Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 4 Ebrill 2025.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn 2025 ar Gynllun Trafnidiaeth Ranbarthol drafft, ystyriwyd adborth yn ofalus a'i ddefnyddio i adolygu'r cynllun a'i ddogfennau cysylltiedig. Cyflwynwyd y rhain i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo ym mis Mai.

Cliciwch ar y ddolen hon i ddarllen y dogfennau: Cyfarfod Cydbwyllgor Corfforedig y Canolbarth (eitem 4).

Cymeradwywyd fersiwn derfynol Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol Canolbarth Cymru (2025-2030) yn swyddogol gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar 30 Medi 2025, a bydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

Bydd awdurdodau lleol yng Nghanolbarth Cymru yn dechrau cyflwyno cynlluniau'r Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ym mis Ebrill 2026, gyda monitro ac adolygiad yn cael eu harwain gan Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cydbwyllgor Corfforedig

Ymgynghoriad Gwreiddiol

 

Mae Tyfu Canolbarth Cymru, sydd hefyd yn gweithredu fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, yn gyfrifol am gynllunio trafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir strategol, a hyrwyddo lles economaidd.

Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd, gan lunio'r ffordd rydym yn cael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, a hamdden.

Mewn cydnabyddiaeth o'i bwysigrwydd, mae'r Cyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) i nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn trawsnewid trafnidiaeth yn y rhanbarth.

Mae'r drafft CTRh yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol i greu system drafnidiaeth gynaliadwy, carbon isel ac effeithlon. Bydd yn canolbwyntio ar wella cysylltedd o fewn a’r tu hwnt i Ganolbarth Cymru wrth fynd i'r afael â heriau sy'n unigryw i'n tirlun gwledig.

Mae nodau allweddol y CTRh yn cynnwys:

  • Cynyddu mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy fel beicio, cerdded, a trafnidiaeth cyhoeddus.
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i hybu twf economaidd a thwristiaeth.
  • Cefnogi ymdrechion i leihau yr effeithiau amgylcheddol gan drafnidiaeth

Gwelwch y Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

Gwelwch y crynodeb o'r Cynllun

Gwyliwch fideo llawn gwybodaeth am y CTRh: https://youtu.be/v_eznQ4eyew?feature=shared

Mae’r CTRh yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, dan arweiniad Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 gan Lywodraeth Cymru. Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn gam hanfodol yn y broses, gan roi cyfle i chi lunio’r cynllun terfynol.

Rydym yn gwahodd trigolion, busnesau, ac ymwelwyr i rannu eu barn ar y cynigion a chyfrannu at siapio dyfodol trafnidiaeth y rhanbarth. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawn, a bydd yn cael ei ystyried pan rydym yn datblygu’r CTRh terfynol a gyhoeddir yng Ngwanwyn 2025.

Sut i gymryd rhan

Cwblhewch ein arolwg Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru ar-lein.

Lawrlwythwch ein arolwg Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru: Holiadur Ar Gyfer Drafft Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru. Dychwelwch gopïau papur i 'ch Llyfrgell, Canolfan Lles neu Ganolfan Hamdden leol.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'ch Llyfrgell, Canolfan Llesiant neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru.

Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

*Mae'r atodiadau i'r Cynllun ar gael ar dudalen Trafnidiaeth Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru: https://www.tyfucanolbarth.cymru/article/10137/Trafnidiaeth-Canolbarth-Cymru