Mae Ceredigion yn cynnal Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd i sefydlu sut yr ydym yn gwneud a beth y gallwn ei wneud i wella bywydau pobl sydd yn byw â dementia a'r rheini sy'n gofalu amdanynt.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch yr holiadur erbyn canol dydd ar Fawrth 31ain 2023. Gallwch naill ai ymateb neu lawrlwytho’r ffurflen ymateb a’i dychwelyd drwy e-bost neu’r post i Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.
Os oes angen i chi gysylltu â ni neu os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformatau eraill (er enghraifft, fersiwn Hawdd ei Ddeall, fersiwn print bras neu fersiwn pobl ifanc), cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.
Sesiynau Galw Heibio
Mae sesiynau galw heibio wedi eu trefnu yn y trefi canlynol yng Ngheredigion: -
Dydd Llun 13 Mawrth
11:00-14:00 - Aberaeron - Feathers Royal Hotel
16:00-19:00 - Llandysul - Gwesty’r Porth
Dydd Mawrth 14 Mawrth
14:00-19:00 - Aberystwyth a'r cyffiniau - Canolfan Morlan, Queen's Road/North Parade
Dydd Iau 16 Mawrth
11:00-14:00 - Tregaron - Neuadd Goffa
16:00-19:00 - Llanbedr Pont Steffan - Victoria Hall
Dydd Gwener 17 Mawrth
14:00-19:00 - Aberteifi - Neuadd y Dref
Cwestiynau Cyffredin
Ydy fy adborth yn ddienw?
Ydy, mae eich adborth yn ddienw.
Daeth yr arolwg ymgysylltu hwn i ben ddydd Gwener 31 Mawrth 2023.