybodaeth
Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu diwygiedig - Polisi Trwyddedu Drafft 2026.
Cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen yr Asesiad Effaith Integredig o’r newidiadau: Asesiad Effaith Integredig: Polisi Trwyddedu 2026-31.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg ar-lein - Arolwg Datganiad Ar-lein o Bolisi Trwyddedu.
Lawrlwythwch gopi papur - Arolwg Datganiad o Bolisi Trwyddedu, fersiwn 'Word'.
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom - clic@ceredigion.gov.uk.
Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i'r Tîm Trwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn dadansoddi'r adborth rydych chi'n ei roi i ni ac yn cyflwyno'r adroddiad, asesiad effaith integredig wedi'i ddiweddaru a'r Datganiad Polisi Trwyddedu drafft terfynol i Gabinet Cyngor Ceredigion ar 6 Ionawr 2026.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd Cabinet Cyngor Ceredigion, dilynwch y ddolen hon Cyngor Sir Ceredigion.
Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynnig hwn, cysylltwch â ni drwy'r manylion cyswllt uchod.