Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru - Arolwg Ynni Ymgysylltu â'r Cyhoedd
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 31/03/2024.
Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL) bellach wedi'u creu ar gyfer Ceredigion a Phowys. Mae'r gwaith yn cael ei hwyluso gan Tyfu Canolbarth Cymru. Mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys bellach wedi cymeradwyo ein Cynlluniau Ynni Ardal Leol unigol.
Casglodd yr ymgynghoriad hwn farn pobl ar y trawsnewid ynni a bydd yn helpu i lywio'r gwaith o gyflawni ein Cynlluniau Ynni Ardal Leol.
Mae mwy o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd ar gael ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru Ynni a Sero Net - Welsh - Tyfu Canolbarth Cymru
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Beth yw Cynllunio Ynni Ardal Leol (CYAL)?
Mae'n gynllun i nodi'r llwybr mwyaf effeithiol tuag at gyrraedd y targed sero net cenedlaethol wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau lleol.
Gweler y ddolen i fideo a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Cynllunio Ynni Ardal Leol Cymru.
Fel rhan o'r broses gynllunio, rydym am ddeall eich defnydd ynni a thrafnidiaeth presennol a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae ein harolwg ynni ymgysylltu â'r cyhoedd yn ceisio deall eich barn am:
- Defnydd ynni a thrafnidiaeth presennol
- Technolegau ynni carbon isel
- Systemau gwresogi carbon isel
- Opsiynau teithio cynaliadwy
Bydd yr holl Gynlluniau Ynni Ardal Leol yng Nghymru wedi'u cwblhau erbyn mis Mawrth 2024.
Yna bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o greu Cynllun Ynni Cenedlaethol i Gymru, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad yn y dyfodol ar gyfer pob rhan o'r wlad.
Mae eich barn yn bwysig i dynnu sylw at gamau posibl yn y dyfodol ar gyfer cynghorau lleol, darparwyr rhwydweithiau trydan a nwy, a phartïon lleol eraill, gan ein cynorthwyo i symud i ffynonellau ynni mwy ecogyfeillgar.